Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18 Medi, rhoddais wybod i'r aelodau fy mod wedi penderfynu sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd pan fyddai'n rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr; gan ddweud y byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am aelodaeth a chylch gorchwyl y Comisiwn yn hwyrach yn yr hydref.

Rwy'n falch o gyhoeddi enwau aelodau eraill y Comisiwn a'i gylch gorchwyl fel a ganlyn:

Aelodaeth

Simon Davies

Yr Athro Elwen Evans CF

Dr Nerys Llewelyn Jones

Juliet Lyon CBE

Sarah Payne CBE

Yr Athro Rick Rawlings

Peter Vaughan QPM CStJ DL

Syr Wyn Williams

Cylch Gorchwyl

Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda'r nod o:

• hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu'r broses adsefydlu;

• sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy'n codi yng Nghymru;

• hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.

Disgwylir i'r Comisiwn ddechrau ar ei waith ym mis Rhagfyr, ac fe fydd yn cyhoeddi adroddiad o'i ganfyddiadau a'i argymhellion yn ystod 2019.

Dyma ddolen at fanylion bywgraffyddol yr aelodau, er gwybodaeth.

http://gov.wales/docs/legislation/justice/171120-membership-cy.pdf