Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i'r flwyddyn ysgol hon ddod i ben, rwy'n falch o rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ledled Cymru drwy ein dull Ysgolion Bro o weithredu.

Ein huchelgais yw sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn Ysgol Fro, yn meithrin partneriaeth gref â theuluoedd ac yn cydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill i gefnogi dysgwyr a chyfoethogi'r gymuned ehangach. Hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion, unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o gefnogi'r dull gweithredu hwn gydol y flwyddyn ysgol hon.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gefnogaeth ariannol i ddarparu Ysgolion Bro ar lawr gwlad i dros £11 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cynnydd penodol, i £9.5 miliwn, ar gyfer recriwtio a chadw Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, ynghyd â pharhau i gyllido Rheolwyr Ysgolion Bro. Mae'r rolau hyn yn hanfodol wrth gefnogi ysgolion i ddatblygu'r perthnasoedd lle mae pawb yn ymddiried yn ei gilydd sydd eu hangen i weithio gyda theuluoedd mewn ffordd ystyrlon ac i gefnogi gweithio mewn partneriaeth.

Er mwyn cefnogi datblygu'r rolau, rydym yn darparu £1 miliwn i awdurdodau lleol i'w helpu i wreiddio strategaethau cyflawni a gwella datblygiad proffesiynol. Rydym hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd. Nod y rhwydwaith hwn yw ei gwneud yn bosibl i ddatblygu trafodaethau proffesiynol ac arfer da ar lefel leol ac ar draws Cymru; gyda chyfleoedd am Ddysgu Proffesiynol wedi'u llywio a strwythur i alluogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd i godi materion strategol a gweithredol ynghylch datblygu Ysgolion Bro.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu £20 miliwn arall yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prosiectau seilwaith Ysgolion Bro ledled Cymru’n benodol, drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae hyn yn adeiladu ar y gwerth £40 miliwn o brosiectau a gymeradwywyd yn ystod 2023-24 a 2024-25, a £20 miliwn yn 2022-23. Bydd hyn yn darparu lleoliadau sy'n cefnogi’n benodol y gwaith o ymgysylltu â theuluoedd, cymunedau a disgyblion, a gweithio aml-asiantaeth. Edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi rhagor o fanylion y prosiectau a fyddant yn mynd rhagddynt maes o law.

Ym mis Mawrth 2025, gwnaethom gyhoeddi Datblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro. Dyma'r darn olaf mewn cyfres lawn o ganllawiau sydd wedi'u datblygu i gefnogi rhanddeiliaid allweddol i roi dull Ysgolion Bro ar waith. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys canllawiau cyffredinol ar bolisi Ysgolion Bro; canllawiau atodol ar agweddau allweddol o ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned; a set o astudiaethau achos. Rwy'n falch iawn, heddiw, o allu ychwanegu at yr adnodd hwn drwy gyhoeddi tair astudiaeth achos newydd ar fideo ar wefan Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n dangos enghreifftiau o'r strategaethau a'r gweithgareddau y mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi'u defnyddio i roi newidiadau cadarnhaol ar waith sy'n ennyn diddordeb eu dysgwyr, eu teuluoedd, eu cymunedau a'u partneriaid, ac yn eu cefnogi.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgol Gynradd Adamsdown, Campws Dysgu Queensferry ac Ysgol Y Moelwyn am roi eu hamser a'u harbenigedd inni wrth ddatblygu'r astudiaethau achos hyn. 

Mae'n bleser gennyf ddweud bod y buddsoddiad a'r gweithgaredd sylweddol hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a'u teuluoedd ledled Cymru. Mae Estyn, yr Arolygiaeth Genedlaethol, wedi nodi achosion penodol lle mae dulliau ysgolion bro wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb unigolion, ar les disgyblion a theuluoedd, ac ar hyder fel dysgwyr gydol oes, ar lefel yr awdurdod lleol ac mewn ysgolion unigol.

Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith pwysig hwn yn y tymor newydd.