Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru'n parhau â’i hymrwymiad i sicrhau system gyllido addysg uwch sefydlog, cynaliadwy a blaengar, gan ymateb hefyd i'r newidiadau annisgwyl sy'n cael eu cyhoeddi i'r system yn Lloegr.

Yn fy natganiad yn y Senedd fis Gorffennaf, bu imi gadarnhau y bydd ein diwygiadau yn arwain at setliad cyllido addysg uwch sy'n cefnogi myfyrwyr pan mae angen y gefnogaeth honno arnynt fwyaf. Fe wnes i hefyd gadarnhau bod angen bod yn realistig a deall nad yw'r systemau yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu ar eu pen eu hunain, yn hollol ar wahân. Mae'n rhaid inni ddarparu fframwaith ariannu a rheoleiddio sy’n caniatáu i’n sefydliadau'n gystadlu ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y sefyllfa wleidyddol a’r ansicrwydd yn Lloegr yn cael effaith ar eu gallu i ddilyn llwybr cyson o ran datblygu polisi a syniadau ar gyfer addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr. Ni wnaf ganiatáu i'r fath ansicrwydd a diffyg eglurder ein hatal, yma yng Nghymru, rhag sicrhau system addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr sy'n sefydlog a chynaliadwy.

Rwyf felly'n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i roi ein hymateb i Adolygiad Diamond ar waith. Hon fydd y system fwyaf blaengar a theg yn y DU. Bydd yn cynnig cymorth cyfartal ar draws pob lefel a dull astudio nas gwelwyd ei thebyg yn y DU na'r UE o'r blaen. Gobeithio bydd y rhai sy'n gyfrifol am gynnal adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o Addysg Uwch yn manteisio ar y cyfle i edrych ar yr adroddiad arbennig a luniwyd gan Syr Ian Diamond, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru iddo.

Roeddwn yn falch bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu gwrando ar bryderon y Llywodraeth hon a sefydliadau eraill o ran y trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr. Unwaith y daw ein trafodaethau gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi i gasgliad cadarnhaol, rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau i wneud y canlynol o 1 Ebrill 2018 ymlaen:

  • Cynyddu'r trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr israddedig o £21,000 i £25,000;
  • Bydd y trothwy newydd hwn yn berthnasol i'r rheini sydd eisoes wedi cymryd benthyciad a'r rheini a fydd yn cymryd benthyciad yn y dyfodol ar gyfer ffioedd dysgu a chostau byw ar gyrsiau israddedig amser llawn a rhan-amser o dan y system sydd ar waith ers 2012;
  • Bydd y trothwy isaf ar gyfer cyfraddau llog newidiol ar fenthyciadau myfyrwyr ers 2012 hefyd yn codi i £25,000 ar 6 Ebrill 2018, a'r trothwy uchaf yn codi i £45,000 o £41,000 ar yr un dyddiad. Bydd y trothwyon ar gyfer ad-dalu a llog newidiol yn cael eu haddasu'n flynyddol yn unol ag enillion cyfartalog wedi hynny; 
  • Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar drothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr cyn 2012, y benthyciadau cyn hynny a oedd yn debycach i forgeisi, na benthyciadau ar gyfer graddau meistr.

Rwyf yn bryderus, o hyd, am y gyfradd llog a godir ar fyfyrwyr wrth iddynt astudio a byddaf yn parhau i drafod hyn gyda'r Gweinidogion priodol yn Lloegr.
   
O ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol yn Lloegr a'r cyfyngiadau a osodir ar Lywodraeth Cymru gan Drysorlys Ei Mawrhydi, rwyf wedi ystyried ein cynlluniau o ran lefelau ffioedd dysgu'r dyfodol yn ofalus. Ar ôl ymgynghori â'n Prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gallaf felly gadarnhau mai'r uchafswm ar gyfer ffioedd dysgu fydd £9,000 o hyd.

Rwy'n deall y gallai hyn achosi ychydig o gymhlethdod yn y tymor byr i’r sector prifysgolion ac y bydd eu cynlluniau ariannol eisoes yn cynnwys incwm ychwanegol o'r cynnydd mewn ffioedd dysgu. Er hynny, yn wahanol i'r Llywodraeth yn Lloegr, byddaf yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'n Cyngor Cyllido i sicrhau nad yw ein sefydliadau yn wynebu problemau ariannol yn y tymor byr o ganlyniad i'r newid hwn.

Gallaf felly gadarnhau'r canlynol:

  • Byddaf yn dyrannu £6m ychwanegol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn iddynt fynd i'r afael â goblygiadau tymor byr y newid demograffig, yn ogystal â'u galluogi i ddechrau paratoi ar gyfer goblygiadau Brexit; 
  • Bydd hyd at £10m ychwanegol ar gael i CCAUC i fynd i'r afael ag unrhyw faterion brys sy'n codi o'r newidiadau i’r ffioedd dysgu; 
  • Bydd £5m arall yn cael ei ddyrannu i CCAUC yn 2018-19 a 2019-2020 i ganiatáu i'n sefydliadau roi bwrsariaethau a grantiau i fyfyrwyr ôl-radd, cyn i'r pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr ôl-radd gael ei roi ar waith yn gyfan gwbl yn ystod 2019/20. Mae hyn yn cyd-fynd â'm cyhoeddiad ym mis Gorffennaf, a bydd yn gymhelliant i fyfyrwyr o Gymru ddychwelyd i Gymru i astudio, yn unol â'n hymateb i Adolygiad Diamon.  

Fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb amlinellol ddrafft 2018-19, bydd cyllid cyfalaf
ar gael i gefnogi'r gwaith o ad-drefnu'r ystâd dros y tair blynedd nesaf.