Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol sy’n helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd ac amgylcheddau gwaith iachach er budd eu gweithwyr a’r gymuned ehangach. Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith pwysig y mae Cymru Iach ar Waith wedi ei gyflawni ar gyfer pobl sy’n gweithio yng Nghymru ers dros 15 mlynedd. Er mwyn sicrhau bod y rhaglen Cymru Iach ar Waith yn gynaliadwy, bydd yn symud at fod yn rhaglen fwy hyblyg a arweinir yn ddigidol o fis Mehefin 2023 ymlaen.

Mae polisïau ar gyfer sicrhau iechyd da a llesiant yn hanfodol i ddarparu gwaith teg, ac mae polisïau o’r fath o fudd i unigolion a chymunedau. Yn ogystal â hynny, mae’r dystiolaeth yn dangos bod nifer o fanteision busnes allweddol yn deillio ohonynt, megis cynnydd mewn cynhyrchiant a chanlyniadau recriwtio a chadw gwell. Mewn geiriau eraill, mae gweithlu iach yn hanfodol i’n llesiant unigol ac ar y cyd fel economi a chymdeithas. Mae gwaith yn chwarae rôl bwysig o ran helpu i gynnal iechyd a llesiant cyffredinol ein pobl.

Drwy fod cyflogwyr yn ymgysylltu â Cymru Iach ar Waith, gellir sicrhau bod y manteision hynny’n cael eu gwireddu er mwyn gwella sefydliadau yng Nghymru, gan ddarparu fframwaith sy’n hyrwyddo a chefnogi camau i wella iechyd meddyliol a chorfforol gweithwyr. Rydym am i’r rhaglen fod yn hyblyg gan gefnogi ein busnesau bach a chanolig yn benodol drwy fod yn berthnasol ac yn addas ar gyfer eu hanghenion, gan wneud hynny mewn modd sydd wedi ei dargedu’n fwy effeithiol. Wrth gwrs, rydym hefyd yn awyddus i barhau i gefnogi’r holl sefydliadau y mae’r rhaglen yn eu helpu ar hyn o bryd.

Bydd Cymru Iach ar Waith yn canolbwyntio ei hadnoddau mewn cynnig rhithiol, gyda darpariaeth ar-lein newydd a fydd yn helpu cyflogwyr i fesur a gwella eu strategaethau iechyd a llesiant i’w gweithwyr. Bydd ein cynnig ar-lein yn cynnwys gweminarau, e-ddysgu, a chymorth ac arweiniad penodol ar gyfer cyflogwyr er mwyn iddynt allu cymryd camau yn eu prif feysydd blaenoriaeth.  Bydd Cymru Iach ar Waith yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda Busnes Cymru er mwyn hyrwyddo eu gwasanaethau cymorth busnes mewn modd mwy effeithiol, a sicrhau ei fod yn cyrraedd cymaint o fusnesau â phosibl yn ogystal â chyd-fynd â’n rhaglen cymorth yn y gwaith i ddarparu cymorth iechyd galwedigaethol.  

Bydd y newidiadau a gyhoeddir heddiw yn gwella gwasanaethau Cymru Iach ar Waith ar gyfer cyflogwyr o bob maint ac o bob sector, gan gryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer iechyd a llesiant gweithwyr, a sicrhau bod gweithlu Cymru yn barod i ymateb i alwadau newydd byd gwaith sy’n newid yn barhaus. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gysylltu â’r deiliaid dyfarniad presennol, er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor clir ynghylch y cymorth y byddant yn parhau i’w gael.