Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein Datganiad Ansawdd newydd ar gyfer Gofalu am Gleifion Difrifol Wael, sy’n disodli’r Cynllun Cyflawni cyfredol ar gyfer Cleifion Difrifol Wael, ac a fydd yn parhau i geisio gwelliannau mewn gwasanaethau gofal critigol ar gyfer pobl yng Nghymru.

Roedd y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 yn tynnu sylw at gyfres o ddatganiadau ansawdd, sy’n amlinellu ein disgwyliadau ar gyfer gwella gwasanaethau clinigol unigol yn y tymor canolig. Bydd y rhain yn cael eu cefnogi gan fanylebau gwasanaeth manwl, i ysgogi darpariaeth y GIG.

Rhoddir gofal critigol i gleifion sydd ag anafiadau a salwch sy’n peryglu eu bywyd ac sydd angen eu monitro’n gyson a / neu sydd angen triniaeth i gynnal organau sy’n methu. Oherwydd bod ein poblogaeth yn tyfu ac yn heneiddio, mae’r galw am ofal critigol yn cynyddu, a’r galw hwn sy’n ei wneud yn heriol inni gyflawni gwell canlyniadau i gleifion difrifol wael.

Datblygwyd y Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofalu am Gleifion Difrifol Wael mewn partneriaeth â’r Grŵp Gweithredu ar gyfer y Rhai sy’n Ddifrifol Wael ac amryw o bartneriaid allweddol, gan gynnwys Bwrdd Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru. Mae’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau ar draws Cymru a lleihau amrywiadau mewn gofal. Mae’r datganiad hefyd yn disgrifio beth y dylem ddisgwyl ei weld gan ein gwasanaethau gofal critigol yng Nghymru – gan ganolbwyntio ar ofal sy’n ddiogel, yn amserol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn effeithlon ac yn deg. 

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth a nodwyd yn y Datganiad Ansawdd, mae angen inni ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio â grwpiau eraill i fynd i’r afael â meysydd fel gofal heb ei drefnu a gofal wedi’i gynllunio, adsefydlu, pobl ar ddiwedd eu hoes a rhoi organau. Mae hefyd yn gofyn am gydweithio â meysydd sy’n ymwneud â phrif gyflyrau iechyd eraill, fel y galon, canser, trawma mawr a gwasanaethau fasgwlaidd.

Fel y nodwyd yn y strategaeth 'Cymru Iachach', bydd gwasanaethau yn yr ysbyty, fel gofal critigol, yn parhau i fod yn rhan hanfodol a gweladwy o’n system iechyd a gofal yn y dyfodol. Fel gyda systemau gofal iechyd eraill, mae angen inni gyflymu’r newidiadau mewn gofal critigol, gan gynnwys y model darparu ar draws Cymru, i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y lle cywir ar gyfer y rheini sy’n ddifrifol wael.

Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ofal critigol ym mis Gorffennaf 2019. Roedd yr adroddiad yn onest am yr heriau sy’n wynebu gofal critigol ac yn rhoi barn strategol ar y camau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer pobl ddifrifol wael yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r pandemig wedi golygu bod y GIG wedi bod yn canolbwyntio ar ymdrin â’r heriau mwyaf brys ac felly nid yw’r gwaith o roi’r argymhellion ar waith wedi dechrau o ddifrif mewn nifer o feysydd.

Er hyn, gwnaed peth cynnydd mewn rhai meysydd, gan gynnwys y canlynol:

    • Ehangu gwelyau gofal critigol cyn y pandemig gyda chwech gwely ychwanegol yng Nghaerdydd ac un yn Ysbyty Glan Clwyd
    • Aeth gwasanaeth trosglwyddo gofal critigol penodol i oedolion yn fyw yn y De ar 16 Awst a bydd yn mynd yn fyw yn y Gogledd ar 4 Hydref 2021
    • Sefydlu gwelyau hirdymor lle darperir cymorth anadlu

Mae gweithredu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn rhan o’r priodoleddau ansawdd a ddisgrifiwyd yn y Datganiad Ansawdd.

Ar ôl cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd, y cam nesaf fydd datblygu cynllun gweithredu a manyleb gwasanaeth a bydd y rhain yn cael eu datblygu dan arweiniad Bwrdd Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal critigol o ansawdd uchel yng Nghymru i sicrhau bod gan y cleifion â’r anghenion mwyaf y mynediad priodol at wasanaethau gofal critigol o ansawdd uchel. Gwyddom hefyd fod y pandemig wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar y gwasanaeth a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i adnabod a chydnabod yr ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb sy’n gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ym maes gofal critigol.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i gyflawni’r ymrwymiadau pwysig a nodwyd yn y Datganiad Ansawdd.

Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofalu am Gleifion Difrifol Wael ar gael yn:

https://llyw.cymru/datganiad-ansawdd-gofalu-am-y-rhai-syn-ddifrifol-wael

Cyhoeddwyd y datganiadau ansawdd ar gyfer cyflyrau calon a chanser ym mis Mawrth 2021, ynghyd â’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Maent ar gael yn: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-clinigol-cenedlaethol-datganiadau-ansawdd

Cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae ar gael yn:

https://llyw.cymru/grwp-gorchwyl-gorffen-ar-ofal-critigol-adroddiad-terfynol