Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cronfa Pasbortau Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ar 30 Medi, yn rhoi cyfle i bersonau cyfrifol ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth sy'n 11m neu'n uwch fanteisio ar arolwg clir a dibynadwy o unrhyw waith sydd ei angen i sicrhau bod eu hadeilad yn gallu gwrthsefyll tân.

Ers lansio'r cynllun, rydym wedi cael 248 o ddatganiadau o ddiddordeb hyd at 31 Rhagfyr. Mae'r cynllun yn parhau ar agor i ragor o ddatganiadau o ddiddordeb.

Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi ein bod wedi pennu'r trefniadau contractiol i arolygwyr ac arbenigwyr technegol er mwyn cynnal yr arolygon ar gyfer y pasbortau.

Rydym wedi penodi Adroit Economic Ltd, a bydd yn dechrau ar y gwaith ar 1 Mawrth. Cwmni ymgynghori profiadol iawn yw Adroit, sy'n cynrychioli rhwydwaith mawr o arbenigwyr diwydiant amlddisgyblaethol gydag arbenigedd cydnabyddedig penodol o gynnal arolygon ar gyfer gwaith cyweirio adeiladau. 

Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyweirio diffygion a nodwyd o ran diogelwch adeiladau, gan gynnwys materion yn ymwneud â chladin a diogelwch tân.

Mae gan ddatblygwyr rôl glir i'w chwarae wrth helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion diogelwch sy’n bodoli er mwyn sicrhau na fydd lesddeiliaid yn mynd i gostau. Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi neilltuo arian, ond rwyf o'r farn o hyd fod modd iddynt wneud mwy, ac y dylent wneud mwy.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach i'r Senedd gan rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen waith ehangach ar gyfer diogelwch adeiladau yn ystod y mis nesaf.