Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 15 Tachwedd, atebais gwestiwn llafar (OAQ51270) yn y Cynulliad gan Caroline Jones, Gorllewin De Cymru, ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Cytunais i rhannu gyda’r aelodau ddata UCAS ar ystadegau ceisiadau i’r prifysgolion hyd at y dyddiad cau, sef  15 Hydref (byddai hyn yn cynnwys Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau milfeddygol a meddygaeth).

Gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i gael mynediad at adroddiadau UCAS gan gynnwys adroddiad 2018 ar “ystadegau ceisiadau, dyddiad cau 15 Hydref ar gyfer cylchred 2018 — a gyhoeddwyd ar 26 Hydref 2017”.

https://www.ucas.com/corporate/data-and-analysis/ucas-undergraduate-releases/ucas-undergraduate-analysis-reports