Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf allu rhannu cylch gwaith yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (yr Academi) â chi.  Yn ogystal â nodi blaenoriaethau ac amcanion strategol yr Academi mae'r llythyr cylch gwaith yn nodi'r gyllideb ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon yn ogystal â chyllideb ddangosol o £1 filiwn ar gyfer 2019-20.

Mae cysylltiad clir rhwng y blaenoriaethau strategol â Chenhadaeth Ein Cenedl ac maent fel a ganlyn:

• Datblygu'r Academi fel sefydliad strategol â diwylliant cadarnhaol a chynhwysol a threfniadau llywodraethu cadarn

• Cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ym mhob rhan o'r system addysg drwy sicrhau cydlyniad ac ansawdd ar gyfer yr amrywiaeth o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael yng Nghymru

• Gweithredu fel arweinydd agweddau: gan ddatblygu, cyfleu a gweithredu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn falch bod yr Academi wedi cwblhau recriwtio aelodau i'w Grŵp Rhanddeiliaid yn ddiweddar. Bydd y grŵp hwn, ochr yn ochr â Grŵp Rhanddeiliaid Undeb, yn cefnogi ac yn herio'r sefydliad, gan sicrhau bod lleisiau gweithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o'r sector yn rhan annatod o drefniadau llywodraethu'r Academi.

Mae'r llythyr cylch gwaith hwn wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru http://learning.gov.wales/resources/collections/national-academy-for-educational-leadership?lang=cy