Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dymunaf roi’r diweddaraf i Aelodau am y trefniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2014-15.

Heddiw rwyf wedi gosod dau set o Reoliadau dwyieithog sy’n ymwneud â Chynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a fydd yn gymwys ym mlwyddyn ariannol 2014-15 a thu hwnt, sef:

  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013; a
  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru)  2013.

Bydd y Rheoliadau  hyn yn rheoli gweithrediad  Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2014-15 a thu hwnt, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Bydd un set o reoliadau yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyflwyno Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn eu hardaloedd a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2014. Bydd yn rhagnodi’r gofynion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynlluniau lleol a gyflwynir gan Awdurdodau Lleol unigol yng Nghymru ac yn pennu nifer o feysydd o ddisgresiwn yn lleol (‘y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig’); a
  • Bydd y set arall o Reoliadau yn rhagnodi’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ‘diofyn’ a fydd yn mewn grym os nad yw Awdurdodau Lleol wedi mabwysiadu eu Cynlluniau eu hunain erbyn 31 Ionawr 2014.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u seilio’n agos ar y Rheoliadau a gyflwynodd y Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru yn dilyn diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, ac sy’n gyfyngedig i 2013-14 yn rhinwedd cymal machlud. Maent yn cadw’r cynllun Fframwaith Cenedlaethol ac yn cadw’r hawliau ar gyfer hawlwyr cymwys ar eu lefelau presennol am flwyddyn arall. Dros yr haf, cynigais ein bod yn rhannu costau ariannu’r diffyg gyda Llywodraeth Leol fel ein bod yn cydweithio i amddiffyn ein cymunedau bregus rhag unrhyw leihad mewn cymorth o dan y Cynlluniau. Roedd y cynnig hwn yn adlewyrchu perchnogaeth ar y cyd o Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a ddatblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Leol, ac sy’n rhoi cymorth i ymgeiswyr  i ddiwallu eu hatebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor a bennwyd yn lleol.

Mae’r Setliad Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref, yn cynnwys ein cynlluniau ar gyfer ariannu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2014-15. Mae cyllid o £244m yn cael ei gynnwys o fewn y setliad ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cyfateb â’r lefel o gymorth a roddwyd yn 2013-14.  Disgwylir i Lywodraeth Leol dalu unrhyw gostau sydd dros ben o’r diffyg cyllid, gan fod cynnydd yng nghostau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn gysylltiedig â phenderfyniadau lleol ynghylch cynnydd mewn treth gyngor.

Wrth wneud y Rheoliadau hyn, rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i:

  • Ymgorffori gwelliannau gofynnol ar gyfer rhai newidiadau Diwygio Lles, fel  Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog;
  • Symleiddio'r broses ymhellach i hawlwyr, a lle bo'n bosibl, lleihau costau gweinyddu; ac
  • Ystyried unrhyw addasiadau ymarferol y mae eu hangen ar sail ein profiad o fisoedd cyntaf y Cynlluniau.

Felly, maent wedi eu drafftio drwy gydweithio’n agos ag ymarferwyr Llywodraeth Leol a Chanolfannau Cyngor ar Bopeth, gan gynnwys ymgynghoriad technegol manwl. Rydyn ni wedi rhoi crynodeb technegol i lefarwyr ar ran y gwrthbleidiau, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  a’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Fel y nodais yn fy Natganiad ar 16 Awst, gallaf gadarnhau bellach y bydd hefyd angen rhaid gwneud set o Reoliadau uwchraddio technegol ar wahân, a hynny ar ôl i’r prif Reoliadau gael eu gwneud.  Mae hyn yn ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref gan y Canghellor a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 4 Rhagfyr 2013, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo’r uwchraddio. Mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod hawl yr hawlwyr i gymorth yn cyd-fynd â chynnydd mewn costau byw. Heb hyn byddai hawlwyr mewn gwaeth sefyllfa.  Mae hon yn broses reolaidd sy’n cael ei chyflawni’n flynyddol ar gyfer nifer o setiau eraill o Reoliadau.

Hefyd, mae angen mân welliannau i ddiweddaru cyfeiriadau penodol at  y Rheoliadau a gyflwynwyd ar gyfer 2013-14 mewn rhai o’r Rheoliadau technegol. Mae angen hyn mewn perthynas â thwyll er enghraifft, er mwyn i’r Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor weithredu’n effeithiol. Roedd fy Natganiad blaenorol hefyd yn nodi’r amserlen ar gyfer y setiau eraill hyn o reoliadau. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Atodiad i’r Datganiad hwn.

Yn dilyn cychwyn Cynllun Braenaru y Credyd Cynhwysol ar 29 Ebrill, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau bellach yn cynllunio chwe ardal i gyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn raddol. Un o’r safleoedd hyn fydd Canolfan Waith Shotton yn Sir y Fflint, lle disgwylir cychwyn cymryd hawliadau’r Credyd Cynhwysol o 24 Mawrth 2014.  Mae’r Rheoliadau’n cynnwys darpariaeth gyfer y Credyd Cynhwysol sydd wedi’u drafftio ar ôl trafodaeth fanwl gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau. Fel yn achos y Cynllun Braenaru, disgwylir y bydd ardaloedd lle cyflwynir y Credyd Cynhwysol yn raddol yn dechrau cymryd hawliadau gan ymgeiswyr unigol heb unrhyw ddibynyddion. Fodd bynnag, os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn addasu’r rhagdybiaethau cynllunio hyn, efallai y bydd angen gwelliannau pellach i’r Rheoliadau. Byddwn yn parhau i adolygu’r trefniadau hyn, ac unrhyw oblygiadau, gan ddisgwyl cadarnhad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o’i hamserlen ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn 2013 a thu hwnt. Byddwn yn parhau i hysbysu’r Aelodau am hyn.

Ynghyd â’r gwaith i bennu trefniadau ar gyfer 2014-15, mae hefyd yn hanfodol bod gennym ffordd o ddarparu cymorth y Dreth Gyngor yn yr hirdymor yng Nghymru. Rwyf felly wedi comisiynu adolygiad i edrych ar yr opsiynau. Rwyf am ddod o hyd i ffordd gynaliadwy a theg o roi cymorth yn yr hirdymor gyda’r cyllid sydd ar gael. Caiff y model cymorth newydd hwn ei roi ar waith o 2015-16.

Bydd yr adolygiad yn asesu’r opsiynau posibl a’u heffaith ar gyllid cyhoeddus a gwasanaethau lleol, yn ogystal ag ymchwilio i’r goblygiadau i’r rheini sy’n cael cymorth y Dreth Gyngor ar hyn o bryd, a thalwyr eraill y Dreth Gyngor. Bydd yn cynnwys dadansoddiad o’r cynlluniau sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd ac effeithiau diwygio lles i nodi opsiynau ymarferol a modelu eu heffaith debygol. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen o swyddogion, cynrychiolwyr llywodraeth leol a staff Cyngor Ar Bopeth yn goruchwylio’r gwaith hwn.

Ein nod yn y pen draw yw pennu trefniadau, mewn partneriaeth a chydweithrediad â llywodraeth leol, sy’n gynaliadwy ac yn deg i dderbynwyr. Fodd bynnag, yng nghyd-destun yr amserlenni tynn, llai o arian a chyfyngiadau ariannol a deddfwriaethol sylweddol, ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff am yr heriau sydd ynghlwm â’r gwaith hwn, a’r penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud. Byddaf yn parhau i hysbysu’r Aelodau am y gwaith hirdymor hwn wrth iddo fynd yn ei flaen.