Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella gofal iechyd menywod a merched yng Nghymru.

Rwyf wedi nodi yn glir fy ymrwymiad i wella gwasanaethau iechyd, gwella canlyniadau i fenywod a merched, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn ein system gofal iechyd. 

Rwyf wedi amlinellu camau gweithredu strategol, gan gynnwys nodi disgwyliadau ar wasanaethau’r GIG drwy’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched. Rwyf wedi sefydlu’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, a fydd yn cael ei arwain gan ddwy rôl allweddol sef yr arweinydd clinigol a rheolwr y rhwydwaith strategol. Yn ogystal, mae’r GIG yng Nghymru yn datblygu Cynllun Iechyd Menywod. 

Mae nifer o'r camau allweddol hyn eisoes wedi'u cyflawni. Rydym wedi:

  • Cyhoeddi'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched. Mae'r disgwyliadau y mae’n eu hamlinellu yn llywio'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd menywod eu darparu ledled Cymru. 
  • Cyhoeddi'r Adroddiad Darganfod: Sylfeini Cynllun Iechyd Menywod. Mae’r argymhellion, gan gynnwys sicrhau'r seilwaith i fonitro cynnydd a chanlyniadau yn erbyn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched, yn rhoi’r sylfaen ar gyfer y gwaith i lunio Cynllun Iechyd Menywod.
  • Cyflwyno nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd. Maent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fenywod yn eu hardaloedd lleol, yn codi ymwybyddiaeth ac yn sicrhau bod menywod yn gallu siarad am eu cyflwr yn uniongyrchol â pherson cyswllt. Mae adborth yn awgrymu bod menywod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu, yn cael eu clywed a'u bod yn deall eu cyflwr yn well. 
  • Cydgysylltwyr iechyd y pelfis wedi'u hariannu ym mhob bwrdd iechyd.  Maent yn treulio amser â chleifion mewn clinigau ac yn ymwneud â thimau amlddisgyblaethol i wella gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru. Mae hyn yn allweddol i ymdrin â materion ymataliaeth sy’n benodol i fenywod, yn arbennig yn ystod beichiogrwydd ac wedi genedigaeth. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru Gyfan ar Ymataliaeth yn cael ei sefydlu er mwyn nodi ymhellach ffyrdd o godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma ynghylch y mater pwysig hwn. 

Heddiw, rwy’n falch o groesawu penodiad Dr Helen Munro, ymgynghorydd gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol fel yr arweinydd clinigol cyntaf ar gyfer iechyd menywod, ac Alex Hicks fel rheolwr y rhwydwaith strategol a fydd yn bwrw ati i ddatblygu'r Cynllun Iechyd Menywod, gan ddechrau â'r camau gweithredu tymor byr sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad darganfod. 

Rwyf wedi ymrwymo yn flaenorol i sicrhau bod lleisiau menywod a merched yn sail i'r cynllun. Er bod y dull hwn yn cymryd amser, rwy’n disgwyl i’r ymgynghoriad ynghylch y camau gweithredu hyn ddigwydd dros yr haf, gan anelu at gyhoeddi’r cynllun erbyn diwedd 2024.

Rwyf hefyd yn nodi fy null i gynyddu cyllid ar gyfer ymchwil ym maes iechyd menywod. Er bod yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn gwneud hyn yn anodd, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i’m swyddogion flaenoriaethu symud adnoddau tuag at faes iechyd menywod yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwyf wedi cytuno ar y canlynol:

  • Ymarfer blaenoriaethu ymchwil iechyd menywod i ddechrau ym mis Ebrill 2024 gan geisio barn y rhai sydd â phrofiad bywyd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ynghylch y materion sydd bwysicaf iddynt.
  • Cais wedi'i gomisiynu am ymchwil sy'n canolbwyntio'n llwyr ar flaenoriaethau iechyd menywod i'w lansio ym mis Ebrill 2025, gan adeiladu ar yr ymarfer blaenoriaethu ymchwil a chan ymrwymo £750,000 i brosiectau iechyd menywod.
  • Annog cais gan brifysgolion yng Nghymru am gyllid ysgogol i sefydlu Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod. 

Yn y cyfamser, mae'r disgwyliadau a nodir yn y datganiad ansawdd yn parhau i lywio'r gwaith cyflenwi gwasanaethau ac mae cynnydd yn cael ei wneud ledled Cymru. Er enghraifft, mae Canolfan Iechyd Menywod wedi’i sefydlu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, sy’n dod â'r holl wasanaethau gynaecoleg ynghyd mewn un lle.