Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddoe, sef dydd Mawrth 31 Ionawr 2012, oedd y dyddiad olaf y gallai ffermwyr Cymru ymateb yn ffurfiol i’r cynnig o gontract Elfen Cymru Gyfan Glastir, i  ddechrau ym mis Ionawr 2012.

Mae cyfanswm bellach o 1,698 contract yr Elfen Cymru Gyfan yn dechrau yn 2012 , ac mae’r rheini’n cwmpasu arwynebedd tir o 154,014 hectar. Mae 107 o gontractau Elfen Tir Comin wedi’u llofnodi hefyd, ar gyfer 947 o borwyr actif, ar gyfanswm o 67,922 hectar. Cyfanswm y Contractau Creu Coetir yw 269 ar hyn o bryd, gyda 262 o geisiadau eraill yn aros i gael eu cymeradwyo. Hyd yn hyn mae 225 hectar o goetiroedd wedi’u plannu a 672 hectar arall wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu plannu.

Mae 120 o ddeiliaid contractau Elfen Cymru Gyfan Glastir wedi cael eu dewis i ymuno â’r Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol (ACRES) yn 2012, ac anfonwyd ffurflen gais atynt i’w llenwi. Bydd unrhyw ymgeiswyr a fu’n aflwyddiannus yn y rownd hon yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun yn y rowndiau nesaf.

Hefyd, cafodd oddeutu 500 o ymgeiswyr Elfen Cymru Gyfan Glastir eu dewis i ymuno ag Elfen wedi’i Thargedu y cynllun yn 2013. Bydd unrhyw ymgeiswyr a fu’n aflwyddiannus yn y rownd hon yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun yn y rowndiau nesaf.

Rwy’n credu bod hwn yn ddechrau da, ac yn cymharu’n ffafriol iawn â chynlluniau amaeth-amgylchedd eraill yn eu blwyddyn gyntaf. Wedi dweud hynny, rwyf hefyd o’r farn bod llawer o waith i’w wneud eto. Ni fyddwn yn gwybod pa mor llwyddiannus yw Glastir mewn gwirionedd tan 2014, oherwydd dyna pryd y bydd y rhan fwyaf o’r cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol yn dirwyn i ben.

Dylid nodi yn enwedig y nifer o diroedd comin a ymunodd ag Elfen Tir Comin Glastir yn y flwyddyn gyntaf hon. Bellach bydd oddeutu 32% o dir comin Cymru yn cael ei reoli o fewn Glastir, o gymharu â llai na 2% o dan y cynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol, sef Tir Gofal a’r cynllun Ardal Amgylcheddol Sensitif.

Mae oddeutu 7,000 o ffermwyr yn ddeiliaid cytundeb Tir Gofal neu Tir Cynnal. Yn dilyn y trefniadau i estyn y cytundebau hyn tan 2014, bydd llawer o’r ffermwyr hyn yn aros cyn ystyried ymuno â Glastir. Ychydig dros 10,400 o ffermwyr sydd wedi hawlio’r taliad Tir Mynydd olaf, a wneir ym mis Mawrth 2012. O’r rheini, mae oddeutu 5,000 wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir o 2013 ymlaen.

Bydd y cymorth a gynigir drwy Glastir yn cynyddu, a’r cynllun yn cael ei ehangu pan gyflwynir yr elfen troi at ffermio organig a’r elfen cynnal organig. Byddwn yn drafftio cynigion ar gyfer cymorth organig y dyfodol ac yn ymgynghori arnynt unwaith y daw’r Rheoliadau Datblygu Gwledig newydd yn hysbys.

Diwedd mis Mawrth 2012 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i ymuno â’r Cynllun Rheoli Coetir. Ar ôl hynny bydd cynghorwyr coetir yn cynnal ymweliadau drwy gydol yr haf. Daeth 19 datganiad o ddiddordeb i law ers i’r cyfnod ymgeisio ddechrau ar 1 Ionawr. Mae angen dychwelyd y contractau erbyn diwedd 2012, a dyna pryd y cawn wybod faint sydd wedi ymuno. Mae’r Cynllun Creu Coetir ar agor i geisiadau ar hyn o bryd a bydd yn parhau ar agor hyd nes yr hysbysir yn wahanol.

Rwy’n gwybod y bydd llawer o ffermwyr yn awyddus i gael cyfnod o sefydlogrwydd yn awr, yn dilyn cyfnod eithaf hir o newidiadau i’r cynllun gan gynnwys cyflawni llawer o argymhellion adolygiad Rees Roberts. Serch hynny, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni gymryd saib er mwyn pwyso a mesur y sefyllfa’n drylwyr ac ystyried, ar y cyd â’r ffermwyr eu hunain, beth sydd wedi mynd yn dda a beth oedd yn llai llwyddiannus.

Am y rheswm hwnnw, rwy’n bwriadu mynd ati yn awr i adolygu’r ffordd y rhoddwyd cynllun Glastir ar waith a gwrando ar awgrymiadau ar gyfer gwella Glastir a’r broses ymgeisio yn y dyfodol. Bydd yr ymarfer cloriannu hwn yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf ac wedi’i gwblhau erbyn dechrau’r haf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach am y mater maes o law. O sgwrsio â’r ffermwyr sydd wedi ymgeisio ar gyfer Glastir, mae’n amlwg mai un  o’r meysydd sydd angen sylw arbennig yw’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu am y cynllun. Mae pecyn ymgeisio Elfen Cymru Gyfan Glastir eisoes wedi’i adolygu a’i ddiweddaru ar gyfer y cyfnod ymgeisio cyfredol ac mae 12 o sesiynau galw heibio wedi’u trefnu ar draws Cymru i roi cyngor technegol a gweinyddol ynghylch Elfen Cymru Gyfan Glastir yn ystod y cyfnod ymgeisio hwn.

Mae’r diwydiant ffermio yng Nghymru yn ymwybodol bod £89 miliwn y flwyddyn ar gael ar hyn o bryd i’r cynllun Glastir a’r cynlluniau amaeth-amgylchedd eraill sy’n dirwyn i ben. Os na fydd ffermwyr yn manteisio ar y cyllid hwn bydd llawer yn galw am y cyfle i’w wario mewn meysydd eraill.

Mae Glastir yn fodd i Lywodraeth Cymru ddigolledu ffermwyr am y camau a gymerant i helpu Cymru i gyflawni ei dyletswyddau gorfodol mewn perthynas â nifer o Gyfarwyddebau Ewropeaidd. Os na fydd y nifer ofynnol wedi ymuno â’r cynllun hwn o 2014 ymlaen, mae’n bosibl y bydd yn rhaid dewis trywydd deddfwriaethol arall, heb y manteision ariannol y mae Glastir yn eu cynnig.