Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Rwyf heddiw yn cadarnhau mai'r cynnydd mewn rhent cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fydd 4%. Mae hyn yn unol â Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru 2026-2036 a'r paramedrau a bennir yn y ddogfen honno ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gyhoeddi cyfradd chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr mis Medi, sef 3.5%.
Rwyf wedi fy modloni bod y cap hwn yn sicrhau bod fforddiadwyedd i denantiaid yn parhau i fod wrth wraidd ein polisi rhent cymdeithasol gan ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i landlordiaid cymdeithasol allu cyflawni'r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Mae cartref diogel o ansawdd da yn hanfodol i iechyd, addysg, ymdeimlad o berthyn a llesiant cyffredinol pobl. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni gydweithio i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol er mwyn darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol, mynd i'r afael â digartrefedd a gwella ansawdd, effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd cartrefi presennol.
Er mwyn diwallu'r angen presennol ac yn y dyfodol o ran tai, bydd angen i bolisi rhent cymdeithasol gydbwyso fforddiadwyedd i denantiaid â chynaliadwyedd ariannol landlordiaid cymdeithasol. Mae incwm rhagweladwy yn galluogi landlordiaid i gynnal a chadw cartrefi, darparu gwasanaethau hanfodol a buddsoddi mewn stoc newydd a'r stoc presennol. Yn y cyfamser, mae rhenti fforddiadwy yn helpu i gynnal tenantiaethau, yn cefnogi llesiant a sefydlogrwydd aelwydydd ac yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid wrth gyllidebu.
Rwy'n cydnabod ein bod yn parhau i weithredu yng nghanol anwadalrwydd ac ansicrwydd economaidd sylweddol. Mae chwyddiant uchel, pwysau costau byw a chyllid cyhoeddus cyfyngedig yn tanlinellu'r ffaith bod angen sicrhau bod fforddiadwyedd yn parhau i fod wrth wraidd penderfyniadau ynghylch pennu rhent. Yn y cyd-destun hwn, byddwn yn pwysleisio mai hwn yw'r cynnydd blynyddol mwyaf a ganiateir, nid yw'n gynnydd awtomatig i landlordiaid cymdeithasol ei gymhwyso.
Dyna pam y byddaf hefyd yn cyhoeddi adroddiad yn nodi canfyddiadau'r Ffurflenni Monitro Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth a gyflwynwyd gan landlordiaid cymdeithasol. Bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn helpu i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ym mhob rhan o'r sector ac yn rhoi darlun clir i denantiaid, landlordiaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ehangach o'r ffordd y mae'r Safon yn cael ei gweithredu ledled Cymru.
Mae fforddiadwyedd yn parhau i fod wrth wraidd y Safon Rhenti. Ochr yn ochr â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu fframwaith fforddiadwyedd er mwyn hyrwyddo dull cyson, tryloyw a chynaliadwy o bennu rhenti ledled Cymru.
Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i gadw rhenti'n fforddiadwy, yn gwella gwydnwch hirdymor y sector tai cymdeithasol ac yn helpu i gyflenwi'r tai sydd eu hangen ar Gymru.
