Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y ddadl ar 26 Chwefror am y sail resymegol dros sefydlu cynllun cenedlaethol ar gyfer Gwobrau Dewi Sant, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau.

Bydd Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad eithriadol pobl Cymru.  
Nid ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer pobl sy'n cyflawni fel rhan o'u gwaith beunyddiol, ond byddant yn anrhydeddu pobl sydd wedi gwneud pethau mawr ac sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i ansawdd bywyd yng Nghymru. Nod y Gwobrau yw adlewyrchu dyheadau Cymru a’i dinasyddion fel gwlad fodern a bywiog, a’r ased mwyaf sydd gan Gymru, sef ei phobl.

Cynhelir seremoni gyntaf Gwobrau Dewi Sant mewn cinio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, fin nos 13 Mawrth 2014. 

Mae naw o gategorïau Gwobrau Dewi Sant wedi’u pennu ar gyfer y meysydd canlynol:

  1. Dewrder  
  2. Dinasyddiaeth  
  3. Diwylliant
  4. Menter
  5. Arloesi a Thechnoleg 
  6. Chwaraeon
  7. Rhyngwladol  
  8. Person Ifanc

Y nawfed wobr fydd Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru a gaiff ei chyflwyno i berson neu dîm eithriadol. Rhoddir y wobr hon y tu allan i gylch gwaith yr enwebiad a phroses y paneli dyfarnu, a fi fydd yn penderfynu ar y wobr honno.

Bydd y cyfnod enwebu’n agor ddydd Mawrth 10 Medi 2013. Ar y dyddiad hwnnw bydd cynllun Tlws Gwobrau Dewi Sant yn cael ei ddatgelu mewn prototeip a chyhoeddir enw’r artist sy’n cael ei gomisiynu. Bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gael gweld y Tlws, ynghyd â deunyddiau esboniadol cysylltiedig, pan gaiff ei arddangos ym mhrif adeiladau’r Llywodraeth ac mewn sefydliadau cenedlaethol ar draws y wlad yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Seremoni Wobrwyo ym mis Mawrth 2014. Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013 fydd dyddiad cau'r cyfnod enwebu.

Mae’r Arglwydd David Rowe-Beddoe yn garedig iawn wedi cytuno i fod yn Gadeirydd a fydd yn cadeirio holl gyfarfodydd y paneli dyfarnu, a fydd yn cyfarfod ar ôl i’r cyfnod enwebu gau er mwyn llunio rhestr fer o’r rhai fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a dewis enillwyr ymhob un o’r categorïau.

Yn ystod yr haf, bydd gwybodaeth a gweithgareddau i roi cyhoeddusrwydd i’r Gwobrau yn dechrau o ddifrif yn Sioe Frenhinol Cymru ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Bydd yr holl ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â’r Gwobrau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae blwch e-bost canolog ar gael ar gyfer ymholiadau ac enwebiadau gan y cyhoedd yn gwobraudewisant@cymru.gsi.gov.uk  
neu stdavidawards@wales.gsi.gov.uk.