Neidio i'r prif gynnwy

Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi rhoi cryn flaenoriaeth i dai ac rwy'n falch o'r cyfle heddiw i roi'r diweddaraf ar nifer o ymrwymiadau i'r aelodau. Un o'm blaenoriaethau oedd codi safonau tai cymdeithasol ac mae adroddiad wedi'i gyhoeddi heddiw ar brosiect peilot o'r enw Perfformiad Landlordiaid Cymdeithasol o ran Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Ei nod yw datblygu mecanweithiau mwy cadarn ar gyfer asesu llwyddiannau yn erbyn safonau.

Un o'm tasgau cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel y Dirprwy Weinidog dros Dai oedd comisiynu adolygiad annibynnol o Dai Fforddiadwy o dan gadeiryddiaeth Sue Essex. Gofynnwyd i bawb yn y maes tai yng Nghymru roi eu barn a'u hawgrymiadau ynghylch ffyrdd posibl o wella'r system, ac fe'u defnyddiwyd i lunio adroddiad gyda 43 o argymhellion i'w rhoi ar waith. Derbyniais yr adroddiad a rhoddais system gydweithredol newydd ar waith i fynd i'r afael â phob un o'r heriau a nodwyd.

Un o'r argymhellion oedd adolygiad llawn o'r trefniadau ar gyfer gosod cyfraddau rhent tai cymdeithasol. Sefydlwyd grŵp adolygu traws sector, sy'n cynnwys cymdeithasau tenantiaid, i ddatblygu cynigion ar gyfer polisi newydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol a fyddai'n decach ac yn fwy tryloyw. Heddiw cytunais i gynnal ymgynghoriad ar bolisi cyfraddau rhent cymdeithasol arfaethedig.

Yn fwy diweddar, comisiynais adolygiad annibynnol o Gymorth Tai o dan gadeiryddiaeth Syr Mansel Aylward. Yn ei adroddiad gwnaeth grŵp yr adolygiad gyfres o argymhellion ac unwaith eto rwyf wedi cyflwyno proses gydweithredol i fynd trwyddynt a rhoi'r argymhellion ar waith. Rwyf wedi cymeradwyo'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol Cefnogi Pobl sydd wedi'i baratoi'r drwy'r broses hon.

Rwyf wedi cydweithredu'n agos â phartneriaid allweddol yn y sector tai. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i wella tai yng Nghymru a hoffwn roi'r diweddaraf ynghylch y llwyddiannau cyffredinol yn ystod y llywodraeth hon.

Yr egwyddorion a'r dull sy'n ategu'r broses o ddatblygu polisïau tai

Mae ein gweledigaeth ar gyfer tai i'w gweld yn Cymru'n Un ac yn y Strategaeth Dai Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Mae ymgysylltu yn gynnar ac yn agored gyda phartneriaid i drafod polisi a chyflenwi wedi bod yn rhan hollbwysig o'm dull gweithredu a'n llwyddiannau.

Gan ychwanegu at argymhellion Adroddiad Beecham, Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd, rydym wedi mynd ati i sicrhau mai buddiannau dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau sydd wrth wraidd polisïau a chyflenwi, ac rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu polisïau a chynllunio gweithredu a sicrhau'r gwerth gorau i'r bunt Gymreig. O wneud hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sbarduno newidiadau ym maes tai yng Nghymru.

Mae'r dull gweithredu cydweithredol hwn, a ddefnyddiwyd yn gyntaf ym maes tai fel ffordd o fwrw ymlaen ag argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy a oedd o dan gadeiryddiaeth Sue Essex ar y pryd, wedi'i werthuso'n annibynnol. Daeth yr adroddiad annibynnol i'r casgliad bod y dull gweithredu wedi sicrhau cyfeiriad cliriach ar gyfer polisi tai gyda llawer mwy o gyfranogiad gan bartneriaid cyflenwi.

Dyma oedd prif elfennau fy null gweithredu ar gyfer polisi a chyflenwi:

  • Dull gweithredu gwirioneddol o gydweithredol ar gyfer llunio polisïau a'u gweithredu, sy'n rhoi cyfle cyfartal i bob partner ddylanwadu ar y canlyniadau a chyfrannu atynt;
  • Drafftio polisïau gan roi buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth yn ganolbwynt;
  • Rolau a chyfrifoldebau clir, gyda'r Llywodraeth yn parhau i chwarae rôl strategol sydd ar wahân i'r rheini y'n cyflawni swyddogaethau cynllunio/comisiynu;
  • Mwy o berchnogaeth dros yr atebion drwy wahodd pob partner i gyfrannu at adnoddau i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin;
  • Bod yn agored ac yn dryloyw er mwyn gwella cysylltiadau a galluogi trafodaethau anodd lle mae buddiannau'n wahanol;
  • Mwy o bwyslais ar brofi angen a mesur canlyniadau;
  • Hybu arloesi ac arferion da;
  • Defnyddio pwerau deddfwriaethol lle bo'n briodol i gryfhau polisïau.
  • Codi proffil materion tai a disgyblaethau cysylltiedig a sicrhau bod y llywodraeth yn cael ei herio drwy sefydlu grwpiau allanol â chadeiryddion annibynnol i gynghori ar feysydd allweddol;
  • Sefydlu dull rheoleiddio seiliedig ar risg a chanlyniadau ar gyfer Cymdeithasau Tai.

Y llwyddiannau

Drwy'r dull gweithredu hwn a'r egwyddorion ategol, rydym wedi sicrhau canlyniadau gwell o safbwynt tai a thenantiaid yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Rhagori ar ein targed o ddarparu 6500 o gartrefi dros gyfnod pedair blynedd y llywodraeth;
  • Buddsoddi £430 miliwn o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ein stoc tai, gyda'r sector cymdeithasau tai'n cyfrannu £265 miliwn yn ychwanegol drwy fenthyca ychwanegol;
  • Creu 1200 o gyfleoedd hyfforddi a swyddi yn sgil buddsoddi mewn tai gan ddefnyddio pecynnau cymorth i2i a dulliau recriwtio a hyfforddi a dargedir;
  • Parhau i roi ar waith, a sicrhau bod y gwahanol sectorau yn cytuno â, newidiadau i Cymorth Cysylltiedig â thai er mwyn defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol a sicrhau mai buddiannau defnyddwyr gwasanaethau sydd wrth wraidd y broses darparu gwasanaethau;
  • Cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad yn ein stoc tai cymdeithasol drwy ganolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi gwella cyflwr stoc ac ynghyd ag arbed, wedi gostwng costau ynni i denantiaid.
  • Fframwaith Rheoleiddio newydd cadarn a heriol i gymdeithasau tai sy'n canolbwyntio ar denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau ac sydd â'r nod o sicrhau canlyniadau clir.

Yr Angen am Dai a'r Cyflenwad Tai

Bellach, dyrennir arian ar gyfer buddsoddiadau mewn tai cymdeithasol newydd ar sail yr angen am dai yng Nghymru. Yn y gorffennol, roedd angen penderfynu a oedd datblygiad tai yn ymarferol ac wedyn seilio penderfyniadau cyllid ar hyn. Comisiynwyd ymchwil gan Alan Holmans i bennu'r angen am dai fesul Awdurdod Lleol a seiliwyd penderfyniadau ynghylch bwrw ymlaen ar yr ymchwil hwn.

Mae rôl Awdurdodau Lleol hefyd wedi'i chryfhau fel eu bod yn pennu'r blaenoriaethau ar gyfer datblygiadau newydd yn lleol a'u bod yn fwy cyfrifol am eu penderfyniadau drwy orfod paratoi Datganiadau Datblygu Tai Fforddiadwy blynyddol.

Mae'r gofyniad hwn wedi'i gryfhau drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad i sicrhau'r manteision mwyaf o ddefnyddio 'Cytundebau Adran 106'. Mecanwaith cynllunio yw hwn sy'n gofyn i ddatblygwyr gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy wrth adeiladu cartrefi ar gyfer y sector preifat.

Atal Digartrefedd

Rydym wedi canolbwyntio ar roi cyngor a chymorth i'r rheini sy'n wynebu perygl o golli'u cartrefi, gan leihau nifer y bobl a gofnodir yn ddigartref gan Awdurdodau Lleol.

Yn ogystal, defnyddiodd y cynllun llwyddiannus Achub Morgeisi grant tai cymdeithasol i alluogi'r rheini sy'n wynebu perygl o orfod rhoi eu cartrefi i fenthycwyr morgeisi eu rhentu yn lle. Rhoddwyd cymorth i 384 o aelwydydd gan atal 808 o oedolion a 383 o blant rhag bod yn ddigartref.

Cymorth cysylltiedig â Thai

Ymrwymodd Cymru'n Un i roi cyllid ychwanegol i'r rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym wedi cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau yn y gyllideb ac mae ein cyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn diogelu hyn, gyda £140 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl yn 2010/11.

Ym mis Rhagfyr 2009, comisiynais Syr Mansel Aylward i arwain adolygiad o'r rhaglen gyfan. Roedd yr argymhellion a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2010 yn radical o ran y ffordd orau o roi cymorth cysylltiedig â thai. Mae darparwyr, comisiynwyr a landlordiaid yn gweithio gyda'm swyddogion i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Chwiliodd y grŵp adolygu hefyd am dystiolaeth o werth am arian, gan adeiladu ar astudiaeth gan Matrix yn 2006. Daeth y grŵp i'r casgliad fod pob punt a wariwyd drwy'r rhaglen hon wedi arbed o leiaf £1.68 o arian cyhoeddus.

Safonau Tai

Safon Ansawdd Tai Cymru yw'r prif fecanwaith ar gyfer sicrhau bod buddsoddi yn parhau i gael ei ddefnyddio i foderneiddio pob cartref yn y sector. Mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol gyrraedd y safon erbyn 2012 oni bai bod estyniad wedi'i gymeradwyo. Rydym wedi cynnal cyfnod peilot ar gyfer mecanweithiau mwy cadarn i asesu cyflawniad yn erbyn safonau. Heddiw cyhoeddais yr adroddiad Perfformiad Landlordiaid Cymdeithasol o ran Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Caffael a'r Pecyn Cymorth i2i

Mae'r pecyn cymorth Gallu Gwneud, a gafodd ei ddatblygu gan y Sefydliad Tai Siartredig ac i2i, yn rhoi'r canllawiau a'r cyngor penodol sydd eu hangen i sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn cael eu cynnig naill ai drwy adeiladu tai newydd neu drwy gontractwyr sydd wedi ennill contracrau Safon Ansawdd Tai Cymru. Drwy ddefnyddio'r mecanwaith hwn a Dulliau Recriwtio a Hyfforddiant a dargedir (menter debyg i'r un a fabwysiadwyd gan gonsortiwm Integrate) mae'r sector tai wedi creu bron 1200 o gyfleoedd hyfforddiant a gwaith hyd yma. Awgrymir bod meysydd eraill o fuddsoddiad cyhoeddus heblaw tai yn dilyn yr arferion da hyn.

Sicrhau cynifer o Adnoddau â phosibl drwy'r Sector Preifat

Cydnabu'r Strategaeth Dai Genedlaethol Gwella Bywydau a Chymunedau, y lansiais y llynedd, na fyddai'r sector tai cymdeithasol byth yn gallu diwallu anghenion tai ar ei ben ei hun, a bu'n hybu defnyddio'r sector preifat.

Yn benodol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i sefydlu asiantaethau gosod tai cymdeithasol. Mae'r asiantaethau hyn yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd y sector i reoli cartrefi preifat ac yn cynnig opsiynau i bobl sydd ar restri aros am gartrefi.

Tai a'r Newid yn yr Hinsawdd

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn gwella safonau effeithlonrwydd ynni yn y sector tai cymdeithasol. O dan gam cyntaf arbed, mae cartrefi cymdeithasau tai mewn ardaloedd adfywio wedi bod drwy brosesau ôl-ffitio gan gynnwys defnyddio ynni'r haul i gynhesu dŵr a chynhyrchu trydan. Mae ail gam arbed bellach yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael cyllid Ewropeaidd i estyn darpariaeth ar draws cartrefi preifat a chartrefi awdurdodau lleol.

Yn ogystal, mae cynllun peilot o oddeutu 300 o gartrefi wedi'i ddatblygu ar lefel Cod 4 a 5 y Cod Cartrefi Cynaliadwy, sef safon achredu ar gyfer cynaliadwyedd. Gellir defnyddio'r adborth gwerthfawr sydd wedi deillio o'r cyfnodau peilot i ddatblygu polisi yn y maes hwn.

Bydd y cynlluniau hyn yn lleihau allyriadau carbon ac yn cynnig manteision i denantiaid drwy leihau costau ynni.

Fframwaith Rheoleiddio newydd

Daeth i'r amlwg drwy Adolygiad Essex fod angen cynnal adolygiad manwl o drefniadau rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai.

Mae nifer o'r prosesau wedi'u hail-lunio bellach ac mae Fframwaith Rheoleiddio newydd ar fin cael ei gyflwyno. Mae'n cydnabod ac yn cefnogi rôl adfywio cymunedol ehangach ar gyfer Cymdeithasau Tai, gan ychwanegu at y gwasanaethau landlordiaid y maent yn eu darparu ar hyn o bryd. Mae hefyd yn disgwyl iddynt ddefnyddio'r holl adnoddau y gallant i ddarparu mwy o dai a sicrhau mwy o fanteision cymunedol. Mae'r trefniant newydd yn seiliedig ar bwerau ymyrraeth cryfach.

Bydd y Mesur Tai, a gafodd ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, yn rhoi statws statudol i'n fframwaith rheoleiddio. Bydd hyn yn helpu i godi hyder benthycwyr ynghylch benthyg i Gymdeithasau Tai yng Nghymru.

Diwygio'r Cyfrif Refeniw Tai

Mae ad-dalu arian dros ben o Gyfrifon Refeniw Tai Awdurdodau Lleol Cymru ers 1999 wedi bod yn fwy o faich ar Gymru nag ar Awdurdodau Lloegr neu'r Alban. Yn ystod y cyfnod hwnnw, Awdurdodau Lleol Cymru sydd wedi talu 66% o'r cymorthdaliadau negyddol er eu bod nhw'n berchen ar 6% yn unig o stoc tai y tair gwlad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi egluro bod hyn yn anghyfiawn a bod angen ei ddiwygio ar unwaith. Mae trafodaethau gyda'r Trysorlys yn parhau ac rydym am sicrhau cydraddoldeb â'r Alban gan symud i ffwrdd o'r trefniadau yn Lloegr drwy sicrhau ymreolaeth yn y maes hwn.

Denu buddsoddiad ychwanegol

Un o effeithiau cyntaf y dirwasgiad oedd i nifer o gyrff ariannol ddechrau peidio â rhoi benthyg arian ar gyfer tai cymdeithasol. Oherwydd hynny, cydnabuwyd bod y sector yn rhy ddibynnol ar y math hwn o gyllid hirdymor a bod angen ystyried defnyddio marchnadoedd cyfalaf. Mae Tai Cymunedol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cydweithio ag eraill i ystyried a allai arian cyfalaf helpu i sicrhau mwy o werth am y Grant Tai Cymdeithasol ac yn cynnig ffynhonnell ariannu arall. Penderfynwyd y gallai hyn fod y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu mwy o gartrefi canolradd. Mae nifer o Gymdeithasau Tai yn gwneud gwaith pellach i asesu a oes modd defnyddio'r model hwn yn ehangach.

Yr heriau o'n blaen

Mae canlyniadau cadarnhaol wedi'u sicrhau i denantiaid, i'r rheini sy'n chwilio am dŷ a chymunedau ehangach drwy'r polisïau tai a buddsoddiadau dros oes y llywodraeth hon. Fodd bynnag, bydd y llywodraeth nesaf yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys y toriadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r gyllideb yn cael ei thorri wrth i ddigartrefedd godi a'r galw gynyddu am stoc tai cymdeithasol. Yn sgil rhaglen O Fudd-dâl i Waith Llywodraeth y DU mae budd-daliadau lles yn cael eu torri'n gyffredinol ac mae'r Budd-dal Tai yn cael ei dorri'n benodol. Bydd y toriadau hyn ynghyd â TAW cynyddol a chostau bwyd a thanwydd uwch yn golygu y bydd incwm nifer o denantiaid ychydig yn llai, gan greu caledi ac anawsterau i gymunedau. Yn sgil hyn, bydd yn arbennig o bwysig denu adnoddau allanol ychwanegol i ddarparu tai fforddiadwy yng Nghymru a sicrhau bod system annheg y Cyfrif Refeniw Tai Awdurdodau Lleol yn cael ei diwygio.