Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy’n datgan cyhoeddi’r cynllun blynyddol ar gyfer 2023-2024, sydd wedi ei gynhyrchu gan Yasmin Khan a Johanna Robinson, Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV. Cymeradwyais y cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu’n unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae adran 22 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r cynghorwyr cenedlaethol baratoi cynllun blynyddol yn nodi eu dyheadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rwyf wedi adolygu’r cynllun blynyddol yn diweddar, a chymeradwyo ei gyhoeddi.

Hoffwn ddiolch i’r cynghorwyr am eu gwaith ymgysylltu sylweddol â rhanddeiliaid wrth baratoi ar gyfer darparu’r cynllun blynyddol, gan sicrhau y clywir lleisiau’r rheini sydd â’r mwyaf o angen am fynediad at gymorth a gwasanaethau. Mae’r cynllun yn dangos ymrwymiad y cynghorwyr cenedlaethol i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw ac i ddileu pob ffurf ar drais ar sail rhywedd.