Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ychydig dros naw mis wedi bod ers imi osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig oherwydd pryderon difrifol am effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethu, diogelwch cleifion, perfformiad gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r trydydd adroddiad cynnydd, sy'n cynnwys y gwaith sydd wedi'i gynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd. Mae'r tri mis hyn wedi bod yn heriol, ac er bod arwyddion gwirioneddol o newid cadarnhaol, mae llawer o waith i'w wneud o hyd.

Rwy'n parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd ac uwch dîm y bwrdd iechyd, ac yn ystod y cyfnod hwn o dri mis, rwyf wedi ymweld â nifer o safleoedd y bwrdd iechyd gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Alexandra, Ysbyty Abergele, Ysbyty Dolgellau a'r Bermo, a chanolfan feddygol gofal sylfaenol a fferyllfa yn y Rhyl. Ym mis Medi, cafodd y Prif Weinidog gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn y Gogledd.

Hoffwn ddiolch i'r holl staff yn y bwrdd iechyd sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth i ofal iechyd yn y Gogledd. Hoffwn hefyd dynnu sylw at rai o'r pethau cadarnhaol rwyf wedi'u gweld yn ystod y cyfnod hwn o dri mis, gan gynnwys:

  • Penodi Carol Shillabeer yn brif weithredwr parhaol a Gareth Williams yn is-gadeirydd yn ogystal â phenodi dau Aelod Annibynnol newydd.
  • Mae pobl sydd â chanser y coluddyn yn y Gogledd yn elwa ar adferiad cyflymach yn dilyn llawdriniaeth a hynny yn dilyn cyflwyno technoleg robotig. Mae llawfeddygon cyffredinol yn defnyddio system robotig lawfeddygol Versius yn Ysbyty Gwynedd ar gyfer cleifion cymwys sydd â chanser y coluddyn.  
  • Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio gweithdrefn newydd sef laser arloesol i dynnu tiwmorau o’r bledren neu ardaloedd amheus. Mae’r weithdrefn yn defnyddio Abladiad Laser Trawswrethrol (TULA), sef archwiliad o'r bledren gan ddefnyddio camera ar diwb hyblyg tenau sy'n defnyddio laser i drin y bledren. Bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiadau pobl.
  • Ers lansio'r gwasanaeth 111 Pwyso 2 ym mis Ionawr, mae'r bwrdd iechyd wedi cael dros 8,000 o alwadau gan bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys. Mae adborth wedi dangos bod 99.3% o alwyr wedi nodi gostyngiad yn eu sgoriau trallod ar ôl dod i gysylltiad ag ymarferwyr lles pwrpasol. Mae atgyfeiriadau i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi gostwng 8%.
  • Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cleifion sy'n aros yn hir yn ystod y cyfnod cleifion allanol a chyfnod triniaeth. Rhwng mis Chwefror a mis Medi, mae nifer y bobl sy'n aros dros 52 o wythnosau am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng 16.6%. Mae nifer y bobl sy'n aros dros 104 o wythnosau wedi gostwng 21.7% yn ystod yr un cyfnod. 
  • Mae'r ffocws ar ddileu arosiadau pedair awr o hyd wrth drosglwyddo o ambiwlans yn yr adrannau brys yn arwain at rai gwelliannau. Roedd 621 o achosion o oedi dros 4 awr wrth drosglwyddo o ambiwlans ym mis Hydref 2023 sy'n ostyngiad o 20% o gymharu â mis Hydref 2022 ac yn well o lawer na'r 1,042 a nodwyd ym mis Mawrth 2023.

Ym mis Medi, cytunais ar gyllid ychwanegol i helpu prosiect tele-dermosgopi y bwrdd iechyd, a'r mis diwethaf, cymeradwyais achos busnes ar gyfer canolfan orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno. Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi cael caniatâd cynllunion ar gyfer uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Er yn galonogol eu gweld, nid yw'r gwelliannau o ran perfformiad gweithredol ac ansawdd a diogelwch yn cael eu cyflawni mor gyflym na mor effeithiol â phosibl. Mae angen inni weld mwy o welliannau mewn perfformiad ac mae angen eu cynnal. 

Rwy'n parhau i fod yn bryderus am y canfyddiadau a amlygwyd gan Grwneriaid EF a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys methiannau o ran gweithredu'r broses gwyno yn brydlon, cynllunio a chymorth strategol annigonol neu aneffeithiol, amseroldeb ymchwiliadau'r bwrdd iechyd a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion papur ynghylch cleifion. Rwy'n disgwyl i welliannau brys gael eu gwneud yn y maes hwn.

Ynghyd â'r adroddiad cynnydd a gyhoeddir heddiw, rwyf hefyd yn rhannu ein disgwyliadau ar gyfer y tri mis nesaf. Rwyf wedi datgan yn glir wrth y bwrdd iechyd fod yn rhaid iddo ddechrau dangos canlyniadau gweladwy a gwelliant cynaliadwy. Byddaf yn rhannu adroddiad pellach ddiwedd mis Chwefror 2024, gan ystyried blwyddyn gyntaf y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig.