Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnes gwrdd yn ddiweddar â Chadeirydd, cynrychiolwyr o'r Bwrdd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy (MBS), ynghyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chynrychiolwyr o Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL) i dderbyn y newyddion diweddaraf am hynt y gwaith o geisio sefydlu Banc Cymunedol yng Nghymru.

Yn y cyfarfod cawsom wybod gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fod ffactorau fel cyfraddau llog sy’n cynyddu, crebachu o fewn y farchnad morgeisi, y gostyngiad ym mhrisiau tai a’r argyfwng costau byw yn cael effaith anochel ar y gwaith parhaus i sefydlu Banc Cymunedol, ynghyd â’r dirwasgiad a ragwelir gan Fanc Lloegr.

Mae'r Prif Weithredwr wedi cadarnhau bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy (MBS) yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'w rhaglen waith i ddatblygu a chyflwyno Banc Cymunedol. Fodd bynnag, yn sgil yr amodau economaidd sy'n bodoli, nid yw’r Gymdeithas Adeiladu yn bwriadu rhoi hyn ar waith yn 2023. Bydd y gwaith allweddol i sicrhau bod modd cyflawni Banc Cymunedol yn parhau a bydd y Gymdeithas Adeiladu yn rhoi’r newyddion diweddaraf i mi am hynt y gwaith cyn yr haf.

Rwy'n cydnabod bod Banc Cymunedol yn fenter fasnachol ar ran Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ac nad ydynt wedi derbyn unrhyw arian cyhoeddus i wneud hyn. Maent wedi datblygu'r weledigaeth ar sail gwaith a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Cyf, ac wedi ymrwymo i gyflwyno banc cymunedol sy'n llwyddiannus, yn gynaliadwy, ac a fydd â phresenoldeb ar y stryd fawr ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi'r gwaith o ddarparu Banc Cymunedol. 

Rydw i, ynghyd â nifer o bobl eraill, yn awyddus i weld yr uchelgais yma'n cael ei wireddu cyn gynted â phosib. Er ei bod yn siomedig bod yr amodau economaidd yn effeithio ar gynlluniau, ein nod yn y pen draw yw darparu Banc Cymunedol sy'n cefnogi newid strategol yn y farchnad a'r dewisiadau sydd ar gael i gwsmeriaid. O ystyried y dadfuddsoddi gan y corfforaethau mawr, byddwn yn parhau i hyrwyddo model bancio newydd yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar werth ar gyfer ein cymunedau ac o’u mewn. Mae gan wledydd eraill strwythurau bancio rhanbarthol a chymunedol sy'n gwbl wahanol i’n strwythur ni sy’n ddibynnol iawn ar randdeiliaid yn y DU.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddod â ni i fan hon, lle mae gennym gynlluniau go iawn gan sefydliad masnachol credadwy y mae ei weledigaeth a'i ddyheadau'n cyd-fynd â'n rhai ni.

Mae Cymru yn parhau i arwain ac rydym yn cydnabod bod yn rhaid i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, fel partner masnachol, addasu a chynllunio yn unol â hynny. Gwneud pethau'n iawn fel y gall Banc Cymunedol gyflawni'n llwyddiannus ar gyfer y tymor hir yw'r wobr go iawn. 

Byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau cyn yr haf. Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Banc Cymunedol gwefan Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.