Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Ionawr ynghylch Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), rydym bellach wedi prosesu dros 90% o’r rhandaliadau BPS ar gyfer ein busnesau fferm.  Rwy’n rhagweld y bydd pawb, heblaw’r achosion mwyaf cymhleth, wedi’u talu erbyn diwedd y mis hwn.  Caiff y rhandaliad olaf (oddeutu 20%) ei dalu ym mis Ebrill yn unol â’n targed.

Os na fydd busnes fferm cymwys wedi cael ei randaliad BPS erbyn diwedd y mis, byddwn yn anfon llythyr ato ddechrau mis Ebrill i esbonio pam nad ydyw wedi cael ei dalu gan gynnwys manylion unrhyw broblemau sydd angen eu datrys.  Gallai’r rhesymau am hyn gynnwys achosion â thir dros y ffin gyda thir comin neu archwiliadau yn Lloegr neu Grant Profiant hwyr.  Pan fyddwn wedi’u prosesu, bydd achosion ôl-Mawrth yn cael eu talu fel un taliad llawn.

Mae’n dda gen i gyhoeddi bod Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2016 a ffurflen trosglwyddo a lesio hawliau ar gael bellach ar RPW Ar-lein.  Rydym wedi gwella mwy hyd yn oed ar y gwasanaeth ar-lein fel ei bod hi’n haws ac yn gynt i fusnesau fferm allu hawlio taliad.  Mae system ddilysu fewnol ynddo sy’n rhoi rhybudd i ffermwyr sy’n gwneud gwallau wrth lenwi’r SAF ynghyd â’r gallu i gael at fapiau caeau gyda theclyn i newid y mapiau hyn sy’n gysylltiedig â’r data caeau ar y cais.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SAF yw 16 Mai 2016.  Eleni, dim ond ar-lein y mae’r SAF ar gael.  Os oes gan fusnes fferm gwestiwn neu os oes angen help arno, dylai ffonio’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - 0300 062 5004.  Os nad yw’r ffermwr yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth ar-lein, gallan nhw drefnu i gael cymorth i lenwi’r SAF gan un o Swyddfeydd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.  Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid erbyn 15 Mawrth er mwyn cael bod yn siŵr o gyfarfod.

Mae’n dda gen i gyhoeddi hefyd fy mod wedi gofyn i’r RPW gynnig darpariaeth opsiynol newydd a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer eleni, sef cynnal archwiliadau cychwynnol i helpu busnesau fferm i osgoi cosbau am orddatgan trwy chwilio am anghysonderau rhwng yr hawliad a’r wybodaeth ar ein mapiau.  Bydd yr RPW yn ysgrifennu at ffermwyr sydd ag anghysonderau erbyn 13 Mehefin 2016 a bydd gan fusnesau fferm tan 21 Mehefin 2016 i ymateb os ydyn nhw am newid eu hawliad.

Rydym wrthi’n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau i leihau arwynebeddau yn SAF 2015, er, ar hyn o bryd, mae RPW yn rhoi blaenoriaeth i brosesu rhandaliadau.  Ein nod yw delio â mwyafrif yr apeliadau a ddaeth i law cyn diwedd mis Chwefror erbyn diwedd y mis hwn (31 Mawrth) a’r gweddill erbyn diwedd cyfnod hawlio SAF 2016.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys Undeb Ffermwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, asiantwyr ac eraill sydd wedi gweithio â ni i ddatblygu’r BPS a’r gwasanaethau ar-lein ac i’w rhoi ar waith.