Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n croesawu cyhoeddi'r ystadegau swyddogol cyntaf mewn perthynas â Rhaglen Plant Iach Cymru, sef rhaglen iechyd gyffredinol ar gyfer pob teulu sydd â phlant 0-7 oed.

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi'r cysylltiad y gall plant a'u teuluoedd ddisgwyl ei gael gyda'u byrddau iechyd, rhwng cael eu trosglwyddo o'r gwasanaeth mamolaeth a'u blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Mae'r cysylltiadau cyffredinol hyn yn canolbwyntio ar dair prif thema: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plentyn.

Mae'r ystadegau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2016 a mis Mehefin 2018, yn dangos y gwerth sy'n cael ei roi ar gael cyfres o gysylltiadau cyson ar gyfer pob plentyn ar draws Cymru, gan eu bod yn dangos cynnydd cyson yn gyffredinol yng nghanran y plant sy'n cael cysylltiadau ym mhob pwynt cyswllt ers dechrau'r rhaglen yn 2016. Bydd y cyswllt mynych hwn gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn yr amrywiol bwyntiau cyswllt yn helpu i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Gellir gweld yr ystadegau'n llawn ar dudalen Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru.

https://gov.wales/statistics-and-research/healthy-child-wales-programme/?skip=1&lang=cy