Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi pedwar datganiad ansawdd newydd i arwain gwaith cynllunio gwasanaethau clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae’r datganiadau ansawdd hyn yn nodi sut y dylid mynd ati i sicrhau gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel ac maent yn dangos bod consensws barn ymhlith arbenigwyr a rhanddeiliaid am y meysydd hanfodol y dylid canolbwyntio arnynt yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae sicrhau bod cyflyrau’n cael eu rheoli'n dda yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau gorau i gleifion a chyflenwi Gwasanaeth Iechyd sy’n gynaliadwy. Bydd y datganiadau ansawdd hyn yn mynd i'r afael â rhai o brif achosion afiechyd ymhlith y boblogaeth: afiechydon anadlol fel clefyd rhwystrol cronig yn yr ysgyfaint (COPD) ac asthma; clefydau yr afu fel hepatitis feirysol a chlefyd yr afu brasterog; cyflyrau niwrolegol fel epilepsi; a chlefyd yn yr arennau, sy'n cynnwys methiant cronig yr arennau ac achosion eraill. Gyda’i gilydd, mae’r cyflyrau hyn yn gyfrifol am roi baich afiechyd sylweddol ar ddinasyddion unigol. Ond maent hefyd yn gyfrifol am gyfran helaeth o’r galw sydd ar y GIG am ofal iechyd. Felly, mae'n bwysig bod gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynllunio i ddiwallu'r angen hwn, a helpu pobl i reoli eu cyflyrau yn y ffordd orau bosibl, gan leihau'r risg y bydd clefyd yn datblygu ymhellach, a helpu i osgoi galw diangen am ofal iechyd.

Mae angen i systemau iechyd cymhleth sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu i gleifion mewn ffordd gydgysylltiedig. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn cynllunio gwasanaethau drwy lawer o wahanol leoliadau, fel practisau cyffredinol neu leoliadau gofal brys a gofal mewn argyfwng. Darperir y gwasanaethau hyn hefyd drwy wahanol dimau arbenigol ar gyfer cleifion allanol, fel meddygaeth anadlol neu ddialysis arennol. Mae datganiadau ansawdd yn helpu i roi pwyslais ar agweddau penodol wrth gynllunio gwasanaethau gofal iechyd yn unol â llwybrau clinigol, sef taith unigolion drwy system gofal iechyd gymhleth i drin neu reoli eu cyflwr. Gall edrych yn fanylach ar wasanaethau ar hyd llwybr claf fod o gymorth i’r GIG sicrhau bod pob unigolyn yn cael y gofal yr argymhellir ar ei gyfer a bod pob ymdrech bosibl yn cael ei gwneud i drefnu darpariaeth ddi-dor gan y gwahanol dimau ar hyd y llwybr hwnnw. Mae hefyd yn caniatáu i'r GIG fonitro canlyniadau; y canlyniadau hynny sy'n bwysig i gleifion, yn ogystal â'r rhai sy'n dweud wrthym fod y gwasanaethau a'r llwybrau yn gwneud yr hyn a fwriadwyd. O ganlyniad, bydd cyfle’n codi i newid llwybrau gofal er mwyn gwella profiadau a chanlyniadau cleifion.

Dylai gwasanaethau gofal iechyd roi pwyslais priodol ar ansawdd gofal, sydd wrth wraidd cyflwyno'r Ddyletswydd Ansawdd. Mae datganiadau ansawdd yn rhan bwysig o'r pwyslais cryfach hwn ar wella ansawdd drwy fynd i'r afael â gwahaniaethau annheg yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu neu eu derbyn. Rydym yn disgwyl i wasanaethau'r GIG yng Nghymru gael eu cyflawni yn unol â'r ymarfer clinigol a argymhellir, bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd cyson ar draws Cymru, a bod gofal teg yn cael ei roi i wahanol grwpiau o bobl. Mae darparu gofal iechyd yn dasg gymhleth iawn sy’n cael ei chyflawni gan lawer o sefydliadau a thimau sy'n rhyngweithio’n rheolaidd. Gallai fod yn briodol defnyddio gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd, ond nid yw’n dderbyniol cyflawni canlyniadau sy’n amrywio i’r unigolion hynny sy’n derbyn y gofal. Mae datganiadau ansawdd yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno canllawiau clinigol, llwybrau, a manylebau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Bydd hyn yn cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uwch, sydd hefyd yn fwy teg a chynaliadwy.

Mae’r gofyniad am well ansawdd a chysondeb wrth ddarparu gofal iechyd yn lleol yn cael ei fonitro drwy fecanweithiau atebolrwydd y GIG. Rydym yn cryfhau’r trefniadau ar gyfer gwneud hyn yng Nghymru drwy sefydlu Gweithrediaeth y GIG. Bydd y timau cydlynu ac arwain cenedlaethol sydd ar waith ar gyfer y cyflyrau hyn ar hyn o bryd yn dod yn rhan o’r corff newydd, gydag arbenigedd y timau hynny yn cael ei integreiddio, felly, wrth ddwyn y GIG i gyfrif. Bydd y ffordd hon o weithio yn disodli'r grwpiau gweithredu cenedlaethol presennol a bydd yn cynnwys unrhyw swyddi arweinyddiaeth glinigol genedlaethol. Caiff y cynlluniau cyflawni yn y meysydd hyn eu dirwyn i ben yn awr a bydd Gweithrediaeth y GIG, wrth iddo ddod i fodolaeth, yn derbyn y cyllid cenedlaethol sy'n gysylltiedig â’u gwaith.

Mae'r camau hyn yn rhan o'r ymrwymiadau a wnaed yn wreiddiol yn y cynllun Cymru Iachach, ac, yn fwy diweddar, yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Bydd y trefniadau arwain cenedlaethol ar gyfer y meysydd clinigol hyn, a fydd yn rhan o waith Gweithrediaeth y GIG, yn sefydlu system a fydd yn defnyddio data dibynadwy i ysgogi gwelliannau yn y meysydd clinigol hyn. Bydd hyn yn caniatáu inni gynllunio a darparu gwasanaethau’n well, a bydd yn golygu bod ansawdd y gwasanaethau clinigol hyn yn gwella’n barhaus. Dyma'r system iechyd a gofal sy’n dysgu a ddisgrifir yn y Fframwaith Clinigol.

Mae'r datganiadau ansawdd hyn yn rhan o gyfres ehangach o ddeg dogfen sy'n nodi ein disgwyliadau lefel uchel o wasanaethau'r GIG – disgwyliadau y mae’n ofynnol i'r GIG ymateb iddynt drwy ei drefniadau cynllunio lleol. Maent yn cyd-fynd â pholisïau a strategaethau hanfodol eraill Llywodraeth Cymru sy'n rhoi pwyslais ar atal afiechyd a gofal diagnostig da. Mae'r set integredig hon o bolisïau yn adlewyrchu sut y mae gwasanaethau'r GIG yn cael eu harwain yng Nghymru a sut y byddant yn cael eu dwyn i gyfrif yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n holl bartneriaid dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i gyflawni'r ymrwymiadau pwysig sydd i’w cael yn y Datganiadau Ansawdd.

Mae’r datganiadau ansawdd i’w gweld yn:

https://llyw.cymru/datganiad-ansawdd-ar-gyfer-clefydaur-arennau

https://llyw.cymru/datganiad-ansawdd-ar-gyfer-clefydau-anadlol

https://llyw.cymru/datganiad-ansawdd-ar-gyfer-clefydaur-afu

https://llyw.cymru/datganiad-ansawdd-ar-gyfer-cyflyrau-niwrolegol