Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni comisiynwyd gwaith gennym i archwilio rôl botensial cwmnïau cydweithredol a chymdeithasau cydfuddiannol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y gwaith ei gomisiynu  gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a’i gyflawni gan Keith Edwards.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Is the Feeling Mutual?’ sy’n nodi canfyddiadau’r gwaith hwn.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â chwmnïau cydweithredol a chymdeithasau cydfuddiannol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a’r potensial i’r rôl  hon gael ei datblygu fel ffordd amgen i ddod â gwasanaethau i ben neu breifateiddio gwasanaethau. Mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i grynhoi sefyllfa’r holl sefydliadau allweddol sydd â buddiant a’u rôl botensial wrth hyrwyddo newid cyn mynd ati i gynnig ffyrdd o gefnogi dull cydweithredol o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl yr adroddiad mae’n amlwg bod gweithgarwch sylweddol eisoes yn digwydd yn y maes hwn ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae sgôp ar gyfer sicrhau datblygiadau cryfach a mwy cynaliadwy, a thrwy hynny, amddiffyn buddiannau’r cymunedau sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn a’r gweithlu sy’n eu darparu.

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau da o fodelau cydweithredol a chydfuddiannol sydd ar waith ac sy’n cyflawni ar gyfer cymunedau yng Nghymru. Ni ddylai’r stori bositif hon fod yn syndod; mae Cymru wedi arloesi modelau cydweithredol erioed. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn deddfu ar lunio modelau cydweithredol a chydfuddiannol mewn gofal cymdeithasol. Mewn unarddeg o awdurdodau lleol yng Nghymru, pleidleisiodd tenantiaid o blaid atebion cydfuddiannol neu fentrau cymdeithasol cymunedol ar gyfer rheoli eu tai cymdeithasol.

Yn ogystal â chydnabod datblygiadau cadarnhaol yng Nghymru, mae hefyd enghreifftiau da y gallwn eu tynnu o fannau eraill.

Mae cyfle i weld yr arloesi a’r creadigrwydd sy’n amlwg mewn rhai mannau yn ehangu eto, a thrwy wneud hynny, sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau.

Mae’r adroddiad yn cynnig camau pellach mewn nifer o feysydd, ac mae’r meysydd sydd angen gweithredu arnynt yn ymwneud â phortffolio sawl Gweinidog. Yn ystod yr haf, gyda chymorth cydweithwyr, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i roi cynigion yr adroddiad ar waith. Byddwn hefyd yn defnyddio’r amser hwnnw i ymgysylltu â’r ystod lawn o bartneriaid sydd â buddiant yn y maes hwn a sicrhau eu cefnogaeth i symud pethau ymlaen.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan gyhoeddir y cynllun gweithredu yn yr hydref.