Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos pwysigrwydd cysylltedd band eang mewn cartrefi a busnesau ledled Cymru boed hynny ar gyfer dysgu gartref, cysylltu gydag anwyliaid neu weithio gartref.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf a’r ffordd y mae’r buddsoddiad hwn wedi trawsnewid y sefyllfa ddigidol yng Nghymru.  Byddant hefyd yn gwybod bod rhagor o waith i’w wneud.  Heddiw rwyf am roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar ddatblygiadau pellach.

Cafodd Arolwg o’r Farchnad Agored (OMR) ei gynnal yn ail hanner y llynedd. Roedd hwn yn brosiect mawr gyda’r diwydiant telathrebu, i weld pa safleoedd oedd yn dal i fod heb gysylltiad ag o leiaf band eang cyflym iawn neu lle nad oedd cynlluniau i’w cysylltu.  Gwelwyd bod rhyw 79,000 o safleoedd (safleoedd ‘gwyn’ fel y’u gelwid) heb gysylltiad â band eang cyflym iawn ac nad oedd cynlluniau ar y gweill am y tair blynedd nesaf i’w cysylltu.  Mae’r data wedi’u cyhoeddi bellach ar ein gwefan a bydd dadansoddiad o’r safleoedd ‘gwyn’ yn ôl awdurdod lleol wedi’i atodi i’r datganiad hwn.

Byddwn yn parhau i gefnogi’r rheini sydd dal i fod heb gysylltiad trwy amrywiaeth o fesurau.  Budd Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu ychwanegiad i’r Cynllun Talebau Band Eang Gigabit o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i adlewyrchu’r costau uwch sy’n gysylltiedig â chysylltedd ffibr llawn yng Nghymru.  Mae’r cynllun bellach wedi dod i ben ac wedi’i ddisodli gan y prosiect Cysylltedd Gigabit Gwledig.  Rwy’n falch iawn i’ch hysbysu ein bod wedi cymryd camau pellach i gynnig adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau pecyn hael o fesurau ar gyfer Cymru nad oes gwell ar gael yn unrhyw le arall yn y DU. Byddwn yn cynnig £1,500 yn ychwanegol i eiddo preswyl a £3,500 ar gyfer busnesau yng Nghymru.  Bydd hyn yn mynd â’r uchafswm sydd ar gael ar gyfer eiddo yng Nghymru i £3,000 a £7,000 yn y drefn honno.  I helpu i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar eiddo sydd ei angen fwyaf, dim ond eiddo ‘gwyn’ fydd yn gymwys.  Bydd y cyllid ychwanegol ond yn cael ei ryddhau pan fyddwn yn mynd y tu hwnt i uchafsymiau cyllido y DU.

Fel yr amlinellir yng nghasgliadau OMR mae cartrefi a busnesau yng Nghymru nad yw’r farchnad yn darparu ar eu cyfer. Rydym yn defnyddio ein cyllid er mwyn cyflawni dulliau cysylltu newydd a blaengar o gysylltu cymunedau cyfan, trwy gydweithio â llywodraeth leol a mentrau cymdeithasol drwy ein Cronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn a ddisgrifiais ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r gwaith ar y Gronfa wedi’i hatal dros dro oherwydd bod adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi’u hailddosbarthu er mwyn mynd i’r afael â phandemig y coronafeirws. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r cynllun wedi ailddechrau.

Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i ddatrys problemau ynghylch cysylltedd ac mae fy swyddogion wedi gweithio i symleiddio’r broses ymgeisio i’w gwneud yn gyflymach a haws.

Byddaf yn parhau i ddarparu y newyddion diweddaraf i’r Aelodau.

Crynodeb yn ôl awdurdod lleol.

Awdurdod Lleol

    Gwyn

 

BLAENAU GWENT

1,354

 

PEN-Y-BONT AR OGWR

2,403

 

BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI

2,017

 

CAERDYDD

2,769

 

SIR GAERFYRDDIN

9,480

 

CEREDIGION

5,246

 

GORLLEWIN CAER A CHAER *

3

 

CONWY

3,295

 

SIR DDINBYCH

4,509

 

SIR Y FFLINT

2,970

 

SWYDD GAERLOYW *

1

 

GWYNEDD

6,006

 

YNYS MÔN

2,801

 

MERTHYR TUDFUL

805

 

SIR FYNWY

2,405

 

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

1,650

 

CASNEWYDD

2,013

 

SIR BENFRO

6,366

 

POWYS

10,701

 

RHONDDA CYNON TAF

3,544

 

SWYDD AMWYTHIG *

5

 

ABERTAWE

3,052

 

TORFAEN

1,071

 

BRO MORGANNWG

1,857

 

WRECSAM

2,700

 

Cyfanswm

79,023

 

* Mae’r lleoliadau hyn o fewn Cymru ond maent wedi’u categoreiddio fel rhai sy’n gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yn Lloegr.