Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod y DU wedi ymadael â’r UE a bod ei haelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau wedi dod i ben, rhaid wrth seilwaith newydd sylweddol i gynnal y mesurau rheoli iechydol a ffytoiechydol sydd eu hangen i archwilio rhai nwyddau sy’n cyrraedd Cymru ar fferïau o ynys Iwerddon, hynny er lles ein bioddiogelwch a diogelwch ein bwyd.  Yr un pryd, rwyf am sicrhau bod y trefniadau newydd ar y ffiniau yn achosi cyn lleied o broblemau ac ansicrwydd i fusnesau a chymunedau lleol Cymru a defnyddwyr ein porthladdoedd â phosibl ac nad ydynt yn amharu ar ein cadwyn gyflenwi bwyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi etifeddu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu Safleoedd Rheoli Ffiniau (BCP) mewndirol pan na all porthladdoedd wneud hynny.

Mae’r Llywodraeth, o’r dechrau, wedi disgwyl i Lywodraeth y DU dalu am y cyfleusterau hyn gan eu bod nhw a’r seilwaith cysylltiedig yn bwysau newydd, a achoswyd gan Brexit.

Ers yr Adolygiad o Wariant, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno mewn egwyddor i ariannu cost adeiladu’r cyfleusterau parhaol a’r cyfleusterau dros dro o dderbyn hawliad sy’n seiliedig ar achosion busnes ar gyfer Gogledd a De-orllewin Cymru. Dim ond y costau hynny sy'n gwbl angenrheidiol hyd at a chan gynnwys 2024-25 fydd yn cael eu hystyried. Er bod Llywodraeth y DU wedi cytuno'n amodol i ariannu costau adeiladu'r BCPs, mae wedi dweud yn benodol na fydd yn talu costau eu gweithredu.

Mae Llywodraeth y DU yn cynllunio y caiff archwiliadau dogfennol, adnabod a ffisegol ar nwyddau eu cynnal ar safleoedd rheoli ar y ffin o fis Gorffennaf 2022, gydag archwiliadau o gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid yn cael eu cyflwyno fesul cam, gan ddechrau ym mis Gorffennaf ac yn gorffen erbyn mis Tachwedd 2022.  Disgwylir parhau i gynnal archwiliadau ar anifeiliaid byw ym mhen y daith nes bod digon o gyfleusterau o amgylch Prydain Fawr. 

Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi estyn y mesurau rheoli cymalog hyn ar yr holl nwyddau sy’n cael eu symud o ynys Iwerddon i Brydain Fawr tan ar ôl 1 Ionawr 2022. Mae hynny’n creu rhagor o ansicrwydd i'r Llywodraeth ac i eraill sy'n gorfod gwneud paratoadau.

Rydym eisoes wedi cadarnhau ymrwymiad i ddarparu trefniadau parhaol a dros dro yng Nghaergybi.  Disgwyliaf allu penodi contractwr ar gyfer safle Caergybi yn fuan, ond ni fydd y cyfleuster yn barod erbyn Gorffennaf 2022.

Felly, rwyf yn ystyried trefniadau dros dro ym mhorthladdoedd fferi Cymru i bontio'r bwlch rhwng mabwysiadu mesurau rheoli newydd ym mis Gorffennaf 2022 a sefydlu’r BCPs parhaol. Byddai hyn yn creu trefn 'gymysg' lle bydd lefel sylfaenol o archwiliadau’n cael eu cynnal yn y cyfleusterau dros dro gyda rhai nwyddau’n cael eu harchwilio hefyd ym mhen eu taith.

Rydym yn datblygu'r cynlluniau hyn gyda chymorth yr awdurdodau lleol, yr asiantaethau gorfodi perthnasol (gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Llu'r Ffiniau), yn ogystal â'r porthladdoedd.

O’i gwneud hi fel hyn, bydd nwyddau’n cael parhau i lifo drwy’r porthladdoedd fferi, ond bod archwiliadau’n cael eu cynnal i gyfyngu ar y risg i fioddiogelwch a diogelwch bwyd.  Ar ôl mis Gorffennaf 2022, gallwn ystyried y trefniadau ar gyfer Sir Benfro.