Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ysgrifennaf i roi gwybod i aelodau bod Abellio Rail Cymru, Arriva Rail Wales, KeolisAmey a MTR Corporation (Cymru) Ltd wedi cael gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe (Ddydd Iau 28 Medi) i gyflwyno tendrau terfynol ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau.

Bydd y gwasanaeth rheilffyrdd newydd yn sicrhau newid yn ansawdd teithiau yng Nghymru. Felly, yn hytrach na dilyn y model traddodiadol a ddefnyddir wrth gaffael gwasanaethau rheilffyrdd, lle mae cwmnïau yn cyflwyno cynigion ar sail manyleb benodol, mae'r ffordd wahanol hon o weithio wedi caniatáu inni edrych ar syniadau newydd ac i feithrin perthynas o gydweithio ag eraill.

Mae'r trafodaethau manwl gyda phob un o'r pedwar cwmni sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi rhoi hyd yn oed fwy o hyder i mi y bydd y gwasanaeth nesaf yn un llawer gwell. Cyhoeddir pwy fydd y gweithredwr newydd yn gynnar yn 2018.

Mae'r cynigion ar gyfer Metro De Cymru yn cael eu datblygu ochr yn ochr â gwasanaeth Cymru a'r Gororau er mwyn helpu i ddatblygu system drafnidiaeth integredig yn y rhanbarth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r tendr terfynol yw 21  Rhagfyr.

Ynghyd â hyn, byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU am gyllid teg ar gyfer gwneud gwelliannau i wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru yn cael y buddsoddiad y mae'n ei haeddu er mwyn cefnogi ein cymunedau a thwf yn yr economi.

Rwy'n bwriadu creu gwasanaeth rheilffyrdd a fydd o fudd i rwydwaith gyfan Cymru a'r Gororau, un sy'n rhoi lle canolog i deithwyr. Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam pwysig arall at gyrraedd y nod hwnnw.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn nogfen 'Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol' a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru