Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig,

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar gysylltiadau rhynglywodraethol ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Gorffennaf 2024, yng nghyd-destun y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

Bwriad yr adroddiad yw rhoi trosolwg o’r gwaith rhynglywodraethol a gafodd ei gyflawni ar draws Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hyd at Etholiad Cyffredinol y DU 2024. Mae'r profiad o weithio'n rhynglywodraethol, fel sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad, wedi datblygu'n sylweddol ers y pwynt hwnnw. 

Mae'r adroddiad yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd Llywodraeth Cymru a roddir i'r Senedd (dolen allanol) mewn cyfarfodydd llawn a phwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth, sydd ar gael ar wefan y Senedd.