Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod staff ystadau awdurdodau lleol a'r GIG wedi bod yn gweithio ar fyrder i gynnal asesiadau o'u portffolios eiddo i ganfod a oes unrhyw adeiladau'n cynnwys concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC). Mae'r Gweinidogion wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gwaith hwn.

Ysgogwyd y gwaith hwn gan yr asesiad risg newydd a gyhoeddwyd gan Adran Addysg Llywodraeth y DU ar drothwy'r flwyddyn ysgol newydd. Hyd yma, canfuwyd bod 174 o ysgolion yn Lloegr yn cynnwys RAAC.

Yr wythnos diwethaf, cadarnhawyd gennym bod yr wybodaeth ddiweddaraf wedi dod i law gan bob un o'r 22 awdurdod lleol ar ddiwedd cam cyntaf y broses o ganfod RAAC mewn adeiladau addysg. Hyd yma, canfuwyd RAAC mewn pedair ysgol - dwy ar Ynys Môn, un yng Nghonwy ac un yn Sir Ddinbych.

Ailagorodd Ysgol David Hughes, Porthaethwy i bob dysgwr ddydd Gwener diwethaf. Mae Ysgol Uwchradd Caergybi yn rhannol agored i ddysgwyr, gan roi gwersi wyneb yn wyneb i bedwar grŵp blwyddyn ysgol. Mae peirianwyr strwythurol wedi bod yn Ysgol Maes Owen, Bae Cinmel yr wythnos hon i gynnal archwiliad ac asesiad manwl o'r paneli RAAC. Gwnaed gwaith yn Ysgol Trefnant, Sir Ddinbych yr wythnos hon, a bydd yr ysgol yn ailagor ddydd Llun.

Hoffem gofnodi ein diolch i staff ysgolion ac awdurdodau lleol am eu holl waith caled dros yr wythnosau diwethaf.

Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill asesu'r ystad gyhoeddus ehangach ar gyfer presenoldeb RAAC. Rydym hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol sydd â stoc dai am bresenoldeb RAAC mewn tai cymdeithasol. Gofynnwyd i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wneud asesiad o'u stoc drwy Cartrefi Cymunedol Cymru.

Mae hon yn fenter fawr a chymhleth sydd o bosibl yn cynnwys miloedd o adeiladau ledled Cymru.

Mae Ystadau Cymru, sy'n annog rhagoriaeth yn rheolaeth ystad sector cyhoeddus Cymru drwy ganllawiau arfer da a chydweithredu strategol, wedi cyhoeddi arolwg newydd i ganfod RAAC mewn adeiladau cyhoeddus yn dilyn yr wybodaeth newydd am RAAC yn ystad ysgolion Lloegr.

Rydym yn edrych yn fanwl ar ffurflenni'r cam cyntaf wrth iddynt ddod i law. Mae awdurdodau lleol, yn ddealladwy, wedi blaenoriaethu ysgolion a thai ac maent yn edrych ar y mater mewn ffordd gymesur a gofalus.

Wrth i ni barhau i adeiladu darlun llawnach o bresenoldeb RAAC ar draws yr ystad gyhoeddus ehangach, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.