Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer datblygu gofal cyhyrysgerbydol gwell drwy gydol oes unigolyn. 

Cyflyrau cyhyrysgerbydol yw'r achos mwyaf cyffredin o boen hirdymor ac anabledd corfforol yn fyd-eang. Gall y cyflyrau hyn gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolion. Mae’r effeithiau hyn yn ymwneud nid yn unig a gweithrediad corfforol a phoen, ond gallant hefyd effeithio ar les seicolegol, cymdeithasol ac economaidd person. Gall teuluoedd a gofalwyr person sy’n byw gyda chyflwr cyhyrysgerbydol hefyd profi effeithiau negyddol y cyflyrau hyn, ac efallai bydd angen cymorth arnynt nhw.

Amcangyfrifir bod cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithio ar hyd at draean o boblogaeth Cymru (32%), sy'n cyfateb i 974,000 o bobl. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio â mwy o bobl yn dioddef o broblemau iechyd lluosog, disgwylir i nifer y bobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol gynyddu.

Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol wedi cael ei lunio ar y cyd ag arweinwyr clinigol cenedlaethol ym maes iechyd cyhyrysgerbydol, gyda mewnbwn gan rwydweithiau clinigol cyhyrysgerbydol, partneriaid y trydydd sector, y rhai sydd â phrofiad bywyd a chydweithwyr yn y maes iechyd cyhyrysgerbydol o bob cwr o Gymru.

Gwella iechyd cyhyrysgerbydol y boblogaeth o oedran cynnar a'i ddiogelu, lleihau nifer y bobl sy'n datblygu cyflyrau cyhyrysgerbydol a gwella iechyd a llesiant yr unigolion hynny sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol yw'r nod.

Yn sgil cyhoeddi'r Datganiad Ansawdd, bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cael eu cefnogi i gyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol drwy drefniadau rhwydwaith clinigol newydd Gweithrediaeth y GIG. Bydd hyn yn cael ei roi ar waith drwy'r rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol, mewn cydweithrediad â rhwydweithiau a rhaglenni eraill, mewn meysydd megis orthopedeg, poen parhaus ac iechyd yr esgyrn.

Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol i’w weld yma.