Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Hydref, rydym yn nodi Diwrnod Adfywio'r Galon. Bydd Achub Bywydau Cymru a’i bartneriaid yn ein hannog i ddysgu mwy am adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a’r defnydd o ddiffibrilwyr.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud i roi’r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar waith, ac hefyd ar waith Achub Bywydau Cymru.

Cafodd y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ei lansio yn 2017, ac rydym wedi rhoi £586,000 i sefydlu’r bartneriaeth Achub Bywydau Cymru. Cafodd y cynllun ei ddatblygu mewn partneriaeth â Rhwydwaith y Galon Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r trydydd sector i geisio sicrhau bod mwy yn goroesi ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru.

Mae Achub Bywydau Cymru yn bartneriaeth werthfawr sy’n dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i helpu i ddatblygu sgiliau y cyhoedd i wneud CPR a defnyddio diffibrilwyr, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus eu bod yn gallu helpu os ydynt yn gweld rhywun yn cael ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Cyhoeddais £2.5m ar gyfer y rhaglen hon eleni.

Ar y cyfan, mae agwedd y cyhoedd tuag at CPR a diffibrilwyr yn gadarnhaol, ac mae pobl yn awyddus i wneud hyfforddiant CPR a sut i ddefnyddio ddiffibrilwyr. Mae partneriaid Achub Bywydau Cymru wedi parhau i gynnig hyfforddiant drwy gydol y pandemig.

Cafodd yr ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd ei lansio ym mis Mai, er mwyn annog pawb yng Nghymru i ddysgu sgiliau CPR. Gwyliwch y fideo hwn, oherwydd gallai helpu i achub bywyd rhywun.

Mae Achub Bywydau Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i helpu pobl o bob oed a chefndir i ddysgu sgiliau CPR a defnyddio diffibrilwyr:

  • Yn 2019-20, ariannodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru arbenigwr i ddysgu CPR mewn ysgolion uwchradd. Yn dilyn adborth cadarnhaol, maent wedi gweithio gyda’i gilydd i ehangu cwmpas y rhaglen i gynnwys academïau pêl-droed ar draws Cymru.
  • Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu ac yn ariannu model lle mae pob myfyriwr meddygol sy’n wedi’i hyfforddi i wneud CPR yn hyfforddi myfyrwyr eraill. Bydd y cynllun peilot yn dechrau y mis hwn, ac unwaith iddo gael ei werthuso, y gobaith yw ei gyflwyno mewn prifysgolion eraill.
  • Mae myfyrwyr ffilm ail flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru wedi gwneud ffilm fer yn dweud stori dyn ifanc a lewygodd ar ei ffordd adref ar ôl noson allan yng Nghaerdydd. Achubodd ei ffrindiau ei fywyd diolch i gymorth y gwasanaethau brys a’u harweiniodd drwy’r broses CPR a sut i ddefnyddio’r diffibriliwr gerllaw.
  • Bydd Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli 735 o gynghorau tref a chymuned, yn cyflogi arweinydd i gydlynu gwaith yn ymwneud â CPR a diffibrilwyr mewn cymunedau, gan gynnwys sicrhau bod diffibrilwyr wedi’u cofrestru ac yn gweithio’n iawn.

Yn y gorffennol, y bobl sy’n prynu diffibrilwyr sydd wedi penderfynu ble i’w lleoli yn y gymuned. Ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae Rhwydwaith y Galon Cymru wedi mapio lleoliadau’r holl ddiffibrilwyr sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae’r wybodaeth hon, ynghyd â’r data am ble y mae pob achos o ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty wedi digwydd yng Nghymru, yn dangos bod angen ystyried safbwynt mwy strategol wrth brynu diffibrilwyr newydd.

Mae Achub Bywydau Cymru yn recriwtio rheolwr clinigol ar gyfer y rhaglen ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty, i ddatblygu fframwaith i oruchwylio ble y caiff diffibrilwyr eu lleoli, sut y cânt eu rheoli, sut y cânt eu defnyddio, a chydlynu hyfforddiant CPR ar y cyd â phartneriaid. Mae hefyd yn recriwtio saith cydlynydd cymunedol Achub Bywydau Cymru.

Mae cymunedau a sefydliadau sydd eisoes yn meddu ar ddiffibrilwyr yn cael eu hannog i’w cofrestru ar The Circuit – mae mwy na 5,420 wedi’u cofrestru. Ond dim ond ychydig dan 50% o’r diffibrilwyr hyn sydd wedi’u cofrestru â gwarcheidwaid er mwyn gofalu’n rheolaidd bod pethau fel batris a phadiau yn gweithio’n iawn. Mae Achub Bywydau Cymru yn darparu grant gwerth £50,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru i adfer diffibrilwyr nad ydynt mwyach yn addas i’r diben.

Ar 15 Medi, cyhoeddais £500,000 yn rhagor i brynu bron i 500 o ddiffibrilwyr eraill. Bydd grwpiau cymunedol a sefydliadau yn gallu gwneud cais am ddyfais gan Achub Bywydau Cymru. Gofynnir i unrhyw sefydliad sy’n dymuno gwneud cais fodloni sawl maen prawf mynediad, gan gynnwys:

  • Ar hyn o bryd, nid oes diffibriliwr o fewn 500m i’r lleoliad dan sylw
  • Mae’r sefydliad yn prynu neu’n codi arian i brynu cabinet wedi’i wresogi ar gyfer y diffibriliwr, i’w osod ar wal allanol mewn ardal sy’n hygyrch bob awr o bob dydd
  • Mae cyflenwad trydan ar gael fel bod modd cynnal a chadw’r diffibriliwr yn iawn
  • Bydd y diffibriliwr ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio bob awr o bob dydd
  • Bydd y sefydliad yn cofrestru’r diffibriliwr ar gronfa ddata The Circuit
  • Bydd yn penodi gwarcheidwad ar gyfer y diffibriliwr (i wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd)
  • Cynhelir sesiynau i godi ymwybyddiaeth o sgiliau CPR/defnyddio diffibrilwyr ar gyfer unigolion sy’n rhan o’r sefydliad/grŵp.

Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon. Gall pob un ohonom helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud CPR a defnyddio diffibriliwr mor fuan â phosibl.