Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i sefydlu Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn Rhaglen Lywodraethu 2021. Mae hyn yn ymateb i’r angen i gael tystiolaeth gryfach er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru sydd wedi dod yn amlycach fyth yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’r tair uned dystiolaeth benodol wedi cael eu sefydlu a byddant yn cydweithio fel Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd. Gwaith yr unedau fydd gwella ansawdd, manylder a hygyrchedd y data sydd ar gael am unigolion â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig. Bydd hyn yn caniatáu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy gwybodus y gellir monitro a gwerthuso eu heffaith. Yn ei dro, bydd hyn yn ysgogi gwell canlyniadau i bobl â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig ac yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o greu Cymru mwy cyfartal.

Yr wythnos hon cyhoeddwyd Strategaeth a blaenoriaethau’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd.

Datblygwyd y Strategaeth gyda rhanddeiliaid ac mae'n disgrifio cwmpas, cylch gwaith a ffyrdd o weithio'r Unedau. Mae'r ddogfen flaenoriaethau’n nodi'r hyn y bydd yr Unedau yn ei wneud i gyflawni eu nodau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy. Y bwriad yw y bydd y ddwy ddogfen yn ddogfennau byw. Ni fwriedir i'r blaenoriaethau fod yn rhestr gyflawn o ymrwymiadau i'r Unedau. Maent yn debygol o newid wrth i grwpiau rhanddeiliaid a grwpiau atebolrwydd ddatblygu eu ffordd o feddwl a rhoi cyfeiriad pellach i’r gwaith yn y maes hwn.

Cyfrifoldebau allweddol yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yw:

  • Asesu'r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â thystiolaeth ynghylch nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig.
  • Deall ac asesu effaith bylchau mewn tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb.
  • Asesu, blaenoriaethu a chwmpasu prosiectau i lenwi bylchau allweddol drwy wella a chysylltu ffynonellau data presennol a datblygu ffynonellau newydd o dystiolaeth cydraddoldebau, lle bo angen.
  • Gwella ansawdd a hygyrchedd ffynonellau data cydraddoldeb i Lywodraeth Cymru a defnydd allanol ehangach.
  • Cefnogi ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu, megis y rhai sy'n ymwneud â gwaith teg. Mae hyn yn cynnwys data i gefnogi'r Garreg Filltir Genedlaethol i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac o ran ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050.
  • Darparu tystiolaeth a chyngor i gefnogi a gwerthuso cynlluniau gweithredu cydraddoldeb allweddol Llywodraeth Cymru, megis y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gwaith y Tasglu Hawliau Anabledd, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, a’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft.
  • Ymgysylltu a gweithio'n barhaus â grwpiau a fforymau cydraddoldeb er mwyn deall a llywio meysydd ymchwil â blaenoriaeth gan gynnwys Grŵp Atebolrwydd Cymru Wrth-hiliol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, yr Is-grŵp Cydraddoldeb Rhywiol a'r Grŵp Rhanddeiliaid Arbenigol LHDTC+.
  • Defnyddio ac ystyried pob math o dystiolaeth a datblygu ein dealltwriaeth o brofiad bywyd drwy sefydlu dull o gydgynhyrchu
  • Defnyddio tystiolaeth i amlygu arferion da a newid cadarnhaol a chynnal asesiad cymharol o bolisïau a sefydliadau.

Mae'r Unedau wedi ymrwymo i weithio ar y cyd cyn belled â phosibl, a hynny ar lefel rhaglen a lefel prosiect. Maent wedi dechrau prosiect peilot i brofi cwestiynau sy'n berthnasol i'r model cymdeithasol o anabledd gan ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu. Byddant yn gwerthuso'r peilot hwn ac yn rhannu'r hyn a ddysgwyd am gydgynhyrchu ac ymchwil o fewn Llywodraeth Cymru a gyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus.