Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economy, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 20 Ionawr, addewais i’r Siambr y byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar Ardaloedd Menter yng Nghymru. 


Ers eu sefydlu yn 2012, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud a hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac Aelodau presennol a blaenorol y Bwrdd am eu gwaith caled a'u hymrwymiad. 


Ddoe, cyhoeddodd  cwmni MotoNovo Finance y bydd yn creu dros 580 o swyddi newydd yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, a hynny mewn estyniad mawr fydd wedi'i leoli yn Ardal Fenter Canol Caerdydd. Mae'r buddsoddiad hwn yn hwb economaidd mawr yn yr Ardal Fenter, lle mae'r Cwmni'n bwriadu adeiladu ei bencadlys newydd ar gyfer y DU. Daw'r newyddion heddiw yn dilyn cyhoeddiad diweddar am fuddsoddiad mawr gan Aston Martin yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan.  


Mae’r ddau fuddsoddiad hwn yn dangos y buddion y mae Ardaloedd Menter yng Nghymru yn eu cyflawni. Nodir isod grynodeb o'r prif ddatblygiadau ym mhob Ardal Fenter. 


Ardal Fenter Ynys Môn


Mae'r Bwrdd wedi blaenoriaethu safleoedd allweddol i gynyddu twf swyddi a chyfoeth. Bydd Ffordd Gyswllt newydd Llangefni yn cynnig buddion mawr i'r ardal gan gynnwys mynediad gwell at safleoedd yr Ardal Fenter a chymorth i dyfu ac ehangu campws (Grŵp Llandrillo Menai) Coleg Menai. Bydd y cynllun hefyd yn gwella cysylltiadau â ffordd ddeuol yr A55 ac yn goresgyn cyfyngiadau traffig yn ardal ehangach Llangefni.  


Yn ddiweddar, argymhellodd y Bwrdd y dylid estyn ffiniau'r Ardal i gynnwys safle cyfan Porthladd Caergybi, Parc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc) ac ardal o wely'r môr lle bydd parth arddangos ynni'r llanw Morlais. Un o'r prif flaenoriaethau yw cynyddu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â safle'r Wylfa Newydd yn ogystal â'r sector ynni carbon isel, yn enwedig ym maes gweithrediadau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn creu swyddi cynaliadwy i Ynys Môn. 


Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan


Yn dilyn y cyhoeddiad mawr gan Aston Martin y bydd yn buddsoddi yn yr Ardal Fenter, greu 750 o swyddi newydd a 1,000 o swyddi pellach yn y gadwyn gyflenwi, bydd Bwrdd yr Ardal Fenter yn achub ar y cyfle i ystyried, adolygu a newid ffocws ei ddull gweithredu. Mae Grŵp cynghori bach yn cael ei sefydlu sy'n cynrychioli Bwrdd yr Ardal Fenter, Bwrdd Maes Awyr Caerdydd a Chwmni Daliannol y Maes Awyr yn ogystal â chwmnïau Angori yn y rhanbarth, er mwyn argymell siâp, ffiniau a ffocws ar gyfer yr Ardal Fenter yn y dyfodol. 


Yn y cyfamser, bydd y fframwaith datblygu y cytunwyd arno gan y Bwrdd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad gan Gyngor Bro Morgannwg er mwyn mynd ati i ddatblygu safle'r Porth ger Maes Awyr Caerdydd. Bydd Bwrdd yr Ardal Fenter yn parhau i weithio gyda Bwrdd Maes Awyr Caerdydd er mwyn adeiladu ar y gwelliannau sylweddol sydd wedi'u gwneud o ran cynyddu nifer y teithwyr, gwella profiad yr ymwelydd a gwella cludiant cyhoeddus i'r maes awyr. 

 

Ardal Fenter Canol Caerdydd


Er mai Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yw ffocws yr Ardal Fenter o hyd, mae'r Bwrdd yn awyddus i gefnogi cyfleoedd sydd wedi codi yn y sector creadigol, twristiaeth a TGCh i ddatblygu'r Ardal ymhellach. Mae'r Bwrdd yn parhau i gefnogi gwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bargen Dinas Caerdydd. 


Ei phrif flaenoriaeth o hyd yw darparu mwy o swyddfeydd Gradd A o ansawdd uchel, yn ogystal â datblygu ardaloedd defnydd cymysg ategol i ddarparu amgylchedd busnes amrywiol a chynaliadwy sy'n ffynnu. Mae'r Bwrdd hefyd wedi nodi'r angen i wella seilwaith cludiant a TGCh er mwyn helpu i hwyluso twf busnes. 


Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy


Mae prif flaenoriaethau'r Bwrdd yn ymwneud â darparu safle strategol a meithrin sgiliau a gallu ymchwil a datblygu. Mae safle Porth y Gogledd yn datblygu'n dda ac mae'r gwaith ar yr amddiffynfa rhag llifogydd wedi'i gwblhau. Bydd Cam Un y gwaith o adeiladu ffordd fynediad i'r safle yn dechrau yn ystod y Gwanwyn eleni. Yn ogystal â chyflwyno achos busnes terfynol yn ymwneud â datblygiad posibl Sefydliad Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, mae'r Bwrdd hefyd wedi datblygu Cynllun Rhannu Prentisiaeth mewn cydweithrediad â Choleg Cambria. Mae'r Bwrdd hefyd yn ehangu ei ffocws i gynnwys y sector Ynni a'r Amgylchedd a'r sector Bwyd.  


Ardal Fenter Glynebwy


Prif flaenoriaeth y Bwrdd yw datblygu safle strategol Rhyd y Blew, un o'r safleoedd datblygu mwyaf yng Nghymoedd De Cymru, a denu prosiect mewnfuddsoddi mawr i'r safle. Y prif brosiectau seilwaith sydd eisoes wedi'u cwblhau yw datblygu ffordd ddeuol newydd yr A465 a'r cyswllt rheilffordd a'r orsaf newydd gwerth £11.5m yng Nglynebwy. Mae'r Bwrdd yn awyddus i weld y buddsoddiadau hyn yn helpu i ddenu prosiectau buddsoddi newydd i'r ardal. Mae ffocws sylweddol y Bwrdd ar ddatblygu sylfaen sgiliau gweithgynhyrchu a pheirianneg yr ardal eisoes wedi arwain at ddatblygu Cynllun Rhannu Prentisiaeth a lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015 ac yn fwy diweddar gynllun paru swyddi 'Rhaglen Cyswllt Cyflogwyr', sydd ar fin cael ei lansio. Nod y ddau gynllun hyn yw gwella arlwy'r rhanbarth ac annog buddsoddiad. 


Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau


Un o brif flaenoriaethau'r Bwrdd yw cyflwyno safleoedd newydd i'w datblygu ac achub ar gyfleoedd a gynigir gan Ddyfrffordd ddofn y Ddau Gleddau, gan gynnwys y farchnad mordeithiau. Mae denu buddsoddiad i'r rhanbarth hefyd yn parhau i fod yn ffocws canolog i'r Bwrdd. Mae 'Rhaglen Trawsnewid Sgiliau' Murco wedi cynorthwyo cwmnïau sydd wedi profi sgil-effeithiau cau'r burfa ac mae'r Bwrdd yn gweithio gyda Choleg Sir Benfro i ystyried ymarferoldeb creu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Sgiliau ar gyfer y sector morol, y sector ynni a’r sector peirianneg.  Yn ogystal â'r Sector Ynni a'r Amgylchedd, mae'r Bwrdd yn cydnabod bod y sectorau Bwyd, Amaeth, Twristiaeth a Hamdden yn bwysig i'r ardal ac mae unigolion ychwanegol yn cael eu cyd-ethol i'r Bwrdd i adlewyrchu hyn. Mae'r Bwrdd hefyd yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau ac amcanion a rennir â Rhanbarth Dinas Bae Abertawe. 


Ardal Fenter Eryri


Mae'r Bwrdd yn parhau i hyrwyddo safle Trawsfynydd fel lleoliad dethol ar gyfer yr Adweithydd Niwclear Modiwlaidd Bach cyntaf o'i fath yn y DU ac mae wedi gwneud cryn waith archwilio yn hyn o beth. Yn y cyfamser, mae gwaith datgomisiynu ar y safle yn parhau gan greu swyddi ar y safle y tu hwnt i'r dyddiad disgwyliedig, a hynny yn sgil cynrychioliadau a wnaed gan y Bwrdd ac eraill i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, Partneriaeth Magnox a Cavendish Fluor Partnership.  


Mae gan safle Llanbedr gymhwysedd gweithredu newydd ar gyfer Systemau Cerbydau Awyr a Reolir o Bell ac mae'n un o blith nifer bach o leoliadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer Porthgofod posibl ar gyfer y DU.  Dymuna'r Bwrdd gydnabod pwysigrwydd twristiaeth fel sector allweddol yn yr ardal gyfagos a'i gynnwys fel rhan o'i Gynllun Strategol. Mae'r Bwrdd hefyd yn awyddus i achub ar gyfleoedd fel rhan o weledigaeth i weld Gogledd Cymru yn datblygu'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer ynni niwclear yn y DU ac ar gyfer y gofod. 


Ar draws pob un o'r Ardaloedd Menter, mae gwaith cyffrous yn mynd rhagddo i greu cynnig marchnata pwrpasol ar gyfer pob Ardal, gan gynnwys dylunio gwefan newydd. Mae ffigurau arfaethedig yn iach ac mae blaenoriaethau pob Ardal yn debygol o gael eu cyflawni. 

Yn olaf, bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol bod cynigion ar gyfer Ardal Fenter ym Mhort Talbot ar y gweill, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn fuan.