Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Diwygiadau i Ailgylchu mewn Gweithleoedd, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn yr un modd ag y mae mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Mae’r cam gweithredu hwn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, ac yn cynrychioli cynnydd sylweddol tuag at greu economi gryfach a gwyrddach fel y gwnaethom ymrwymo i’w wneud yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Roedd fy natganiad blaenorol ar reoliadau ailgylchu i weithleoedd ar 27 Ebrill 2023, yn cyd-fynd â chyhoeddi crynodebau o’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023 ar y Cod Ymarfer drafft, a’r dull gweithredu arfaethedig o safbwynt gorfodi a sancsiynau.

Wedi ystyried yn ofalus yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad, rwyf nawr yn amlinellu dull gweithredu arfaethedig y Llywodraeth i’r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt fel a ganlyn:

  • Cyflwyno’n raddol mewn ysbytai: byddwn yn symud ymlaen â’r cynnig i ysbytai ddod yn gymwys ar gyfer y gofynion gwahanu ddwy flynedd ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym. Bydd y gwaharddiad ar anfon gwastraff bwyd i garthffos yn berthnasol i ysbytai yn syth;
  • Cyflwyno’r gofyniad i wahanu’r holl gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach yn raddol: byddwn yn symud ymlaen â’r cynnig i gyflwyno’r gofyniad i wahanu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu i ddechrau, ac fel yr ymgynghorwyd arno rydym yn bwriadu cyflwyno gofyniad i wahanu’r holl gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach oddi wrth eiddo annomestig hyd at ddwy flynedd ar ôl y dyddiad dod i rym;
  • Cyflwyno’r gofyniad i wahanu tecstilau yn raddol: byddwn yn symud ymlaen â’r cynnig i’w gwneud yn ofynnol i wahanu tecstilau heb eu gwerthu i ddechrau, ac fel yr ymgynghorwyd arno rydym yn bwriadu cyflwyno gofyniad i wahanu’r holl decstilau oddi wrth eiddo annomestig hyd at dair blynedd ar ôl y dyddiad dod i rym;
  • Trin cartonau: byddwn hefyd yn symud ymlaen â’r cynnig i roi cartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg i gartonau yn yr un ffrwd â metel a phlastig.

Bydd y cynnig i gyflwyno’r gofyniad i wahanu’r holl gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a thecstilau hyd at ddwy a thair blynedd yn ddiweddarach yn cael eu cyflwyno drwy reoliadau newydd yn y dyfodol.

Yn sgil yr adborth a ddarparwyd i’r ymgynghoriad ynghylch yr amheuon a ellid cyrraedd neu fesur y trothwy ar gyfer gosod hysbysiad stop o ‘beri risg sylweddol i achosi niwed i’r amgylchedd’, gallaf gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw peidio symud ymlaen â’r cynnig i alluogi’r rheoleiddiwr i osod hysbysiadau stop mewn perthynas â’r rheoliadau.

Bydd y rheoliadau ailgylchu i weithleoedd yn adeiladu ar ein diwygiadau llwyddiannus i ailgylchu mewn cartrefi, lle mae ein cyfraddau uchel o ailgylchu yng Nghymru eisoes yn arbed tua 400,000 tunnell o garbon bob blwyddyn, ac yn rhoi deunyddiau pwysig yn ôl i mewn i’r economi. Wrth gyflwyno’r dull gweithredu’n raddol i’n gweithleoedd, byddwn yn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur, a hefyd yn darparu buddiannau pwysig i’r economi, drwy ddal cyflenwad cryf o ddeunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.