Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma bedwaredd flwyddyn y trefniadau cynllunio yn sgil cyflwyno Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Drwy Fframwaith Cynllunio GIG Cymru, rhoddwyd cyfeiriad clir i sefydliadau’r GIG. Gofynnir i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG nodi sut y bydd adnoddau’n cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd, er mwyn:

  • Rhoi sylw i anghenion iechyd poblogaethau a gwella canlyniadau iechyd;
  • Gwella ansawdd gofal;
  • Sicrhau’r gwerth gorau gan yr adnoddau.
Dyma’r cynlluniau cyntaf i’w cyflwyno yn dilyn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a bu cydweithio rhwng swyddfa’r Comisiynydd, y GIG, a’m swyddogion innau er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hyn, a fydd yn darparu gofal iechyd i bobl Cymru dros y blynyddoedd nesaf, yn seiliedig ar y pum dull o weithio.

Ni fydd cynllun yn cael ei gymeradwyo nes bod bwrdd wedi craffu arno’n fanwl a’i gymeradwyo, a nes fy mod i, yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn fodlon ei fod yn bodloni’r gofynion a nodir yn y fframwaith.  

Rwyf wedi gwneud penderfyniad cynharach ar gymeradwyo chwe sefydliad sydd wedi cyflwyno cynlluniau cytbwys y gellir eu gweithredu. Mae’r sefydliadau hyn wedi dangos aeddfedrwydd cynyddol yn eu trefniadau cynllunio, ac rwy’n cydnabod hynny drwy eu cymeradwyo’n gynnar. Bydd hyn yn rhoi i’r sefydliadau dan sylw y gallu i sicrhau dilyniant ac i weithredu’n gyflym, sy’n golygu y bydd mwy o amser ganddynt i roi eu cynlluniau ar waith.

Ar ôl cyflawni’r broses o graffu’n fanwl ar y cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer 2017-20, rwyf wedi cymeradwyo’r chwe sefydliad canlynol –
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Rwyf wedi gosod telerau atebolrwydd heriol er mwyn parhau i sicrhau gwelliant sydyn ledled y gwasanaeth iechyd, ac osgoi llaesu dwylo o fewn unrhyw sefydliad. Bydd perfformiad y sefydliadau hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Nid yw’r ffaith bod cynllun wedi ei gymeradwyo yn lleihau atebolrwydd y bwrdd iechyd na bwrdd ymddiriedolaeth y GIG mewn perthynas â darparu gwasanaethau, na chwaith yn effeithio ar ganlyniadau unrhyw drefn briodol y mae ei hangen i weithredu’r cynllun. Rhaid ad-drefnu gwasanaethau yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol, er enghraifft, a bydd unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf yn gorfod mynd drwy’r prosesau achos busnes arferol.

Eleni, roedd pedwar sefydliad heb gyflwyno cynlluniau tair blynedd a oedd wedi eu cymeradwyo gan fwrdd. Mae’r sefydliadau hyn i gyd mewn sefyllfa o uwch gyfeirio mwy dwys, ac yn gweithio gyda fy swyddogion i ddatblygu atebion i’r heriau sy’n parhau i’w hwynebu.  

Nid yw’r sefydliadau canlynol wedi cyflwyno cynlluniau tair blynedd y gellir eu cymeradwyo:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwybod bod Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu nifer o heriau o ran gwasanaeth a pherfformiad, a bod y bwrdd yn parhau i fod ag angen cefnogaeth. Bydd ymateb y bwrdd iechyd i’r heriau hyn yn cael eu nodi yng nghynllun blwyddyn y bwrdd.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i wynebu heriau sy’n ymwneud â strategaeth, gwasanaeth, a chyllid. Bydd y bwrdd iechyd yn paratoi cynllun blwyddyn a fydd yn ei ganiatáu i ganolbwyntio ar feysydd o flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd i ddarparu cymorth wrth iddo ddatblygu a gweithredu’r cynllun hwn, yn ogystal â chydweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i ddatblygu atebion ar lefel ranbarthol i rai o’r heriau sydd wedi bodoli ers amser hir.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wrthi’n datblygu cynllun blwyddyn, a bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’r bwrdd wrth iddo ddatblygu atebion mwy tymor hir. Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu heriau sy’n ymwneud â pherfformiad a rheolaeth ariannol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu heriau sy’n ymwneud â pherfformiad a rheolaeth ariannol ac mae angen datrys yr heriau hyn cyn i’r bwrdd allu cyrraedd sefyllfa gynaliadwy.

Mae Caerdydd a’r Fro wrthi’n datblygu cynllun blwyddyn, a bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’r bwrdd wrth iddo ddatblygu atebion mwy tymor hir.  


Mae’r cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd yn ddatganiadau hollol hanfodol o fwriad sefydliadau’r GIG mewn perthynas â strategaeth a darpariaeth. Rhaid i’r broses o gymeradwyo cynlluniau mor bwysig fod yn drwyadl. Rwy’n disgwyl i fyrddau sicrhau bod eu sefydliadau bob amser yn bodloni’r amodau ar gyfer cymeradwyo eu cynlluniau, a chyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn eu cynlluniau tymor canolig integredig.

Mewn achosion lle nad yw bwrdd wedi llwyddo i gyflwyno cynllun tair blynedd y gellir ei gymeradwyo, bydd fy swyddogion yn ystyried trefniadau priodol i’w helpu i gyflwyno cynllun tymor canolig integredig yn 2018.