Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas. Dylid amddiffyn anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a gofid a dylai'r rheini sy'n euog o achosi'r creulondeb mwyaf i anifeiliaid ddiodde cosbau llym.

Sylwais ar gyhoeddiad Llywodraeth y DU i gynyddu'r ddedfryd lymaf am greulondeb i anifeiliaid yn Lloegr i bum mlynedd. Ar hyn o bryd, y ddedfryd lymaf yng Nghymru a Lloegr am gyflawni trosedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yw chwe mis, yn ogystal â dirwy heb derfyn a gwaharddiad.

Rydym yn cytuno â'r cynnydd i bum mlynedd o garchar er mwyn i'r llysoedd allu rhoi dedfryd briodol i'r rheini sy'n gyfrifol am achosi'r creulondeb gwaethaf i anifeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru'n teimlo ei bod yn bwysig cadw trefn ddedfrydu gyson ar draws Cymru a Lloegr gan sicrhau eglurder i'r asiantaethau gorfodi, y Llysoedd a'r cyhoedd. Rwyf felly wedi ysgrifennu at y Gwir Anrh Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol Defra ar fater cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr.

Bydd hynny'n golygu bod y ddedfryd lymaf am achosi creulondeb i anifeiliaid yn gyson yng Nghymru a Lloegr â'r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo hefyd i gynyddu'r gosb lymaf  am y troseddau creulondeb mwyaf difrifol i bum mlynedd o garchar.  

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Bil drafft heddiw a fydd yn cynyddu'r ddedfryd lymaf am achosi creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr i bum mlynedd.

Dywed y Bil drafft hefyd bod yn rhaid i'r Llywodraeth ystyried anghenion lles anifeiliaid fel bodau ymdeimladol wrth ffurfio polisi a'i roi ar waith. Rydym yn cytuno'n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol a bydd y cam hwn yn gwneud ein safbwynt ynghylch y mater yn gwbl glir.

Mae swyddogion o Gymru a Lloegr wrthi'n gweithio gyda'i gilydd ar gyflwyno'r Bil pwysig hwn sy'n tanlinellu'n hymrwymiad i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.  Cewch gopi o'r Bil drafft yn:

https://www.gov.uk/government/publications/draft-animal-welfare-sentencing-and-recognition-of-sentience-bill-2017