Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae rhannu manylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy heddiw yn foment wirioneddol bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd y Cynllun yn helpu ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ac i ofalu am yr amgylchedd, addasu i'r newid yn yr hinsawdd a gwella pethau i bawb a fydd yn gweithio'r tir gwerthfawr hwn ac yn gofalu amdano yn y blynyddoedd i ddod.
Ein huchelgais yw gweld sector amaethyddol ffyniannus a hyderus yng Nghymru, sy'n dibynnu ar arloesedd a thwf, i wynebu heriau a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth cydweithredu digynsail. Rydym wedi gwrando ar ystod o sylwadau dros y blynyddoedd, ac wedi cydweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar y Ford Gron Gweinidogol a grwpiau cefnogi. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Mae hyn oll wedi arwain at Gynllun sy’n gweithio i'r diwydiant amaethyddol ac sydd hefyd yn diwallu anghenion pawb yng Nghymru. Cynrychiola'r Cynllun hwn gytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr a pherchnogion ein tir.
Mae fframwaith y Gweithredoedd Cyffredinol, gyda'r gallu i adeiladu at y Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol, yn ymateb i'r galw gan y gymuned ffermio a rhanddeiliaid eraill. Bydd y fframwaith hwn yn darparu sefydlogrwydd wrth helpu busnesau fferm i fod yn fwy gwydn.
Rydym wedi cynnal y gyllideb o £238 miliwn ar gyfer 2026 i annog cymaint â phosibl o ffermwyr i ymuno â'r Cynllun, fel y gallant ddechrau elwa ar y manteision cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi nodi'n glir na fydd ein hymrwymiadau o ran yr hinsawdd a natur ond yn cael eu bodloni os bydd defnydd sylweddol o'r Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol, wedi'u blaenoriaethu i sbarduno newid amgylcheddol cadarnhaol a gwell effeithlonrwydd ffermio. Po gynharaf a mwyaf fydd y diddordeb, y cynharaf y byddwn yn gweld manteision y Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol ar raddfa eang.
Dyma pam rydym wedi ymrwymo i neilltuo cyfran uwch o’r gyllideb i Weithredoedd Dewisol a Chydweithredol yn y blynyddoedd dilynol. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o sut mae camau gweithredu fel diogelu ein hamgylchedd yn cyfrannu at werth cymdeithasol, gan gymhwyso hyn yn y dyfodol o ran Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol.
Rydym wedi gwrando ac wedi cyflwyno newidiadau o ran y gofyn i blannu coed, gan fabwysiadu dull sy'n cymell ffermwyr i blannu trwy greu cynllun cyfle plannu coed a gwrychoedd yn hytrach na'i gwneud hi'n ofynnol i bawb blannu coed. Golyga hyn ein bod yn cynnig cefnogaeth hael a hyblyg ar gyfer plannu coed a pherthi o fewn yr Haen Ddewisol. Nid ydym yn disgwyl i ffermwyr blannu coed ar eu tir mwyaf cynhyrchiol ac nid ydym yn awyddus iddynt wneud hynny – nhw fydd yn penderfynu ble i blannu, gyda chyngor a chanllawiau clir i sicrhau bod y goeden gywir yn y lle cywir.
Nid yw newid byth yn hawdd a gall godi ofn mawr. Mae'r Cynllun hwn yn wahanol iawn i'r pecynnau cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, ond mae'n newid a fydd yn llesol i ffermio o ran cynhyrchu bwyd ac yn newid a fydd yn llesol i'r amgylchedd.
Rydym yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn ymuno â'r Cynllun. Bydd Cyfnod Pontio a Chynllun y Taliad Sylfaenol ar gael i'r rhai nad ydynt yn ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond bydd hyn yn gostwng 40% y flwyddyn nesaf. Dyma fyddai wedi digwydd petaen ni wedi cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025. Rydym yn blaenoriaethu ein harian gan ganolbwyntio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn annog ffermwyr i ymuno â'r Cynllun fel y gallant ddechrau elwa arno.
Bydd y Cynllun yn dechrau ar 1 Ionawr 2026 ond dim ond y dechrau yw hynny. Ein nod yw cefnogi ffermwyr a ffermio a sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu'n gynaliadwy yn yr hirdymor. Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â holl Aelodau'r Senedd i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynrychioli ac yn cefnogi'r agweddau gorau ar amaethyddiaeth yng Nghymru, ac yn creu'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd eu hangen ar ffermwyr i fod yn wirioneddol wydn a chynaliadwy.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach mewn Datganiad Llafar i Aelodau'r Senedd y prynhawn yma.
