Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw estyniad i’r gostyngiad dros dro yn y dreth trafodiadau tir a gyflwynwyd gennyf ym mis Gorffennaf 2020. Roedd cyfnod y gostyngiad yn y dreth yn berthnasol i drafodiadau preswyl a gwblhaodd ar 27 Gorffennaf 2020, neu wedi hynny, a hyd at 31 Mawrth 2021. Bydd yr estyniad yn berthnasol i drafodiadau sy'n cwblhau o 1 Ebrill 2021 hyd at 30 Mehefin 2021. O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd y cyfraddau a throthwyon mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl y dreth trafodiadau tir yn dychwelyd i’r rheini a oedd yn berthnasol cyn 27 Gorffennaf 2020.  

Nodais fy mhenderfyniad ym mis Gorffennaf 2020 y byddai'r trothwy cychwynnol ar gyfer prif gyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir yn cael ei bennu yn £250,000 o 27 Gorffennaf ymlaen. Mae'r trothwy newydd £70,000 yn uwch na'r trothwy cychwynnol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl a fodolai cyn 27 Gorffennaf. O ganlyniad, dim ond tua 25% o'r rheini sy'n atebol ar gyfer prif gyfraddau’r dreth trafodiadau tir sy'n talu unrhyw dreth o gwbl. Mae pobl sy'n prynu cartref yng Nghymru sy'n costio mwy na £250,000 wedi arbed £2,450 yn fwy na’r hyn a fyddai wedi bod yn daladwy o'r blaen, ac nid yw pobl sy'n prynu cartref yng Nghymru sy'n costio llai na £250,000 wedi talu unrhyw dreth. 

Yn y cyfnod rhwng mis Awst a mis Ionawr, mae’r gostyngiad wedi’i dargedu hwn yn y dreth wedi cefnogi 10,000 o drethdalwyr yng Nghymru a oedd yn atebol ar gyfer prif gyfraddau'r dreth trafodiadau tir. Yn fras, pobl a oedd yn prynu eu cartrefi eu hunain, ac y gallai fod wedi bod angen cymorth ychwanegol arnynt oherwydd y pandemig, oedd y rhain. Yn sgil y gostyngiad, mae trafodiadau eiddo preswyl wedi cynyddu yn 2020-21, o'i gymharu â’r hyn a fyddai wedi digwydd fel arall, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y farchnad dai.

Fodd bynnag, mae'n bwysig parhau i sicrhau bod y gostyngiadau treth dros dro hyn yn parhau wedi’u targedu, ac ni fyddant yn berthnasol i'r rheini sy'n prynu eiddo sy'n agored i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir. Nid yw’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer prynwyr eiddo preswyl sydd wedi’i gaffael fel buddsoddiad neu fel ail gartref wedi newid. 

Rwy’n ymwybodol bod prynwyr tai yng Nghymru sydd wedi ceisio elwa ar y gostyngiad dros dro yn y dreth wedi cael anawsterau, naill ai ar wahanol gamau o'r broses drawsgludo neu forgais neu, yn achos eiddo a adeiledir o’r newydd, oherwydd oedi cyn i ddatblygwyr gwblhau’r gwaith adeiladu. Gallai rhai o’r materion hyn fod yn bethau a fyddai wedi digwydd fel arfer, ond mae'n amlwg hefyd y byddai'r pandemig a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i'w reoli wedi cael effaith ar rai dyddiadau cwblhau. Bydd estyniad syml o gymorth i lawer o'r trethdalwyr hynny yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio. 

Gall penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn ei chynnydd dros dro i’r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp, fel ym mis Gorffennaf, hefyd gael effaith ar y farchnad eiddo yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n bwysig sicrhau nad yw gwyriadau yn y farchnad eiddo yn cael eu dwysáu gan benderfyniadau a wneir yn San Steffan. Mae'n siomedig, unwaith eto, na wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni ymlaen llaw er mwyn inni allu cydweithio a gwneud penderfyniadau ynghylch ein polisi trethi mewn ffordd gydgysylltiedig – byddai hynny wedi sicrhau, felly, fod modd inni ymchwilio i’r data a’r dystiolaeth ar gyfer cefnogi ein dewisiadau.     

Mae’r prif gyfraddau preswyl sy'n gymwys hyd at 30 Mehefin 2021 a'r rhai a fydd yn gymwys o 1 Gorffennaf 2021 ar gael i’w gweld yn https://llyw.cymru/y-cyfraddau-ar-bandiau-trethi-ar-gyfer-y-dreth-trafodiadau-tir