Y Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
Ar 30 Hydref, cefais y cyfle i fod yn bresennol mewn cyfres o gyfarfodydd rhynglywodraethol yn Glasgow, ac yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy’n darparu’r datganiad hwn i rannu gwybodaeth â’r Senedd amdanynt.
Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig gyda Phrif Weinidog y DU, y Gwir Anrh Andy Burnham AS; Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrh John Swinney AS, a’r Gweinidog Gwladol (y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol a Chysylltiadau Ewropeaidd), y Gwir Anrh Hamish Falconer AS.
Rhoddodd y cyfarfod hwn gyfle pwysig i gyd-drafod datblygiadau arwyddocaol byd-eang fel y gwrthdaro yn Wcráin a’r Dwyrain Canol a’u heffaith ar y DU. Cafwyd y diweddaraf ar fasnach y DU a’r berthynas ehangach rhwng y DU a’r UE. Yn ogystal, roedd blaenoriaethau domestig, gan gynnwys costau byw ac ymatebion i danau gwyllt a digwyddiadau tywydd eithafol ar yr agenda, ynghyd â’r angen i barhau i gryfhau gwydnwch cenedlaethol.
Gwnes i groesawu’r manteision i Gymru o ran masnach a rhoddais bwysau ar Lywodraeth y DU i fynd ar drywydd aelodaeth o Undeb Tollau’r UE a’r Farchnad Sengl a lleihau’r rhwystrau masnach a hybu twf economaidd. Cefnogais yn gryf ymdrechion i ailosod a chryfhau’r berthynas rhwng y DU a’r UE, yn ogystal â chydweddiad agosach pan fo hyn yn hybu buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Fe wnes i ailadrodd pwysigrwydd sicrhau bod buddiannau Cymru a chyfrifoldebau datganoledig yn cael eu hadlewyrchu drwy weithgarwch ymgysylltu cynnar wrth i’r berthynas rhwng y DU a’r UE a pholisi masnach y DU ddatblygu. Gofynnais am adolygiad o’r mesurau masnach dur yn gynt na’r adolygiad 12 mis arfaethedig ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, a hynny yn sgil ystyried sefyllfa unigryw Cymru a’r effaith ar gynhyrchwyr dur Cymru. Gwnes i hefyd fyfyrio ar yr achosion difrifol o danau gwyllt a brofwyd gennym yr haf diwethaf gan gydnabod yr angen i lywodraethau weithio mewn ffordd gydgysylltiedig.
Disgwylir i ddatganiad ynghylch y cyfarfod hwn gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn fuan.
Cefais gyfle hefyd i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ar Dwf Da Ledled y DU ynghyd â’r Gwir Anrh Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Brif Weinidog y DU, y Gwir Anrh Andy Burnham AS.
Hefyd yn bresennol ar lefel Weinidogol: Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrh John Healey AS; y Prif Ysgrifennydd Gwladol, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrh Louise Haigh AS; yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y Gwir Anrh Pat McFadden AS; yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach, y Gwir Anrh Jonathan Reynolds AS; y Gweinidog Gwladol (y Gweinidog Ynni), Michael Shanks AS; yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y Gwir Anrh Angela Rayner AS; Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrh Douglas Alexander AS; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh Stephen Kinnock AS; yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol a Chapten Gwarchodlu’r Brenin o Iwmyn y Gard, y Farwnes Anderson o Stoke-on-Trent; a’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol a Chysylltiadau Ewropeaidd, y Gwir Anrh Hamish Falconer AS, a Phrif Weinidog yr Alban.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar flaenoriaethau economaidd ledled y DU. Cyflwynais y ddadl unwaith eto dros bartneriaeth yn ymwneud â thwf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hynny i geisio cysoni buddsoddi i gefnogi ein cenhadaeth yn ymwneud â chynhyrchiant, swyddi da ac adnewyddu diwydiannol. Rhoddodd y drafodaeth gyfle imi hefyd nodi’r angen i symleiddio rhaglenni cyllido Llywodraeth y DU, a hynny i leihau dyblygu a sicrhau bod buddsoddiad y DU yn gydnaws â gwaith yr Asiantaeth Datblygu Economaidd Cenedlaethol. Ochr yn ochr â hyn, gwnes i ailddatgan y dylid parchu penderfyniadau datganoledig er mwyn sicrhau bod buddsoddiad y DU ac ysgogiadau polisi a gedwir yn ôl yn cynnwys Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn hytrach na’u hosgoi. Ac yn olaf, pwysais am fwy o hyblygrwydd cyllidol, gan ofyn am fwy o bwerau benthyca a chael gwared ar y cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth Gronfa Wrth Gefn Cymru er mwyn galluogi Cymru i ymateb yn fwy effeithiol i gyfleoedd a phwysau.
Cefais gyfarfod dwyochrog ar wahân gyda’r Prif Weinidog hefyd gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol Cymru. Cyflwynais y ddadl unwaith eto dros yr angen i gytuno ar frys ar ffordd ymlaen o ran datganoli plismona, gan ddefnyddio’r rhaglen ddiwygio bresennol a Bil Diwygio’r Heddlu arfaethedig, ochr yn ochr ag ystyried datganoli cyfiawnder yn ehangach. Yn ogystal, tynnais sylw at yr angen i Lywodraeth y DU gydweithio â ni i ystyried datganoli Ystad y Goron. Eglurais fod angen inni wneud cynnydd tuag at ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn, gan gynnwys setliad cyllido teg, yn ogystal â mynd i’r afael â dosbarthiad cyllid HS2. Pwysleisiais hefyd yr achos dros fwy o hyblygrwydd cyllidol, gan gynnwys mwy o bwerau benthyca, cael gwared ar y cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth Gronfa Wrth Gefn Cymru, ac adolygu’r Fframwaith Cyllidol er mwyn galluogi Cymru i ymateb yn fwy effeithiol i gyfleoedd a phwysau. O ystyried y pwysau parhaus o ran costau byw sy’n wynebu llawer o deuluoedd yng Nghymru, cyflwynais yr achos unwaith eto dros yr angen i sicrhau datrysiad brys fel bod taliadau Cynnal yn cael eu hesemptio rhag treth a’u bod yn cael eu diystyru wrth gyfrifo hawl i fudd-daliadau. Nodais hefyd yr angen i symud ymlaen ar frys ar yr ymgynghoriad ynghylch y Dreth ar Dir Gwag.
Cefais fy nghalonogi gan natur adeiladol y drafodaeth, ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau mwy o hyblygrwydd cyllidol ac i wireddu’r addewid ar seilwaith rheilffyrdd.
