Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn falch o’i threftadaeth gweithgynhyrchu a heddiw mae tua 150,000 o bobl yn gweithio yn y sector sy’n cyfrannu dros 16% at ein hallbwn cenedlaethol, sy’n uwch nag un sector arall ac yn arbennig yn uwch na chyfartaledd y DU.

Mae’n hanfodol ein bod yn dod â rhanddeiliaid ynghyd mewn ffordd gyson a chyfannol i ddiogelu’r gallu sydd eisoes gennym at y dyfodol, i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol ac i ymateb i rai o’n heriau hirdymor mwyaf. I’r perwyl hwnnw, yn dilyn ymgynghoriad eang ym mis Chwefror 2021, lansiom ein Cynllun Gweithredu ar Weithgynhyrchu: Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru - Fframwaith Gweithredu.

Ers ei lansio, mae wedi helpu i fframio ein gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant sy’n cynnwys yn bennaf sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru, sy’n seiliedig ar ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net. Rydym hefyd wedi gweld ein Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) yn ffynnu ac mae gweithgareddau megis ein rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota a WRAP Cymru yn helpu busnesau i gynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff drwy ymgorffori egwyddorion darbodus ac egwyddorion yr economi gylchol.

Yn ystod yr un cyfnod, mae'r sector wedi wynebu heriau mawr: cystadleuaeth fyd-eang, datblygiadau aruthrol yn y byd technoleg, Brexit a threfniadau masnachu newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID-19, yr argyfwng hinsawdd, costau ynni sy’n cynyddu’n ddiddiwedd, y tarfu ar gadwyni cyflenwi byd-eang, prinder deunydd crai, y cynnydd mewn prisiau a phroblemau difrifol o ran llafur. Dyma’r ‘storm berffaith' yn ôl rhai. 

Er bod sawl her, mae yna gyfleoedd hefyd. Gall y ffordd rydyn ni'n ymateb roi mantais gystadleuol go iawn i Gymru. Dyna pam roedd hi'n iawn inni adolygu’r Cynllun.

Rwyf bellach yn falch o gyhoeddi fersiwn wedi'i ddiweddaru o'n Cynllun Gweithgynhyrchu heddiw, sydd wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad ac arbenigedd cyrff blaenllaw sy'n cynrychioli'r diwydiant yng Nghymru a’r DU, sef Make UK a Diwydiant Cymru, yn ogystal â'n hundebau llafur a’n partneriaid cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am eu cyfraniadau.

Mae’r cynllun newydd yn nodi ein chwe Amcan Strategol sy’n disgrifio sut y byddwn yn mynd at i wireddu’r weledigaeth hon yn y tymor hir:

  1. Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy ddatgarboneiddio'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, sy’n seiliedig ar fethodoleg yr Economi Gylchol.
  2. Datblygu'r amodau i angori cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yng Nghymru gan gynnwys darparu seilwaith modern a chadwyni cyflenwi cadarn. 
  3. Canfod a datblygu'r sgiliau arwain angenrheidiol a’r sgiliau sydd eu hangen ymhlith y gweithlu i gyflawni 'Cymru 4.0'.
  4. Cryfhau cydweithio rhwng rhanddeiliaid i groesawu newidiadau technolegol a sicrhau mwy o arloesedd masnachol yn ddi-oed.
  5. Ymgorffori egwyddorion cyflogaeth 'Gwaith Teg' yng Nghymru, gan hyrwyddo cynwysoldeb, diogelwch, a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.
  6. Sicrhau cymorth busnes er mwyn helpu gweithgynhyrchwyr o Gymru i ateb i’r galw yn y dyfodol am gynnyrch o bwys strategol.

Mae ein dull gweithredu yn cydnabod rôl hanfodol y sector gweithgynhyrchu i gyflawni llawer o'r dyheadau sydd gennym ar gyfer Cymru fel cenedl. Bydd y chwe Amcan Strategol yn y Cynllun yn rhoi sail gyson ar gyfer deialog barhaus â'r diwydiant, rhanddeiliaid a'n partneriaid cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd yn canolbwyntio ar weithgareddau gweithgynhyrchu 'uchel eu gwerth' sy'n cael effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gadarnhaol ar lesiant dinasyddion Cymru.