Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, croesawais arweinydd Cyngor Cernyw, y Cynghorydd Linda Taylor, i Gaerdydd wrth inni lofnodi'r Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Cernyw a Chymru ar ein Treftadaeth Geltaidd.

Mae'r cytundeb newydd hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Cernyw yn adeiladu ar ein perthynas gref bresennol ac yn annog rhagor o gydweithio a dealltwriaeth mewn meysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.

Mae llawer o gysylltiadau hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol rhwng Cymru a Chernyw, ac mae gan ein heconomïau a'n poblogaethau lawer o nodweddion tebyg. Mae'r cysylltiadau hyn wedi ein galluogi i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chydweithio mewn sawl maes.

Rydym wedi nodi pedwar maes penodol ar gyfer cryfhau'r berthynas hon ymhellach – darpariaeth dai gynaliadwy, cyflawni sero net, economïau gwledig ffyniannus, a dathlu diwylliant ac iaith. Rwy'n gobeithio y bydd y cydweithio rhyngom yn cael ei ehangu i feysydd eraill yn y dyfodol.

Mae'r cytundeb ar gael yn: https://www.cornwall.gov.uk/the-council-and-democracy/your-council/celtic-heritage-cornwall-wales-collaboration-agreement/

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.