Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r fframwaith cyllidol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi trefniadau ar waith i lunio rhagolygon annibynnol ar gyfer refeniw trethi datganoledig. Tra bo'r trefniadau hyn yn cael eu sefydlu, ceir proses dros dro o graffu a sicrwydd ar gyfer rhagolygon refeniw trethi Llywodraeth Cymru.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 9 Mawrth 2017, dywedais wrth Aelodau'r Cynulliad fod ymarfer caffael cystadleuol wedi’i gynnal a bod tîm o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wedi’i benodi i wneud gwaith craffu a sicrwydd ar ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer refeniw trethi datganoledig, cyn eu cynnwys yng Nghyllideb 2018-19. Mae'r tîm o'r Ysgol Fusnes wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Trysorlys Cymru i ddatblygu a mireinio'r fethodoleg a ddefnyddir i lunio rhagolygon refeniw trethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft.

Bydd yr adroddiad annibynnol terfynol, sy'n crynhoi'r gwaith a wnaed, ynghyd ag asesiad cyffredinol o ragolygon Llywodraeth Cymru, yn cael ei gyhoeddi i gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt bwyso a mesur y gyllideb ddrafft.

Rwyf wedi bod yn ystyried yr opsiynau ar gyfer y dyfodol o ran yr angen i gael corff sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru i lunio rhagolygon ar gyfer refeniw trethi sydd wedi’u datganoli, neu wedi’u datganoli'n rhannol, i Gymru. Mae'n bwysig bod yr adnoddau a gaiff eu neilltuo ar gyfer y swyddogaeth newydd hon yn gymesur â'r dasg a'u bod yn adlewyrchu ystod y trethi sydd o dan reolaeth Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd.

Wrth asesu'r opsiynau, rwyf wedi gosod y meini prawf canlynol:

• Mae'n hanfodol bod y swyddogaeth yn cael ei gweithredu mewn ffordd sy’n ddigon annibynnol ar y Llywodraeth;
• Dylai’r broses o gyflawni’r swyddogaeth adlewyrchu gwerth am arian;  
• Dylai'r corff a benodir i gyflawni’r swyddogaeth allu dangos bod ganddo’r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni ei fandad;

Roeddwn am roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad bod y mater wedi’i ystyried ac mai dau opsiwn ymarferol sydd bellach. Byddai’r cyntaf yn golygu sefydlu comisiwn annibynnol yng Nghymru i lunio rhagolygon ar gyfer refeniw trethi datganoledig; byddai’r ail yn golygu defnyddio corff sy'n bodoli eisoes i gyflawni'r swyddogaeth hon. O ran yr ail opsiwn, rwyf wrthi'n trafod gyda Llywodraeth y DU y posibilrwydd y gallai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wneud y gwaith hwn.  

Byddaf y diweddaru Aelodau'r Cynulliad ynghylch yr opsiwn sydd orau gennyf yn yr hydref, ochr yn ochr â chyhoeddi'r gyllideb ddrafft.