Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Datganiad ysgrifenedig yw hwn am Gronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.
Hyd yn hyn, mae Cronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru wedi buddsoddi mewn pedwar cwmni.
Y cwmni cyntaf i’r Gronfa fuddsoddi ynddo oedd Simbec Research Limited o Ferthyr Tudful ym mis Mai 2013.  Mae Simbec yn un o brif gwmnïau ymchwil clinigol y Deyrnas Unedig.  
Ym mis Awst 2013, buddsoddodd yn ReNeuron cwmni bôn-gelloedd blaenllaw iawn.  O ganlyniad i’r buddsoddiad, bydd ReNeuron yn sefydlu ei bencadlys, ei adran ymchwil a datblygu a’i weithgareddau cynhyrchu ym Mhencoed.
Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd y gronfa ei fod wedi gwneud trydydd buddsoddiad mewn cwmni fferyllol o’r enw Verona Pharma.  Mae’r cwmni hwn wedi’i gofrestru ar gyfnewidfa stoc AIM ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu meddyginiaethau i drin clefydau anadlol.  Bydd Verona Pharma yn sefydlu ei bencadlys yng Nghymru.
Yn sgil buddsoddiad a wnaeth y gronfa ym mis Mehefin 2014, prynodd Simbec Research gwmni Orion Clinical Services – cwmni datblygu clinigol cam hwyr gan sefydlu Simbec-Orion Group Ltd.  Bydd pencadlys Simbec-Orion Group yn aros yn ei safle presennol ym Merthyr Tudful ac mae gan y cwmni, sy’n cyflogi 250 o staff, gynlluniau cyffrous i ehangu’r busnes.  Yn sgil hyn, disgwylir y bydd y cwmni’n prynu rhagor o gwmnïau.  Bydd y cwmni newydd yn gallu darparu ar gyfer pob cam o dreial clinigol gan ei wneud yn wahanol i’w gystadleuwyr sy’n dueddol o ganolbwyntio ar un wahanol gamau o’r broses glinigol yn unig.
Mae’r tîm sy’n rheoli’r gronfa yn parhau i ddatblygu cyfleoedd posibl i fuddsoddi a disgwylir i’r cyfleoedd hynny ddwyn ffrwyth cyn diwedd y flwyddyn.  
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.