Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror 2016, cafodd y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio. Daeth y Ddeddf i rym yn llawn o fewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion ym mis Ebrill eleni.

Mae'r Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu'r Ddeddf i gynnwys lleoliadau ychwanegol erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Mae'r Ddeddf yn eithaf clir o ran yr hyn y mae'n rhaid ei wneud er mwyn gallu ehangu Adran 25B i gynnwys lleoliadau gofal iechyd eraill. Fel y nodir yn y Ddeddf, rhaid defnyddio adnodd cynllunio'r gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel rhan o ddull trionglog o gyfrifo lefelau staff nyrsio. Mae paragraff 41 o'r canllawiau statudol yn nodi y byddai'r Prif Swyddog Nyrsio yn penderfynu pa adnodd a ddefnyddir yng Nghymru yn seiliedig ar y graddau y mae'n bodloni'r diffiniad canlynol: "adnodd damcaniaethol sefydledig neu adnodd a ddatblygwyd i'w ddefnyddio yn y GIG yng Nghymru sydd wedi'i ddilysu i'w ddefnyddio drwy sefydlu sylfaen dystiolaeth o'i gymhwysedd mewn lleoliadau clinigol yng Nghymru."

Ar gyfer wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, Lefelau Gofal Cymru yw'r unig adnodd sy'n bodloni'r diffiniad yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, nodwyd bod yn rhaid i bob bwrdd iechyd ei ddefnyddio fel rhan o'r broses cyfrifo lefelau staff o 6 Ebrill 2018 ymlaen. Datblygwyd adnodd Lefelau Gofal Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd fel rhan o broses ailadroddus a ofynnodd i filoedd o nyrsys o bob rhan o'r wlad gasglu data er mwyn creu'r sail dystiolaeth angenrheidiol mewn lleoliad clinigol yng Nghymru. Roedd yn bosibl profi a datblygu adnodd Lefelau Gofal Cymru yng Nghymru o fewn cyfnod cymharol fyr gan fod adnodd ag algorithm sicr eisoes ar waith mewn sawl rhan o'r DU – yr Adnodd Gofal Nyrsio Diogelach – yr oeddem wedi gallu ei ddefnyddio fel sylfaen i adeiladu arni.  

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw adnodd sefydledig tebyg yn cael eu defnyddio i gynllunio'r gweithlu mewn lleoliadau gofal eraill, a dyna pam – drwy Grŵp Lefelau Staff Nyrsio Cymru Gyfan – rydym yn datblygu adnoddau newydd ac yn bwriadu cynnal profion ym mhob rhan o'r GIG yng Nghymru i ddatblygu'r sail dystiolaeth angenrheidiol. Yn anochel, ni ellir cyflawni'r broses hon na gwneud y gwaith ymgysylltu angenrheidiol â thimau ledled y wlad dros nos, ond mae'n hanfodol bod y gweithgorau'n cael yr amser sydd ei angen arnynt i bennu cwmpas y gwaith datblygu a'i wneud, ei dreialu, ei adolygu a'i gwblhau'n drylwyr. Os byddwn yn rhuthro i greu'r adnoddau hyn ac yn creu adnoddau nad ydynt yn addas at y diben, gallai hyn arwain at lefelau staff amhriodol o uchel a fyddai'n rhy gostus heb unrhyw fudd ychwanegol i'r claf neu, yn bwysicach, gallai arwain at niwed i'r claf gan fod lefelau staff yn rhy isel.

Mae Grŵp Lefelau Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn goruchwylio pum ffrwd waith sy'n ymchwilio i ehangu'r Ddeddf i gynnwys eu priod leoliadau nyrsio. Y rhain yw:

- wardiau iechyd meddwl i oedolion sy'n gleifion mewnol;

- nyrsys ardal;

- ymwelwyr iechyd;

- cartrefi gofal;  

- wardiau pediatrig i gleifion mewnol.

Mae'r gweithgorau yn dilyn methodoleg debyg er mwyn bodloni gofynion y Ddeddf, ac maent wedi cyrraedd camau gwahanol yn y broses o ddatblygu'r adnoddau cynllunio'r gweithlu angenrheidiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel Lefelau Gofal Cymru. Mae'r dulliau a ddefnyddir i roi gofal nyrsio yn y pum lleoliad yn amrywio'n fawr; felly, mae'r gweithgorau'n edrych ar fathau gwahanol o adnoddau cynllunio'r gweithlu a fydd yn addas i'w priod feysydd. Y lleoliad mwyaf tebyg i'r lleoliad meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion yw wardiau pediatrig i gleifion mewnol. Mae hyn am fod y ddau mewn ward i gleifion mewnol lle mai disgrifyddion iechyd corfforol yw'r prif ffactor a ddefnyddir i bennu lefel aciwtedd claf.

Mae'r gwaith a wnaed eisoes i ddatblygu adnodd Lefelau Gofal Cymru ar gyfer wardiau meddygol a llawfeddygol i oedolion yn gosod sail gadarn i'r gweithgor pediatrig ddatblygu adnodd sy'n addas i'w faes arbenigedd. Mae'r gwersi a ddysgwyd ar y daith ailadroddus honno yn amhrisiadwy wrth ddatblygu'r fersiwn bediatrig o adnodd Lefelau Gofal Cymru, gwaith sydd wedi bod ar y gweill ers 2017.

Am fod y gweithgor pediatrig ar gam datblygedig yn y broses, cytunais ym mis Ebrill y llynedd i ariannu swydd arweinydd prosiect am ddwy flynedd er mwyn helpu i gyflymu cynnydd ffrwd waith y wardiau pediatrig. Mae'r arweinydd prosiect hwn wedi bod yn ymgymryd â'r swydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ers mis Ionawr, ac mae'n arwain y gwaith o ddatblygu adnodd pediatrig Lefelau Gofal Cymru. Mae disgwyl i hyn gymryd yr un faint o amser (dwy flynedd) ag a gymerodd i ddatblygu Lefelau Gofal Cymru ar gyfer oedolion. Yn fy marn i, wardiau pediatrig yw'r lleoliad ychwanegol mwyaf tebygol a fydd yn barod i gael ei gynnwys yn y Ddeddf erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon. Un fantais arall o benodi'r arweinydd prosiect yw bod adnoddau wedi cael eu rhyddhau o fewn Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu'r pedair ffrwd waith arall.

Yn ystod y blynyddoedd cyn pasio'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwyr Nyrsio Gweithredol ar gyfres o egwyddorion staffio ar gyfer wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Roedd hwn wedi rhoi darlun gwerthfawr o'r sefyllfa yng Nghymru o ran staff nyrsio ac wedi helpu i baratoi'r ffordd yn y GIG ar gyfer y Ddeddf newydd.

Ym mis Tachwedd 2017, cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio ar set debyg o egwyddorion staffio ar gyfer nyrsys ardal. Ar ben hynny, mae'r pedair ffrwd waith sy'n weddill yn ystyried egwyddorion sy'n addas i'w priod leoliadau. Mae'n bosibl, erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon, y bydd egwyddorion staffio ar gael ar gyfer pob un o'r pum lleoliad nyrsio fel ffordd o baratoi ar gyfer ehangu'r Ddeddf.

Daeth Adran 25A o'r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2017, ac mae'n nodi cyfrifoldebau cyffredinol byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ofalu am gleifion yn sensitif. Mae'r GIG yng Nghymru yn ymrwymedig i fodloni'r ddyletswydd hon. Mae'r ddyletswydd yn gymwys i bob lleoliad lle mae gofal nyrsio yn cael ei roi neu ei gomisiynu yng Nghymru.

Fel y nodir yn Adran 25E o'r Ddeddf, caiff adroddiad cyntaf y GIG ar gydymffurfio â'r Ddeddf ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ym mis Ebrill 2021, sef tair blynedd ar ôl gweithredu'r ail ddyletswydd. Yna, caiff yr adroddiad hwn ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gynnar yn ei chweched tymor.