Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy fynd ati i gyflawni'n hymrwymiad i sicrhau dyfodol cryfach, tecach a mwy cynaliadwy i Gymru, rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yn unol â'r ymrwymiad i gyflwyno cynllun yn Mwy nag Ailgylchu, ein strategaeth economi gylchol, a Cymru Sero Net, ein cynllun i leihau allyriadau.  

Mae Cymru eisoes yn genedl sy'n ailgylchu; ein perfformiad ailgylchu yw'r gorau yn y DU ac mae ymysg y gorau yn y byd.  Mae ein hanes o gyflawni wedi ei ategu gan amcanion hir dymor eglur, polisïau cyson, gweithdrefn reoleiddio flaengar a buddsoddiad parhaus - a chefnogaeth partneriaeth lwyddiannus gyda diwydiant a gyda’n hawdurdodau lleol.   

Gan adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma, rydym wedi ymrwymo i barhau ein taith, gan gydnabod arwyddocâd amgylcheddol yr argyfwng hinsawdd a natur a phwysigrwydd economaidd cadernid a chystadleugarwch mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio. Wedi cyflwyno ein Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn ddiweddar, mae cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd ar y cyd â Chyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig dros becynnu yn gam nesaf pwysig. 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cynllun dychwelyd ernes yn ffordd hynod o effeithiol o ddal cynwysyddion diodydd fel nad ydynt yn cael eu gwastraffu ac fel y gallant fynd yn ôl i'r economi.   Trwy wneud hynny, nid yn unig y mae'n effeithiol wrth fynd i'r afael ag allyriadau ac yn lleihau sbwriel yn sylweddol, ond mae hefyd yn lleihau'r angen i echdynnu deunyddiau crai a'r difrod y gall hynny ei achosi, yn cefnogi ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau, ac yn lleihau faint o ynni sydd ei angen wrth weithgynhyrchu. Trwy sicrhau deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uchel wedi eu didoli a chynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio o bosibl, gellid galluogi economi fwy cylchol, gan fod o fudd i gynhyrchwyr a defnyddwyr, creu cyfleoedd economaidd newydd, a lleihau dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi byd-eang cyfnewidiol.

Felly, rwy'n falch o fod yn gwneud datganiad ar y cyd ynghyd â'r Gweinidogion sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cynllun yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban ar y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu elfennau o bolisi y cytunir arnynt er mwyn gwneud y mwyaf o'r rhyngweithredu rhwng ein cynlluniau. 

O'r dechrau un, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gweithio mewn partneriaeth gyda'r llywodraethau eraill er mwyn datblygu dull gweithredu cydgysylltiedig o safbwynt cynllun dychwelyd ernes.  Rwyf felly'n croesawu'r cytundeb y daethom iddo yn dilyn gwaith dwys mewn partneriaeth â'n cymheiriaid yng ngwledydd eraill y DU i gytuno ar fframwaith eglur ar gyfer rhyngweithredu ar draws amrywiaeth eang o feysydd a fydd gyda'i gilydd yn sail i'n cynlluniau.  Mae'r rhain yn cynnwys ar lefel yr ernes, maint y cynwysyddion o fewn y cwmpas, eithriad ar gyfer cynhyrchion nad oes nifer ohonynt yn cael eu cynhyrchu, cofrestru ac adrodd, labelu a phwyntiau dychwelyd. 

Rydym hefyd wedi cytuno i ohirio cyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru yn unol â'r gwledydd eraill fel y bydd holl gynlluniau'r DU yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd ym mis Hydref 2027. Wrth wneud hynny, rydym ar y cyd wedi cydnabod yr alwad gan y diwydiant ac wedi tynnu ar yr hyn a ddysgwyd o gynlluniau rhyngwladol gan bwysleisio'r angen i ddarparu digon o amser i’r diwydiant baratoi ac i roi'r seilwaith ar waith. Fodd bynnag, gyda'r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu ymrwymiad y pedair gwlad i symud ymlaen gyda chynllun a nodi'r meysydd manwl o ryngweithredu, byddwn yn tanlinellu'r angen i'r diwydiant ddechrau paratoadau ar unwaith. 

Yn y cyfamser, fel llywodraeth byddwn yn parhau i baratoi ar gyfer rhoi cynllun dychwelyd ernes ar waith yng Nghymru. Wrth ddatblygu ein cynllun, ein bwriad o hyd yw cyflwyno cynllun sy'n unol â'n hymrwymiadau sy'n cwmpasu alwminiwm, dur, gwydr a phlastig PET. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson drwyddi draw, ac nid yw wedi newid - ac mae'n parhau'n gyson â'r safbwynt yr ymgynghorwyd â hi ar y cyd â Llywodraeth y DU, pan atebodd nifer llethol o ymatebwyr (86%) eu bod yn cefnogi cynnwys gwydr. Mae hefyd yn parhau i fod yn gyson â dyluniad terfynol y cynllun, a gytunwyd ac a gyhoeddwyd ar y cyd â Llywodraeth y DU yn dilyn yr ymgynghoriad ac sy'n gyson â'r dull a ffefrir gan Lywodraeth yr Alban.

Sylwaf hefyd, yn anffodus, nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i alwadau gan y diwydiant am gysondeb yn y deunyddiau a gwmpesir drwy ail-werthuso ei phenderfyniad i wyro oddi wrth y dull cyffredin y cytunwyd arno yn flaenorol. Fodd bynnag, rydym yn parchu mai mater i Lywodraeth y DU yn y maes datganoledig hwn yw penderfynu pa fath o gynllun dychwelyd ernes sy'n gweithio orau i Loegr; ac yn yr un modd ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu ar ffurf y cynllun dychwelyd ernes i Gymru. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y cyd-destun gwahanol iawn yn Lloegr yn golygu y gellir sicrhau enillion sylweddol mewn ailgylchu o hyd, a hynny o gynllun culach a llai uchelgeisiol. Hyd yn oed os bydd cwestiynau ynghylch ei effeithiolrwydd wrth gefnogi'r broses bontio i sero net yn parhau.

O safbwynt Cymru, mae ein gwaith ailgylchu sydd eisoes gyda'r gorau yn y byd yn ein rhoi mewn sefyllfa wahanol, gan olygu bod angen dull mwy uchelgeisiol arnom os ydym am gyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol a'r newid mewn ymddygiad defnyddwyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cynllun dychwelyd ernes. Mae hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw, heb unrhyw enghreifftiau eraill lle mae cynllun dychwelyd ernes wedi'i gyflwyno i genedl sydd eisoes yn ailgylchu lefel uchel o'i gwastraff. Rwy'n nodi eto bod llinell sylfaen a thirwedd Cymru yn wahanol i wledydd eraill y DU. Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych y tu hwnt i'r tymor byr a sicrhau bod ein penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r dystiolaeth o safbwynt gwydr yn glir, gyda dros 50 o enghreifftiau rhyngwladol llwyddiannus o gynlluniau dychwelyd ernes lle mae'r mwyafrif llethol yn cynnwys gwydr fel mater o drefn. Ni ddylai Cymru orfod bodloni am unrhyw beth is na safon arferion gorau rhyngwladol, ond mae'n hanfodol os ydym am barhau i wneud cynnydd yn erbyn ein llinell sylfaen a sicrhau y bydd y cynllun yn effeithiol wrth gefnogi'r newid i sero net. 

Ar ôl edrych ar gynlluniau rhyngwladol fel y rhai yn y Ffindir, Estonia, Denmarc, Lithwania, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, mae'n drawiadol bod yr enghreifftiau gorau nid yn unig yn cynnwys gwydr ond eisoes yn cefnogi ailddefnyddio poteli gwydr. Fel y cyfeirir ato yn nheitl ein strategaeth economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, ac fel y tanlinellir yn ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, mae cefnogi ailddefnyddio mwy eang yn hanfodol os ydym am allu symud i economi gylchol a phontio i sero net. Gyda'r cynlluniau dychwelyd ernes rhyngwladol gorau eisoes yn cefnogi hyd at 60% o boteli gwydr i'w hailddefnyddio, mae hyn yn trawsnewid y deunydd mwyaf dwys o ran ynni a charbon i'r opsiwn cyfredol mwyaf cynaliadwy. Mae hynny'n dod â buddion i fusnesau a defnyddwyr fel ei gilydd. 

Byddai eithrio gwydr, tra bod yr holl ddeunyddiau eraill yn cael eu cynnwys, yn annheg, a gallai hynny arwain at gynhyrchwyr yn newid deunydd am opsiynau llai ecogyfeillgar ac uwch o ran carbon, a byddai hefyd yn eithrio'r opsiwn posibl mwyaf cynaliadwy ar hyn o brydMae perygl hefyd o rwystro gallu'r sector gwydr i bontio ac aros yn gystadleuol, gyda deunydd o ansawdd uchel wedi'i ddidoli yn hanfodol i ddarparu cynnwys wedi'i ailgylchu yn erbyn y gofynion cyfreithiol a fydd ar waith beth bynnag. Mae hefyd yn ychwanegu cymhlethdod i ddefnyddwyr - gydag un cynllun sy'n cynnwys pob math o ddeunydd yn llawer symlach. Mater o amser yw cynnwys gwydr. A gan fod Cymru'n barod i gymryd y camau hyn i gynnwys gwydr, a chefnogi llwybr i ailddefnyddio, gallwn ddarparu dysgu amhrisiadwy i'r gwledydd sydd o'n cwmpas.

Er mai ein dewis ni yw'r cynllun wedi'i alinio y cytunwyd arno yn flaenorol, nodaf y bygythiad y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud i ailadrodd yr hyn a wnaethant yn yr Alban trwy ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol i gyfyngu ar ein gallu i fynd ymhellach a gosod cynllun dychwelyd ernes gwanach ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rheoleiddio'r farchnad fewnol yn briodol, ac rydym yn cytuno bod angen ei diogelu.  Fodd bynnag, fel y gwelir mewn enghreifftiau rhyngwladol o wahanol ddulliau o gyflwyno cynlluniau dychwelyd ernes o fewn un farchnad - gan gynnwys gan genhedloedd bach sydd â ffiniau meddal - mae cyflwyno gwahanol gynlluniau sy'n ymateb i'r gwahanol gyd-destunau yn ein gwledydd yn amlwg yn ymarferol. 

Ar ben hynny, mae'r hanes hyd yma yn yr union faes polisi hwn yn un lle mae llywodraethau datganoledig yn gallu defnyddio offer datganoli i arloesi wedi ychwanegu gwerth sylweddol i'r DU gyfan. Yng Nghymru, rydym yn haeddiannol falch o'r ffaith mai ni oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa. Mae'r llwyddiant ysgubol hwnnw yn golygu bod gweddill y DU wedi mabwysiadu'r un dull gweithredu, gan dynnu sylw at y ffaith bod dulliau peilot mewn meysydd datganoledig yn gallu ychwanegu gwerth sylweddol i'r DU gyfan. Mae'r dull o ymdrin â'r gwaharddiadau ar blastig untro yn enghraifft fwy diweddar arall lle mae'r Llywodraethau datganoledig yn y DU yn sbarduno newid a chyd-destun cynlluniau dychwelyd ernes, yr wythnos diwethaf cyhoeddais ganlyniad cadarnhaol cynllun dychwelyd ernes digidol tref gyfan cyntaf y byd yn Aberhonddu.

Nid yw cam-ddefnyddio Deddf Marchnad Fewnol y DU i gyfyngu ar ddatganoli yn ymwneud â'r farchnad - fel y gwelwyd wrth i Lywodraeth y DU wrthod ail-edrych ar ei phenderfyniad i ddargyfeirio oddi wrth y sefyllfa gyffredin. Mae ein gwrthwynebiad i'r Ddeddf yn tarddu o'r ffaith y gellir ei chamddefnyddio gan ei bod yn rhoi yr holl bŵer i Lywodraeth y DU ac yn mynd ymhell y tu hwnt i'r strwythurau sydd eu hangen i sicrhau cydweithrediad economaidd a rheoleiddiol rhwng gwledydd y DU. Mae arloesi yn rhan allweddol o farchnad gyffredin lwyddiannus; nid yw'n fanteisiol i'r DU gyfan i rwystro gallu Cymru i arloesi a cheisio ei chlymu at yr elfen gyffredin. Ni ddylid defnyddio’r Ddeddf y Farchnad Fewnol i geisio gosod polisi ar lywodraethau datganoledig, gwaeth beth yw ein nodau polisi ein hunain neu gyd-destun domestig gwahanol iawn. 

Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio'n gadarnhaol ac yn adeiladol mewn partneriaeth fel pedair cenedl i ddarparu'r cynllun dychwelyd ernes ledled y DU fel yr ydym wedi ei wneud trwy gydol y broses. Yn ogystal â'r ystod o feysydd lle'r ydym ar y cyd wedi cytuno ar y trefniadau rhyngweithredu a gyhoeddir heddiw, er mwyn sicrhau'r aliniad mwyaf posibl byddwn yn tynnu o ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth ar gyfer cynllun Cymru. 

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau â'n paratoadau, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cynhyrchwyr, manwerthwyr a busnesau eraill i ddatblygu'r cynllun fel rhan allweddol o symud at economi gylchol. Yn ogystal â pharhau â'n gwaith yn treialu potensial dull digidol fel rhan o gynllun dychwelyd ernes, rydym yn gweithio gyda'r diwydiant i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer ailddefnyddio gan dynnu ar y dystiolaeth o enghreifftiau llwyddiannus yr ydym wedi'u gweld yn gweithio mewn gwledydd tebyg i'n gwlad ni.

Ein nod yw cyflwyno cynllun sy'n seiliedig ar arferion gorau rhyngwladol, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â phroblem sbwriel, a hefyd yn cefnogi ein diwydiant diodydd i bontio a bod yn wydn ac yn gystadleuol mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio. Rhaid iddo hefyd fod yn effeithiol wrth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur trwy ddysgu o'r datrysiadau hysbys sy'n cael eu darparu'n llwyddiannus mewn llefydd eraill. 

Mae Cymru eisoes yn genedl sy'n ailgylchu. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i'n cynllun dychwelyd ernes ein helpu i gymryd cam pellach ymlaen. Gall cynllun dychwelyd ernes Cymru ddisgwyl bod yn arloesol fel y cynllun cyntaf o'i fath sy’n cael ei weithredu mewn gwlad sydd eisoes yn cyflawni cyfraddau ailgylchu uchel.