Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf am roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am ein cynlluniau i ddefnyddio dull newydd o ymgysylltu a datblygu ieuenctid yng Nghymru yn ddiweddarach eleni.  

Bydd yr aelodau’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid ym mis Ionawr 2011.  Ers y dyddiad hwnnw mae’r ymrwymiad i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) wedi’i gadarnhau eto yn y Rhaglen Lywodraethu.  Mae fy mhenderfyniad i barhau i ddatblygu y maes hwn yn parhau yr un mor gadarn.  

Bu llawer o waith ar lefel Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol dros y blynyddoedd diwethaf i weithredu’r camau a bennwyd yn y cynllun.  Heddiw rydym yn cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd yn erbyn pob un o’r 18 cam (gweler Atodiad A).  Mae rhai o’r camau wedi’u cwblhau bellach, a bu cynnydd sylweddol yn erbyn nifer o’r lleill, ac mewn sawl achos mae angen rhagor o gynnydd gan bod rhai o’r camau i’w cwblhau erbyn 2015.  

Rwy’n falch iawn o nodi y bu rhywfaint o gynnydd yn ein hymgyrch i weld lleihad yn nifer y bobl ifanc NEET. Mae rhai Awdurdodau Lleol, yn enwedig mewn achosion ble y maent wedi gwneud gostwng y NEET yn flaenoriaeth ledled yr ardal, a ble y mae arweiniad amlwg wedi’i roi gan y Prif Weithredwr a’r staff uwch, wedi llwyddo i weld gwelliant nodedig.  Mae data gan Gyrfa Cymru am gyrchfannau pobl ifanc yn 16 yn dangos, ar y cyfan, y bu cynnydd o 2.5% yn nifer y bobl ifanc oedd â chyrchfan bositif wedi Blwyddyn 11.

Er hynny, mae ystadegau NEET wedi parhau yn ystyfnig o uchel am gyfnod rhy hir, o gymharu â gwledydd eraill y DU, ac mae angen dull newydd o weithredu strategaeth ymgysylltu a datblygu effeithiol ar draws y 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  

Pan ymddangosais o flaen y Pwyllgor Menter a Busnes ym mis Mai y llynedd, ymrwymais i adolygu’r Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid ac os oes angen, ei ddiweddaru a’i ddiwygio, ac i ystyried yr hinsawdd economaidd newidiol a blaenoriaethau o fewn y Rhaglen Lywodraethu. 

O gofio’r heriau economaidd parhaus yr ydym yn eu hwyneb fel gwlad, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd gorau posib ar gael i wneud y gorau o’r cynllun ymgysylltu a datblygu ieuenctid.  Mae angen inni adeiladu ar arfer da a dysgu ohono ac mae llawer i’w gweld yng Nghymru a thu hwnt a gallai hyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.  Mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos ag wyth Awdurdod Lleol  a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu a phrofi dulliau mwy effeithiol o sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu mewn addysg a hyfforddiant ac yn gwneud cynnydd da tuag at addysg bellach neu uwch a chyflogaeth gynaliadwy. 

Dyma hefyd pam yr wyf wedi penderfynu mai’r flwyddyn hon yw’r amser gorau i symud o’r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Ieuenctid 18 pwynt presennol i Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid sydd wedi’i ddatblygu ar sail yr arfer da a nodwyd gan yr Awdurdodau Lleol eu hunain.

Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid newydd yn cael ei ddatblygu i gyd-fynd ag anghenion pobl ifanc, gan gryfhau atebolrwydd y gwahanol asiantaethau yn y system ar gyfer cael canlyniadau gwell i bobl ifanc. 

Mae ein dull o weithio yn seiliedig ar chwe elfen allweddol:  

  • Nodi’r bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio  
  • Broceriaeth a chydlynu’r cymorth ar eu cyfer yn well
  • Tracio a symud pobl ifanc drwy’r system yn fwy effeithiol  
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc 
  • Cryfhau sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd am waith  
  • Ac yn olaf – rhagor o atebolrwydd i Awdurdodau Lleol   

Mae rhagor o waith i’w wneud dros y misoedd nesaf i ddatblygu’r Fframwaith.  Pan fydd y Fframwaith yn barod i’w gweithredu, rwy’n bwriadu cyhoeddi diweddariad terfynol o’r cynnydd yn erbyn y camau sydd wedi’u pennu yn y Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid cyn i’r Fframwaith chwe rhan newydd ddechrau.  

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar ddechrau mis Mawrth a byddaf wrth gwrs yn hysbysu’r aelodau o’r datblygiadau.