Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn 2014-15, yn ogystal â'r ystyriaethau tymor hwy ar gyfer y Cynlluniau.

O 1 Ebrill 2013, ar y cyd â llywodraeth leol, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ledled Cymru, a’r rheini wedi’u rhagnodi’n ganolog. Sefydlwyd y Cynlluniau mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a darparu 10% yn llai o gyllid ar gyfer trefniadau i gynnig cymorth y Dreth Gyngor yn y dyfodol.

Mae Cynlluniau newydd Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn rhoi cymorth ariannol i helpu mwy na 320,000 o gartrefi i dalu biliau’r Dreth Gyngor ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £22m yn ychwanegol ar gyfer 2013-14 i gynorthwyo awdurdodau lleol i weithredu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sy'n golygu mai £244m yw cyfanswm y ddarpariaeth. Mae hyn yn golygu bod yr holl hawlwyr cymwys yn parhau i gael y cymorth llawn, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU.  Rydym wedi amddiffyn tua 200,000 o aelwydydd oedd yn wynebu gorfod talu rhywfaint o Dreth Gyngor am y tro cyntaf, sef yr union aelwydydd sydd bellach yn cael trafferth ymdopi â diwygiadau lles eraill Llywodraeth y DU.

Mae'r Rheoliadau a gyflwynodd Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn gyfyngedig i 2013-14 yn rhinwedd cymal machlud y cytunwyd arno gyda'r gwrthbleidiau y llynedd.  Yn ogystal â hynny, mae pwysau ychwanegol ar Gyllideb Llywodraeth Cymru a chanlyniad adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn golygu nad ydym mewn sefyllfa mwyach i wneud iawn am gyfanswm y diffyg cyllid yn 2014-15. O ganlyniad, rwy'n gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i ddatblygu Rheoliadau newydd y byddaf yn eu gosod ym mis Tachwedd 2013.

Rwy’n ymrwymedig i sicrhau bod ein Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus. O ganlyniad, rwyf wedi cytuno gyda’r Cabinet, wrth ddatblygu’r Rheoliadau newydd, y byddwn yn cadw’r Fframwaith Cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Ebrill. Rydym hefyd wedi cytuno i gadw hawliau’r hawlwyr cymwys ar eu lefelau cyfredol am flwyddyn arall.

Byddaf hefyd yn manteisio ar y cyfle i wneud y Rheoliadau newydd er mwyn:

  • Ymgorffori gwelliannau gofynnol ar gyfer rhai newidiadau diwygio lles;
  • Symleiddio'r broses ar gyfer hawlwyr ymhellach, a lle bo'n bosibl, lleihau costau gweinyddu;
  • Ystyried unrhyw addasiadau ymarferol y mae eu hangen ar sail ein profiad o fisoedd cyntaf y Cynlluniau.

Fel y llynedd, bydd y Rheoliadau drafft yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad technegol manwl cyn eu gosod i'r Cynulliad eu hystyried yn ffurfiol. Byddaf yn cyhoeddi'r ymgynghoriad hwn cyn hir ac yn dosbarthu'r deunydd i'r Aelodau ei ystyried. Mae'r amserlen ar gyfer gwneud y setiau gofynnol o Reoliadau, sy'n darparu ar gyfer craffu ffurfiol, i'w gweld fel Atodiad i'r datganiad hwn.

Mae'r penderfyniadau hyn ynghylch y Rheoliadau yn osgoi'r sefyllfa sydd wedi codi yn Lloegr lle ceir mwy na 300 o wahanol fathau o Gynlluniau. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn rhoi llai o gymorth i hawlwyr oedran gweithio – mae rhai'n ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd dalu lleiafswm o 30% o'u hatebolrwydd ar gyfer y Dreth Gyngor. Roedd Llywodraeth Cymru yn benderfynol o osgoi ‘loteri god post’ fel hyn, a darparu cefnogaeth gyson ledled Cymru. Rydym yn amddiffyn aelwydydd, ac rydym hefyd yn gwarchod awdurdodau lleol rhag rhai o'r costau a'r risgiau ariannol a welir yn Lloegr, fel y rheini sy'n codi o lunio'u Cynlluniau eu hunain, cyfraddau casglu is a chyhoeddi biliau gwerth isel ychwanegol a niferus.

Fel eleni, rhagwelir y bydd diffyg mwy sylweddol yn y cyllid ar gyfer Cynlluniau 2014-15 gan Lywodraeth y DU. Er na all Llywodraeth Cymru barhau i bontio’r bwlch, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, rydym wedi ymrwymo i barhau i gynorthwyo aelwydydd sydd mewn angen. Rwyf felly wedi gwneud cynnig i lywodraeth leol i rannu costau rheoli'r diffyg ar gyfer eleni.

Mae'r cynnig hwn yn adlewyrchu natur gyffredin y Cynlluniau, sydd wedi'u datblygu ar y cyd â llywodraeth leol i roi cymorth i dalu biliau’r Dreth Gyngor, costau y penderfynir arnynt yn lleol. Gyda’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennym y llynedd, yn ogystal â'r cyllid ar gyfer costau pontio, rydym wedi rhoi mwy na £40m i helpu awdurdodau lleol i weithredu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Mae’n hanfodol hefyd ein bod yn datblygu dull mwy hirdymor o ddarparu cymorth ar gyfer y Dreth Gyngor yng Nghymru, Felly, rwyf wedi comisiynu adolygiad i ystyried yr opsiynau. Rwy’n awyddus i ddod o hyd i ddull a fydd yn rhoi cymorth hirdymor cynaliadwy a theg o fewn y cyllid sydd ar gael. Caiff y model newydd hwn ei weithredu o 2015-16 ymlaen.

Bydd yr adolygiad yn edrych sut i wneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael i ddarparu cymorth drwy asesu’r opsiynau posibl a'u heffaith ar gyllid cyhoeddus a gwasanaethau lleol, yn ogystal ag edrych ar y goblygiadau ar gyfer y rheini sy'n derbyn cymorth y Dreth Gyngor ar hyn o bryd a thalwyr eraill y Dreth Gyngor. Bydd yn cynnwys dadansoddiad o’r Cynlluniau sydd ar waith yn Lloegr ac effeithiau diwygio’r system les er mwyn nodi opsiynau ymarferol, a modelu'u heffaith debygol.  Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy'n cynnwys swyddogion, cynrychiolwyr llywodraeth leol a'r Trydydd Sector yn goruchwylio'r gwaith hwn.

Ein nod yn y pen draw yw sefydlu trefniadau cynaliadwy sy'n deg i dderbynwyr drwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Yng nghyd-destun amserlenni tynn, llai o gyllid a chyfyngiadau ariannol a deddfwriaethol sylweddol, fodd bynnag, ni ddylem dwyllo'n hunain ynghylch pa mor heriol fydd cyflawni hyn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwn wrth iddo fynd yn ei flaen.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r Aelodau ac oherwydd y pwysau sylweddol arnom o ran amser i gwblhau’r trefniadau ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2014-15. Os bydd yr Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fodlon gwneud hynny.