Neidio i'r prif gynnwy

Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Digwyddiadau cyfredol:
Sefydliadau:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel llywodraeth rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn codi safonau addysg. Ac erbyn diwedd tymor y Senedd hon, dylai Cymru weld gwelliant cyson mewn llythrennedd a rhifedd i bob dysgwr. 

Rydym wedi gwneud cynnydd da iawn wrth ddatblygu ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn yr hydref. Rwyf hefyd yn ysgrifennu at ysgolion ac awdurdodau lleol i’w hysbysu am y cynnydd hwn. Mae fy llythyr at ysgolion ynghlwm.

Bydd y cynllun yn nodi dangosyddion cenedlaethol clir i olrhain ein cynnydd addysgol fel cenedl. Bydd y rhain yn cynnwys cyhoeddi ystod o ddata cenedlaethol, gan gynnwys asesiadau personol, cymwysterau, a gwybodaeth ehangach am y system addysg. Bydd yn cynnwys dealltwriaeth sylfaenol o ddysgwyr pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol, a dangosydd darllen a rhifedd newydd sy’n gysylltiedig ag oedran ar gyfer Blwyddyn 6 trwy asesiadau personol.

Bydd hyn hefyd yn sail ar gyfer rhannu gwybodaeth yn well rhwng ysgolion a chydag awdurdodau lleol: i helpu i ddeall cynnydd, fel sail ar gyfer sgyrsiau sy’n ystyriol o ddata am welliant parhaus ysgolion, ac i wella’r cymorth sydd ar gael ar gyfer ymyriadau priodol.

Bydd y cynllun yn mabwysiadu dull gweithredu 0 i 16, gan gydnabod bod datblygiad llythrennedd a rhifedd plant yn dechrau cyn yr ysgol, ac yn cael ei gefnogi gan rieni, gofalwyr, ymarferwyr, ysgolion, a gwasanaethau ehangach. Mae’n canolbwyntio ar bob dysgwr gyda’r nod o gau’r bwlch cyrhaeddiad a chefnogi safonau uchel i bawb. Byddwn yn cael ein llywio gan y dystiolaeth: bydd y Grŵp Arbenigol Llythrennedd yn parhau ac rwyf yn sefydlu grŵp cyfatebol ar gyfer Rhifedd. 

Ochr yn ochr â’r cynllun, byddwn yn symud yn gyflym yn gynnar yn nhymor yr hydref i ddarparu manylion ychwanegol o flwyddyn i flwyddyn i roi eglurder llwyr am yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a phryd. Byddwn yn symleiddio’r canllawiau ac yn sicrhau eu bod yn hollol ddiamwys ynglŷn â rôl Ffoneg Synthetig Systematig, yn seiliedig ar adolygiad o’r arferion a’r adnoddau presennol. Bydd y cynllun hefyd yn nodi sut y byddwn yn darparu eglurder ynghylch asesu er mwyn helpu i osod targedau ar gyfer plant, i ddarparu cymorth pontio, ac i nodi angen yn gynnar a darparu cymorth.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dysgu a chymorth proffesiynol ar gael trwy bartneriaid cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Dysgu ac awdurdodau lleol.

Bydd y cynllun hefyd yn nodi’r dull gweithredu mewn perthynas â llyfrgelloedd, gan sicrhau gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030, gan gydnabod y rôl y gall llyfrau ei chwarae wrth feithrin awch am ddarllen. 

I gyflawni’r cynllun, bydd angen cydweithio’n agos ar draws y system. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion, awdurdodau lleol, Estyn a chyrff cenedlaethol i sicrhau dull gweithredu cyson sydd wedi’i gydlynu, yn seiliedig ar arbenigedd ymarferwyr ac arferion effeithiol. Ni allwn wneud hyn hebddynt, ac rwy’n diolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus i’n dysgwyr wrth inni sicrhau ymdrech genedlaethol ar y cyd i gefnogi pob plentyn a phob person ifanc i lwyddo.