Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021





Rydym yn gwbl ymrwymedig o hyd i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu dyfodol gweithfeydd Tata yng Nghymru, gan weithio’n glos â’r Undebau Llafur a Tata Steel.  Er bod yr amodau masnachu economaidd yn dal yn anodd a bod problemau ar lefel y DU y mae angen eu datrys, yn enwedig o ran prisiau ynni, rwy’n falch bod gweithlu Tata Steel wedi cael llawer o newyddion calonogol yr wythnos hon

Mae’n hymdrechion i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer dur, gan gynnwys cadw cynhyrchiant a swyddi yng Nghymru, wedi mynd â llawer iawn o’n hamser ers i Tata Steel gyhoeddi’r bwriad i werthu ei safleoedd yn y DU.  Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino â’r cwmni ar bob lefel i weld pa becynnau cymorth allai helpu i roi’r cynllun gweddnewid hwn, ynghyd â’r buddsoddiadau eraill, ar waith

Rhaid wrth arloesedd a’r safonau amgylcheddol uchaf os ydym am weld y diwydiant dur yng Nghymru yn cystadlu â’r byd ac yn sicrhau dyfodol tymor hir iddo yma.  Mae Tata felly wedi cytuno i wneud y De yn un o’i ddau brif safle Ymchwil a Datblygu yn y DU.  Bydd yn ymchwilio hefyd i’r posibilrwydd o ddatblygu cynnyrch newydd ym Mhorth Talbot. Bydd hynny’n cryfhau safle canolog ac allweddol Cymru yn niwydiant dur y DU.

Er bod y cytundeb ddoe rhwng Tata Steel a’r Undebau Llafur yn gam pwysig ymlaen i ddiogelu dyfodol tymor hir gweithfeydd Tata yng Nghymru, bydd y pecyn hwn yn helpu i roi gwaith Tata ar sylfeini mwy cynaliadwy.

Heddiw, gallaf gyhoeddi’r cam nesaf mewn cyfres o fuddsoddiadau mawr sy’n rhan o raglen o gymorth i ddiogelu dyfodol tymor hir gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru.  Bydd y cam hwn yn cynnwys £8m at fuddsoddiad o £18m yn y pwerdy i ostwng costau ynni a lleihau allyriadau carbon ym Mhorth Talbot, ynghyd â mewn canolfan ymchwil a datblygu newydd yn Abertawe.  Ynghlwm wrth yr help hwn bydd amod cyfreithiol i ddiogelu swyddi a buddsoddiad mewn gweithfeydd yng Nghymru, waeth pwy fydd yn berchen arnyn nhw yn y dyfodol.

Dywedais wrth Aelodau ddoe ein bod wedi cytuno â Tata Steel i fuddsoddi £4m mewn sgiliau yn holl weithfeydd Tata yng Nghymru.  Dywedais hefyd am y newyddion da fod Tata Steel wedi dod i gytundeb gyda’r Undebau Llafur.