Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein rhaglenni Metro yn ganolog i'r weledigaeth o system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, ac effeithlon, a nodir yn Llwybr Newydd.

Mae nhw'n hanfodol i gyflawni ein targedau lleihau carbon a chyflawni newid moddol - gan annog pobl i newid eu hymddygiad teithio drwy ei gwneud hi'n haws dewis cerdded, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £1.6 biliwn, gyda rhaglenni unigol ar wahanol gamau aeddfedrwydd – o ddatblygiad cynnar i ddylunio a chyflawni. Mae hyn yn cynnwys dros £800 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn fflyd o drenau newydd sbon fydd yn gweithredu ledled Cymru, gan gynnwys ein rhwydwaith Metros. Bydd rhestr lawn o'r cynlluniau sy'n rhan o'n rhaglenni Metro yn cael eu cyhoeddi yn fuan o fewn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth.

Daeth dyletswydd ar y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol i rym ym Mehefin 2022 i gynhyrchu Cynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y pedair rhan o Gymru y maent yn eu cynnwys; Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru. Bydd y rhaglenni Metro yn sail i waith y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol wrth ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol. Bydd y broses gynllunio yn dod ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, a phartneriaid allweddol eraill ynghyd wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau trafnidiaeth.

Bydd y Cynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol yn cefnogi partneriaid lleol i weithio ar lefel strategol i gymryd yr amcanion a nodir yn Llwybr Newydd - Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru - a'u cyflawni mewn ffordd sydd wedi ei deilwra i'w cyd-destun. Bydd yn sicrhau bod gwasanaethau yn ateb anghenion y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gosodwyd y sylfeini ar gyfer hyn gan ein rhaglenni Metros a gwaith Bwrdd Cyflawni Burns yn Ne Ddwyrain Cymru, gan ddarparu golwg strategol ar gysylltedd rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar gyfer y rhanbarthau y maent yn gweithredu ynddynt.

Metro Gogledd Cymru

Yn y Gogledd, ein huchelgais yw trawsnewid y rheilffyrdd, gwasanaethau bysiau a chyfleusterau teithio llesol - gan leihau unigrwydd gwledig a chreu cyfleoedd cyflogaeth a hamdden ledled y rhanbarth. Yn ei dro, bydd hyn yn cefnogi datblygiad economaidd yn ogystal â chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.

Rydym eisoes yn gwneud cynnydd gwirioneddol: ailddechrau gwasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru am y tro cyntaf mewn cenedlaethau a darparu cysylltedd teithio llesol â gorsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd bysiau yn Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd ac oddi yno. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar uwchgynllun blaengar ar gyfer Caergybi sy'n cydnabod ei rôl hollbwysig mewn cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus ac ar gyfer datblygu economaidd.

Mae dros chwarter y teithiau eisoes yn cael eu gwneud trwy gerdded a beicio - dros yr 20 mlynedd nesaf mae angen i ni gynyddu hyn i dros draean. I gefnogi'r newid hwn, rydym eisoes wedi cynyddu ein buddsoddiad yn sylweddol yn y maes hwn. Drwy raglen Metro Gogledd Cymru rydym wedi datblygu cynlluniau rhwydwaith i wella cysylltiadau â gorsafoedd ym Mangor, Y Fflint, Caergybi, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, Y Rhyl a Phrestatyn. Bydd y broses hon yn parhau yn y Gogledd ac yn dechrau yn ardaloedd metro y De a Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ei Ddatganiad Cynnydd, gan nodi themâu allweddol sy'n deillio o'u gwaith hyd yma. Yn hanesyddol, mae'r drafodaeth ar drafnidiaeth yng ngogledd Cymru wedi canolbwyntio ar lwybrau pellter hir ar gyfer cymudo, ond mae dadansoddiad y comisiwn o batrymau teithio yn dangos bod y mwyafrif o deithiau sydd yn digwydd yn rhai byr a lleol. Mae'r rhain yn deithiau lle mae cerdded, beicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyfyw, ar yr amod bod trafnidiaeth gyhoeddus neu ddewis teithio llesol amgen. Mae hyn yn newid meddwl mawr ar drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, a bydd adroddiad terfynol y comisiwn yn nodi'r argymhellion ar gyfer sut y gellir gwireddu hyn.

Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru

Mae'r gwaith o greu rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol integredig yn ardal Bae Abertawe yn parhau i fynd rhagddo'n dda, er bod y rhaglen gyffredinol mewn cyfnod cynharach o ddatblygiad.

Er bod y gwaith datblygu a dylunio manwl sy'n cael ei wneud gan ddefnyddio Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn hanfodol, rydym yn cydnabod bod angen ymyriadau mwy uniongyrchol i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn y rhanbarth.

Fel rhan o hyn, mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu dau beilot ar raddfa fawr ar gyfer Bae Abertawe a Dyfrffordd y Ddau Gleddau a fydd yn gweld fflyd o fysiau celloedd tanwydd hydrogen erbyn canol y 2020au. Mae hyn yn cefnogi datgarboneiddio'r fflyd bysiau yn ehangach yng Nghymru a bydd gwelliannau i’r coridorau bysiau yn ategu'r cerbydau a’r depo newydd, a gyflwynir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau.

Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno tocynnau bws / rheilffordd cyfunol ar wasanaeth bws Traws Cymru T1, sy'n cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac sy'n profi'n boblogaidd gyda theithwyr. Mae camau'n cael eu cymryd i ymestyn hyn i rannau eraill o'r rhwydwaith. Mae Gwasanaethau T1 Traws Cymru (Aberystwyth i Gaerfyrddin), hefyd wedi derbyn buddsoddiad i newid yr wyth cerbyd a'r cyfleusterau depo i weithredu ar drydan batri.

Byddwn yn parhau â'n cenhadaeth i ddatblygu llwybrau teithio llesol diogel sydd wedi'u cysylltu'n dda ledled Cymru drwy gynyddu ein gallu i ddatblygu'r Rhwydwaith Teithio Llesol yng Ngorllewin Cymru. Fel rhan o'n Deddf Teithio Llesol arloesol, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu mapiau o rwydweithiau cerdded a beicio yn eu hardal leol, a elwir yn Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNMs). Gall unrhyw un ymweld â gwefan Map Data Cymru[1] i weld y mapiau hyn sy'n dangos y ddarpariaeth bresennol a’r hyn sydd wedi'i chynllunio at y dyfodol ar gyfer cerdded, beicio a theithio trydan yng Nghymru. Bydd y mapiau hyn yn sylfaen hanfodol i ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ym mhob un o bedair ardal Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru.

Byddwn yn cynyddu capasiti ar wasanaethau i Orllewin Cymru a rhwng De Orllewin Cymru a Manceinion. Rydym hefyd yn datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau prif lein ychwanegol a chyflymach rhwng dinasoedd, ynghyd â rhwydwaith bysiau amledd uchel cynhwysfawr sy'n gwasanaethu ardaloedd trefol yn Abertawe, Castell-nedd, Llanelli a Phort Talbot.

Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ailddatgan y rhaglen o drydaneiddio Prif Linell De Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe fel blaenoriaeth strategol i Gymru, a fydd yn dod â manteision sylweddol i'r rhanbarth, ond hefyd yn darparu sylfeini ar gyfer datblygiad Metro Bae Abertawe yn y dyfodol.

Metro De Cymru

Mae gwaith sylweddol eisoes yn cael ei wneud ar Fetro De Cymru i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, hybiau trafnidiaeth gyhoeddus, a llwybrau teithio llesol y mae llawer o bobl eisoes yn elwa ohonynt.

Bydd unrhyw un sy'n teithio i'r gogledd o Gaerdydd yn gweld y cynnydd cyflym sy'n cael ei wneud o ran adeiladu Canolfan Reoli Integredig newydd gwerth £100 miliwn a depo trenau yn Ffynnon Taf. Bydd y cyfleuster hwn yn cefnogi'r gwaith o redeg trenau i gymoedd de Cymru, ac yn gartref i'r fflyd newydd o drenau tram. Bydd yn ein helpu i ddarparu mwy o wasanaethau yn ystod yr wythnos a dydd Sul yn ogystal â chadw ein fflyd newydd o drenau. Erbyn 2025, byddwn wedi cyflawni ein hymrwymiad bod tua 95% o deithiau i deithwyr trên yng Nghymru ar drenau newydd.

Rydym yn adolygu ein rhwydweithiau bysiau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr ac integredig. Mae ein cyfnewidfeydd trafnidiaeth yn cael eu gwella er mwyn rhoi profiad mwy pleserus ac amgylchedd mwy diogel i gwsmeriaid. Bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol newydd yng nghanol y Ddinas yn cynnwys gwelliannau sylweddol i Orsaf Drenau Caerdydd Ganolog a chyfnewidfa fysiau newydd sbon Caerdydd, yn ogystal ag arosfannau bysiau ar y stryd, tacsi, darpariaeth teithio llesol a chysylltedd gwell â Bae Caerdydd.

Er mwyn symleiddio'r talu ar ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, rydym yn buddsoddi mewn cynllun tocynnau Talu wrth Deithio gan ddefnyddio cardiau debyd/credyd digyswllt. Bydd treialon ar gyfer gwasanaethau trenau a bysiau sy'n gweithredu rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn dechrau yn ddiweddarach yn 2023, gan adeiladu ar beilotiaid llwyddiannus yng ngogledd Cymru y llynedd.

Mae ail adroddiad blynyddol Bwrdd Cyflawni Burns, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos effaith barhaol gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Mae'r Uned Gyflawni yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu mesurau i wella cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth.

Mae'r Uned wedi llwyddo i sicrhau £2.7m o gyllid Llywodraeth y DU i wneud y cam nesaf o astudiaethau i wella Prif Reilffordd De Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru'n gwneud y gwaith yma, fydd yn llywio'r cam nesaf wrth wneud penderfyniadau.

Yn ogystal â'r Uned yn datblygu opsiynau ar gyfer seilwaith rhanbarthol bwysig fel gwasanaeth bws a llwybr beicio rhwng Casnewydd a Chaerdydd, roeddwn wrth fy modd ar ddiwedd y llynedd i ymuno â'r Bwrdd i agor mesurau lleol arloesol newydd - gwasanaethau storio beiciau diogel yng nghanol Caerdydd a Chasnewydd. Bydd hyn yn ategu rhaglen newydd o hyfforddiant beicio i oedolion, hyfforddiant cynnal a chadw beiciau a chynllunio teithio yn y gweithle y mae'r Uned wedi'u trefnu i ddechrau'n fuan.

Mae dull cydweithredol yr Uned; gan weithio mewn partneriaeth â thri awdurdod lleol i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy'n gweithio i bawb ar draws y rhanbarth, yn un yr wyf yn awyddus i'w efelychu drwy ddatblygu ein Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ar draws Cymru.

Ein system drafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym. Mae'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn rhwymo cymunedau gyda'i gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu er mwyn darparu economi fywiog. Mae'n un o'r dulliau mwyaf pwerus a deinamig ar gyfer cydlyniant cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol sydd gennym.

Cymhlethwyd yr her o gyflawni'r weledigaeth hon ymhellach gan y gostyngiad sylweddol yn ein pŵer gwariant yn dilyn cwymp ariannol Llywodraeth y DU. O ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref, bydd cyllidebau cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru 8.1% yn is yn 2024-25, a fydd yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniadau anodd ar draws pob dull ar yr hyn y gallwn fforddio i’w symud ymlaen ar unwaith. Mewn meysydd fel rheilffyrdd nad ydynt wedi'u datganoli, mae angen nawr fwy nag erioed i Lywodraeth y DU gyflawni ei rhwymedigaethau cyllido i barhau i wneud cynnydd.

Mae'n amlwg nad oes dull 'addas i bawb' ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus - bydd angen hyblygrwydd ac ystwythder i gwrdd ag anghenion y gwahanol drefi, pentrefi, dinasoedd a chymunedau gwledig ledled Cymru. Fodd bynnag, drwy gefnogi pobl i newid y ffordd y maent yn teithio, a thrwy wneud y dewis cynaliadwy y dewis hawdd, gallwn osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd a chreu dyfodol gwyrddach, iachach i bobl nawr ac i genedlaethau'r dyfodol.

[1] Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol | MapDataCymru (llyw.cymru)