Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais ddatganiad yn ddiweddar am y Broses Adolygu Technegol sy’n gyfrwng i ffermwyr ofyn am gael a ddylai gael ei ailgategoreiddio at ddiben y Cynllun Taliad Sylfaenol newydd.  Mae’r Broses yn mynd rhagddi’n esmwyth ac yn elwa ar gefnogaeth cymdeithasau’r diwydiant.

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau yn y broses yn gofyn am gael ailgategoreiddio rhostir ond caiff ceisydd ofyn am ailgategoreiddio tir yn y rhanbarthau talu eraill hefyd.  Mae rhyw ychydig wedi gofyn am ailgategoreiddio tir Dan Anfantais Fawr (ADAF) yn Dir Arall, y rhanbarth sy’n talu fwyaf.  Bydd p’un a ddylid caniatáu newid categori tir yn dibynnu ar botensial y tir i gynhyrchu.  Am hynny, yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru, dim ond aelodau Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol neu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig gaiff paratoi adroddiadau asesu ar gyfer ailgategoreiddio tir ADAF fel rhan o gam 2 y Broses Adolygu Technegol. Mae gan aelodau’r cymdeithasau hyn y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i baratoi adroddiadau o’r fath.  Mae undebau’r ffermio a chymdeithasau rhanddeiliaid yn cefnogi hyn.  

Rwy’n cydnabod bod ceiswyr sy’n gofyn am ailgategoreiddio ADAF yn cael eu gwahodd i gam 2 yn hwyrach na cheiswyr sydd wedi gofyn am ailgategoreiddio rhostir. Mae’n deg bod pob ceisydd yn cael yr un cyfle i gyflwyno cais, felly rwy’n pennu dyddiad cau hwyrach o 31 Rhagfyr 2014 ar gyfer adroddiadau cam 2 ar Ardaloedd Dan Anfantais Fawr, er mwyn i bawb gael yr un faint o amser i baratoi ar gyfer cam 2. Nid yw hyn yn effeithio ar yr achosion sydd wedi’u cyflwyno eisoes ar gyfer ailgategoreiddio rhostir wedi’u heffeithio; bydd rhaid eu cyflwyno ar gyfer cam 2 erbyn 28 Tachwedd 2014, fel y nodwyd eisoes.