Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar gysylltiadau rhynglywodraethol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2024 a mis Mawrth 2026, yng nghyd-destun y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dyma'r adroddiad trosolwg cyntaf ers Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU ym mis Gorffennaf 2024 a'i fwriad yw darparu barn deg a chytbwys. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi gweld patrwm a threfniadau cyffredinol cryfach i’r dulliau ffurfiol a nodir yn yr Adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, gan adlewyrchu gwelliant mewn gwaith rhynglywodraethol. Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd hwn wedi bod yn gyson ym mhob maes, ac mae achosion o hyd lle mae ymgysylltu wedi bod yn gyfyngedig neu’n anwastad.
Mae'r adroddiad yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd Llywodraeth Cymru a roddir i'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn a phwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth, sydd ar gael ar wefan y Senedd.
