Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn annerch yng nghynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru yn Llanfair ym Muallt, ble y bydd ffermwyr, proseswyr bwyd a manwerthwyr o Gymru a thu hwnt yn trafod effaith Brexit ar y sector cig coch yng Nghymru.

Mae dros un rhan o dair o gig oen Cymru, yn ogystal â swm sylweddol o gig eidion yn cael ei allforio, masnach sy'n werth bron i £200 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, gyda dros 90% o'r allforion hynny i gyrraedd yr UE. Mae cynyddu allforion yn elfen allweddol o'n huchelgais cyffredinol i ddatblygu trosiant yn y diwydiant bwyd a diod 30% erbyn 2020, fodd bynnag, byddai'r sefyllfa bosibl o weld y DU yn ymadael â'r UE heb fargen, a'r posibilrwydd o gyflwyno tariffau Sefydliad Masnach y Byd o dros 40% ar allforion cig coch, yn sefyllfa argyfyngus i'r sector pwysig hwn yng Nghymru.

Efallai y bydd aelodau yn cofio 12 mis yn ôl pan y bu imi weithredu'n gynnar i gefnogi ein sector cig coch yng ngwyneb trefniadau masnachu ansicr y dyfodol wedi Brexit, pan gyhoeddais fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £1.5 miliwn dros dair blynedd ar gyfer Hybu Cig Cymru, i ddarparu Rhaglen Datblygu Allforio Gwell i gefnogi'r diwydiant cig coch yng Nghymru.

Ers y dechrau, mae'r rhaglen wedi galluogi HCC i gefnogi'r diwydiant i sefydlu rhwydwaith o gynrychiolwyr mewn marchnadoedd allweddol, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sgandinafia a Benelux, gan ddarparu gweithgareddau allweddol gan gynnwys cymorth masnach, marchnata yn canolbwyntio ar y cwsmer, gweithgareddau wrth werthu ac o fewn siopau, marchnata digidol a mewnfuddsoddi. Mae'r rhaglen yn llwyddiannus wrth helpu i gynnal y prif farchnadoedd yn Ewrop, yn ogystal â datblygu mynediad i'r farchnad ymhellach i ffwrdd, ac mae eisoes wedi bod yn bwysig yn y broses o sicrhau busnes newydd yng Ngwlad Belg, Portiwgal, Singapôr a Qatar.

Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i'r diwydiant cig coch ac ni fu erioed mor bwysig inni godi proffil Cymru yn rhyngwladol a mynd ati’n egnïol i hyrwyddo’n cynhyrchion bwyd a diod rhagorol i’r byd. Rwyf wedi arwain nifer o ddirprwyaethau busnes tramor ar gyfer y prif farchnadoedd hyn, yn fwyaf diweddar i arddangosfa fasnach SIAL ym Mharis y mis diwethaf, ble y gwelais drosof fy hun ymrwymiad a brwdfrydedd ein diwydiant, yn chwifio baner Cymru ac yn arddangos ein bwyd a'n diod o safon i gynulleidfa ryngwladol.

Ni fydd Brexit yn newid ein hymrwymiad a'n penderfyniad i ddatblygu a chynnal y cysylltiadau masnach pwysig hynny, a bydd ein rhaglenni, gan gynnwys Rhaglen Datblygu Allforio Gwell, yn parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr a'n proseswyr i ddatblygu marchnadoedd allforio a mynediad i'r farchnad ymhellach, i gryfhau a sicrhau bod ein diwydiant yn barod at y dyfodol ac yn bodloni'r heriau a'r cyfleoedd yn y blynyddoedd a ddaw.